Mae Taith yn rhaglen newydd sydd yn galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli ar hyd a lled y byd, tra’n galluogi sefydliadau yng Nghymru i wahodd partneriaid rhyngwladol a dysgwyr i wneud yr un peth yma yng Nghymru.
Y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac Addysg Oedolion Cymru yw prif gyrff Trefnu’r Sector ar gyfer addysg oedolion.
Gall prosiectau addysg oedolion Llwybr 1 Taith ganolbwyntio ar gyfnewidiadau ac ymweliadau allanol a mewnol. Gall prosiectau ddarparu ymweliadau mewn person, cyfnewidiadau rhithiol, ac maent yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau diwylliannol, teithio a dysgu sydd yn cyfoethogi er mwyn i’r gweithlu addysg oedolion brofi datblygiad staff ystyrlon.
Gall prosiectau Taith ddatblygu cysylltiadau, rhannu a chyfnewid gwybodaeth yn fyd-eang a chefnogi sector dysgu gydol oes bywiog yng Nghymru. Mae ehangu mynediad a chefnogi grwpiau amrywiol o bobl i brofi cyfnewid ac ymweliadau rhyngwladol yn flaenoriaeth i Taith.
Mae’r sector addysg oedolion yn eang ac yn bellgyrhaeddol ac mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i amrywiaeth o sefydliadau sydd yn cefnogi ac yn darparu cyfleoedd dysgu i oedolion. Gallech fod yn gweithio’n lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol. Gallech fod yn gweithio yn y gymuned, yn y gweithle, mewn ysgolion, mewn amgylcheddau diwylliannol neu chwaraeon.
Rydym eisiau cynyddu cyfleoedd ar gyfer y sector addysg oedolion a gweithio gyda chi i roi cymorth i wneud y gorau o gyfleoedd yn Taith.
Os hoffech fwy o wybodaeth, cyngor a chymorth, mae croeso i chi gysylltu â ni – taithenquiries@learningandwork.org.uk.