Deall effaith bosibl coronafeirws yng Nghymru

Lawrlwytho

Mae dadansoddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dangos fod Cymru yn wynebu argyfwng swyddi yn dilyn y pandemig gyda disgwyl i ddiweithdra fod yn uwch hyd yn oed na’r lefel a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf, ac effaith neilltuol o ddifrifol ar bobl ifanc.

Mae’n canfod fod 250,000 o swyddi yng Nghymru mewn ‘sectorau cau lawr’. Dyma’r diwydiannau y gwnaeth y mesurau i arafu lledaeniad y feirws effeithio mwyaf arnynt a lle gorfodwyd y nifer fwyaf o busnesau i ostwng masnachu neu gau yn gyfangwbl. Mae bron un ym mhob pump o swyddi (18%) yng Nghymru mewn sectorau cau lawr.

Pe byddai dim ond un mewn pedwar o’r gweithwyr hyn yn colli eu swyddi, gallai diweithdra fod yn uwch na’r lefel a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf.

Mae’r dadansoddiad hefyd yn dangos fod pobl ifanc, menywod a’r rhai gyda’r lefelau cymhwyster isaf yn fwy tebygol o wynebu colli eu swyddi fel canlyniad i’r argyfwng. Mae’n dangos:
• Bod dau mewn tri o’r rhai rhwng 16 a 19 oed (61%) ac un mewn tri (33%) o’r rhai rhwng 20 a 24 oed mewn risg, uwch na grwpiau oedran eraill.
• Bod 22% o fenywod yn gweithio mewn sectorau cau lawr o gymharu â dim ond 15% o ddynion
• Mae un mewn pedwar o’r rhai gyda chymwysterau dan lefel 3 yn gweithio mewn sectorau o’r economi a gafodd eu cau i lawr, o gymharu ag un mewn deg o’r rhai gyda chymwysterau lefel 4.

id before:6417
id after:6417