Datblygwyd yr adnodd hwn gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W).

Mae tua 370,000 o ofalwyr yng Nghymru ac mae’r ffigwr yma’n codi. Amcangyfrifir y bydd nifer y gofalwyr yng ngwledydd Prydain wedi cynyddu tua 60% erbyn 2030 (Carers UK, 2001). Bydd tri pherson ymhob pump yn ofalwyr ar ryw adeg yn eu bywydau yng ngwledydd Prydain.

Mae ffigyrau Cyfrifiad 2011 yn dangos fod mwy na 21,000 o ofalwyr sy’n oedolion ifanc 14–25 oed yng Nghymru sy’n darparu cymorth a chefnogaeth i’w teuluoedd a chyfeillion. I berson ifanc a chanddo/i gyfrifoldebau gofal, mae symud ymlaen at addysg bellach a thu hwnt yn gallu bod yn heriol iawn. I rai, mae’r heriau hyn yn cynnig rhwystr o bwys rhag gallu cyflawni eu dyheadau.

Cafodd yr adnodd ymarferol hwn ei ehangu a’i ddatblygu o gyhoeddiad byrrach, a gynhyrchwyd yn 2015 gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Addysg Barhaus Oedolion (NIACE). Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan reolwyr a staff yn gweithio mewn colegau addysg bellach yng Nghymru.

Pwrpas yr adnodd hwylus hwn yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofalwyr sy’n oedolion ifanc a’u hanghenion penodol. Mae’n amlinellu pwy yw gofalwyr sy’n oedolion ifanc, yr heriau a wynebant a sut all eu rolau gofalu effeithio ar eu haddysg.

Mae’n crynhoi at ei gilydd beth o’r arfer da sy’n cael ei ddatblygu’n barod mewn sawl coleg yng Nghymru, yn aml mewn partneriaeth â gwasanaethau gyrfaoedd lleol, ac mae’n cynnig argymhellion ar sut ellir cefnogi myfyrwyr sy’n ofalwyr i barhau â’u dysgu a chyflawni eu potensial.

Adnodd

Download
id before:8425
id after:8425