Adolygiad Gyrfa Canol Bywyd
Cynhaliodd NIACE – un o’r ddau sefydliad a unodd i ffurfio’r Sefydliad Dysgu a Gwaith – gynlluniau peilot o adolygiadau gyrfa oedd yn cymryd dull holistig i helpu oedolion i bwyso a mesur lle maent arni yn awr a’r hyn maent eisiau ei gyflawni yn eu bywyd gwaith.
Mae hyn yn gynyddol bwysig gan fod bywydau gwaith yn newid, gyda llawer o bobl yn aros mewn gwaith yn hirach, yn newid gyrfaoedd, yn dod yn hunangyflogedig, neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael plant. Mae’r canfyddiadau’n parhau’n berthnasol i syniadau polisi cyfredol.