Mae 40% o ymadawyr gofal heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, o gymharu â 15% o’u cyfoedion. Eto gyda’r gefnogaeth gywir yn ei lle gallant gyflawni’n uchel mewn addysg bellach ac addysg uwch, a symud ymlaen yn llwyddiannus i waith. I sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth maent ei hangen, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith a Buttle UK wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer colegau Addysg Bellach a darparwyr dysgu eraill.
Yn seiliedig ar ddulliau gweithredu effeithlon ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r canllawiau yn arddangos pedwar coleg a gyflawnodd ar lefel ragorol yr achrediad pwysig o ymrwymiad i fyfyrwyr o gefndir gofal, Nod Ansawdd Buttle UK, a nifer o golegau eraill a ddatblygodd ymarfer effeithlon i gefnogi deiliannau gwell ar gyfer ymadawyr gofal.
Rhannwyd y canllawiau dan benawdau adran Fframwaith Nod Ansawdd Buttle UK ac mae’n rhoi enghreifftiau o sut y cyflawnodd colegau bob un o’r gofynion. Mae dogfennau defnyddiol ychwanegol yn cyd-fynd â’r canllawiau.