Gwobr Heneiddio’n Dda
Enwebwyd Gan: Dysgu Oedolion yn y Gymuned Merthyr Tudful
Bu Ralph Handscomb, sy’n dod o Ferthyr Tudful ac sydd wedi ymddeol, yn helpu pobl i chwilio am swyddi yn ystod y cyfnod clo, mae’n ddysgwr ac yn wirfoddolwr sy’n gweithio gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Y Coleg ym Merthyr ac yn y Ganolfan Gwaith a Mwy yn y dref.
Meddai Ralph: “Dwi wedi bod â diddordeb brwd mewn cyfrifiaduron erioed. Ond ar ôl pasio saith Lefel O yn y 70au, doedd dim llawer o gyfleoedd i mi yn y diwydiant, felly tyfodd fy niddordeb gryn dipyn ar ôl i ni gael ein cyfrifiadur desg cyntaf gartref yn 1996. Fues i’n mynd i ddosbarthiadau nos ac roeddwn i wedi synnu pa mor wahanol oedd hynny i’m profiad yn yr ysgol oherwydd fod pobl eisiau bod yno go iawn! Roedd yn brawf bod modd i chi barhau i ddysgu, yn eich amser eich hun ac o gwmpas ymrwymiadau teuluol.
Meddai Ralph: “Dwi wedi dod â’m sgiliau digidol i bob swydd dwi wedi’i gwneud, hyd yn oed fel gyrrwr bws roeddwn i’n helpu pawb yn y swyddfa i ddigideiddio ac ailwampio’r systemau llwybrau a thocynnau. Ar ôl ymuno â’r gwasanaeth sifil roedd y ffaith ‘mod i wedi gwneud dosbarthiadau nos a chael cymwysterau yn gyfrifol am dri dyrchafiad o fewn y gwasanaeth sifil ond ar ôl 18 mlynedd roedd hi’n bryd i mi ymddeol. Fe wnes i dreulio peth amser o amgylch y tŷ, ond roedd fy ngwraig am i mi wneud rhywbeth i lenwi’r amser – ac achos ‘mod i o dan draed.”
Aeth Ralph yn ôl i’r “ysgol” gan gwblhau’r Wobr mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel III), sydd nawr yn caniatáu iddo rannu ei sgiliau a’i brofiad drwy ei waith gwirfoddoli. Meddai:
Aeth Ralph ymlaen: “Mae dysgu wedi fy helpu i drwy gydol fy ngyrfa ac erbyn hyn dwi’n hapus iawn fy mod i’n gallu helpu eraill. Mae bron bopeth ar-lein erbyn hyn, a gall fod yn greulon i’r rhai sy’n teimlo’n ddihyder – mae hyd yn oed cofrestru yn y Ganolfan Waith i gyd yn ddigidol, yn ogystal â chwilio am swydd.
Dwi wrth fy modd yn gweld fy nysgwyr yn pasio ac yn magu hyder a gweld drysau’n agor iddyn nhw – yn bersonol ac yn broffesiynol. Unwaith mae’r fflam ddysgu wedi tanio ac yn llosgi mae’r dysgwyr yn sicr o gyflawni, a does dim ffordd o fesur y balchder dwi’n ei deimlo.”