Rameh O’Sullivan
Cardiff Metropolitan University

Inspire! Tutor Awards

 

Mae Rameh O’Sullivan yn addysgu yn y gymuned ar draws Caerdydd. Yn wreiddiol yn athrawes Technoleg Gwybodaeth, camodd i mewn i gyflwyno’r paratoadau ar gyfer y System Profi Saesneg Ryngwladol (IELTS) a dros y pum mlynedd ddiwethaf mae wedi gwella a datblygu’r cwrs, a ddaeth

mor boblogaidd erbyn hyn fel y sefydlwyd dau ddosbarth ychwanegol. Dywedodd,

Rwy’n mwynhau cymell ac annog fy nysgwyr i gyflawni eu nodau, eu mentora i greu digon o hyder fel y gallant fedi manteision dysgu gydol oes.”

Gan gysylltu gydag adrannau Saesneg ac Ehangu Mynediad y Brifysgol i ddatblygu’r cwrs, mae Rameh yn ysbrydoli ei myfyrwyr i gynyddu eu sgiliau iaith i lELTS lefel 6 iddynt symud ymlaen i addysg uwch.

Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw llawer o’i myfyrwyr sy’n aml wedi ffoi o amgylchiadau anodd, rhai’n dioddef trawma a heb lawer o ffydd mewn pobl. Mae Rameh yn arbenigo mewn rhoi croeso iddynt gyda’i hagwedd bwyllog a chadarnhaol. Yn aml mae ganddi fyfyrwyr o nifer o wledydd, gyda gwahanol ieithoedd a lefelau sgiliau Saesneg o fewn un dosbarth ond maent i gyd yn ffynnu mewn amgylchedd cefnogol. Mae gan lawer o’r myfyrwyr gymwysterau uchel yn eu mamwlad ond ni allant barhau gyda’u haddysg na’u swyddi oherwydd diffyg sgiliau iaith. Mae Rameh yn rhoi gobaith iddynt ac mae ei dull medrus yn sicrhau y gall pob dysgwr symud ymlaen i gyflawni ei nod.

Dywedodd un o’i dysgwyr, “Mae gan Rameh ddawn ryfeddol, hi yw’r athrawes fwyaf ysbrydoledig ac ysgogol a gefais erioed. Roedd yn credu ynof pan na fedrwn hyd yn oed ymddiried ynof fy hun i fod yn dda am unrhyw beth. Fe basiais fy holl arholiadau er fy ofnau a fy mhanic – ni wnaf byth anghofio llais darbwyllol Rameh.”

Yn y pum mlynedd ddiwethaf, cafodd pump o fyfyrwyr Rameh eu derbyn ar raglenni israddedigion a dywedant i’w dosbarthiadau newid eu bywydau. Dywedodd, “Rwy’n gobeithio rhoi’r hyder i ddysgwyr beidio rhoi lan. Mewn byd ansicr yn llawn heriau, mae pawb eisiau gwella eu bywydau. Addysg yw’r ffordd fwyaf effeithlon i helpu cyflawni hyn a mwynhau bywyd gwerth chweil.”

Diolch i'n partneriaid

  • ColegauCymru colour
  • Unis Wales
  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:7601
id after:7601