Mae Coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus, ond mae hefyd yn cael effaith ddybryd ar ein heconomi. Yn yr adroddiad hwn, ymchwiliwn y dystiolaeth gynnar o’r effaith ar ein marchnad lafur
Er y mesurau digynsail gan y llywodraeth i ddiogelu busnesau a swyddi, disgwylir y bydd yr argyfwng coronafeirws yn arwain at y cynnydd mwyaf erioed mewn diweithdra. Gwnaeth mwy na miliwn o bobl hawliad am Gredyd Cynhwysol yn nwy wythnos olaf mis Mawrth, ac ymddengys i fuddion pum mlynedd o dwf cyflogaeth gael eu gwrthdroi mewn dim ond un mis.