Cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023 i gynnal adolygiad o’r system sgiliau yng Nghymru. Fe’i cynlluniwyd i ymchwilio gwahanol weledigaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) yng Nghymru.
Rhoddodd yr adolygiad drosolwg o’r dystiolaeth ar sefydlu system sgiliau gydlynol sy’n gwahaniaethu rhwng rhaglenni Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Cychwynnol (IVET), a gynhelir fel arfer o fewn y system addysg ffurfiol ac wrth bontio i waith, ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Parhaus (CVET) a gynhelir fel arfer ar ôl addysg ddechreuol ac ar ôl dechrau ar fywyd gwaith, ar gyfer oedolion i ennill neu wella eu gwybodaeth a’u sgiliau a hybu eu datblygiad proffesiynol. Cafodd y trosolwg o’r dystiolaeth wedyn ei brofi gan arbenigwyr a chynrychiolwyr sector.
Mae effeithiau’r pandemig a Brexit, lefelau uchel o anweithgaredd economaidd, newidiadau i bolisi mewnfudo y Deyrnas Unedig a newid ehangach mewn cymdeithas, yn cynnwys datblygu technolegau newydd, digideiddio a thrawsnewid i sero net wedi creu heriau a chyfleoedd newydd ar gyfer yr economi, y farchnad lafur a’r system sgiliau.
Oherwydd y newid yn y tirlun, mae’n hanfodol archwilio’r system sgiliau i ddynodi sut y gall rhaglenni hyfforddiant sgiliau baratoi unigolion yn effeithiol ar gyfer byd gwaith a chefnogi dysgu gydol oes.
Edrychodd yr ymchwil ar dair thema allweddol – agweddau strategol a systemig VET; ystyriaethau cyflenwi a chwricwlwm; a manteision ac effaith VET.
Roedd prif ganfyddiadau’r ymchwil yn cynnwys:
Agweddau strategol a systemig VET
Agweddau cwricwlwm a chyflenwi VET
Safbwyntiau ar fanteision ac effaith VET