Mae gan y sector Addysg Bellach ac addysg oedolion rôl bwysig mewn gwella deilliannau economaidd-gymdeithasol a chefnogi symudedd cymdeithasol. Mae unigolion o gefndiroedd difreintiedig yn sylweddol llai tebygol o gymryd rhan mewn dysgu neu hyfforddiant ac yn tueddu i gael cyrhaeddiad is ond yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn Addysg Bellach ac addysg oedolion o gymharu â llwybrau eraill ôl-16.