Cynllun peilot deilliannnau addysg hydredol (LEO)

 

Dewiswyd y Sefydliad Dysgu a Gwaith fel un o’r wyth sefydliad i gymryd rhan yn rhaglen beilot deilliannau addysg hydredol (LEO) Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae’r LEO yn dod ynghyd â data gweinyddol ar addysg, cyflogaeth, budd-daliadau ac enillion ar lefel unigol. Mae’r ffynhonnell data newydd arbrofol yma yn ei gwneud yn bosibl cysylltu data unigolion ar draws ystod o setiau data gweinyddol, gan alluogi olrhain deilliannau cyflogaeth ar ôl cyfnodau o addysg.

Mae’r cynlluniau peilot yn gyfle prin i gael mynediad i’r data hwn a’i ddadansoddi er mwyn trin cwestiynau allweddol am effaith addysg oedolion a hyfforddiant. Cynhelir y cynllun peilot dros ddwy flynedd o fis Medi 2020.

Mwy o wybodaeth ar Safle'r DU

id before:6425
id after:6425