Lleoliad:
Hybrid – tua 2-3 diwrnod yn y swyddfa yn Llundain / Caerlŷr / Caerdydd
Math o gontract:
Contract Tymor Sefydlog 12 Mis
Oriau gwaith:
Ystyrir amser llawn (37 awr yr wythnos) neu 0.8 cyfwerth ag amser llawn neu hyblygrwydd arall
Tîm:
Ymchwil a Datblygu; Polisi a Chyfathrebu
Cyflog:
£33,000 – £42,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad a lleoliad
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn aelod o Health Equals, ymgyrch 5 mlynedd newydd, cyffrous a wnaed yn bosibl gan y Sefydliad Iechyd, gyda’r nod o gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ffactorau strwythurol sydd yn ffurfio ein hiechyd, yn cynnwys tai, incwm, a chyflogaeth. O dan brif ymgyrch wedi ei anelu at y cyhoedd ceir cyfres o ymgyrchoedd tynnu sylw, yn canolbwyntio ar y ffactorau strwythurol hyn gyda’r nod o ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol ar draws y DU i drawsnewid cyfleoedd iechyd i bawb.
Mae L&W yn arwain ymgyrch tynnu sylw ar waith, incwm ac iechyd, gan ganolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng gwaith da, iechyd da a chynhwysiant. Rydym eisiau recriwtio Rheolwr Polisi i weithio ar y rhaglen newydd, gyffrous hon, gan gyfosod tystiolaeth bresennol a gweithio mewn partneriaeth agos gydag eraill, i ddatblygu argymhellion polisi wedi eu targedu ac ymgyrch newydd ar gyfer newid polisi y gall cynghrair cyfan Health Equals ei gefnogi.
Swydd bolisi yw hon a ariennir yn llawn trwy Health Equals ar gontract tymor sefydlog (FTC) am flwyddyn a daw o fewn tîm polisi a chyfathrebu L&W. Gall deiliad y swydd fod wedi eu lleoli unrhyw le yn y DU ond byddai angen iddynt allu gweithio ar sail hybrid o’n swyddfeydd yn Llundain, Caerlŷr neu Gaerdydd, gan deithio i Lundain yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau rhaglen.
Bydd deiliad y swydd yn datblygu perthynas ar draws L&W ac yn gysylltiedig â gwaith, prosiectau iechyd a lles gwahanol, yn ogystal â bod yn agos gysylltiedig â thîm craidd Health Equals a’r swyddi polisi sydd wedi eu sefydlu ar gyfer ymgyrchoedd tynnu sylw eraill.
Bydd y Rheolwr Polisi yn gweithio ar y cyd ag aelodau cynghrair Health Equals a rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu atebion polisi arbenigol i wella gwaith er budd iechyd, ac i arddangos llwybrau effeithiol tuag at waith da ar gyfer pobl anabl, pobl â phroblemau iechyd hirdymor (yn cynnwys cyflyrau lluosog a salwch meddwl) a’u gofalwyr. Trwy gydol yr amser, caiff y rhaglen ei llywio gan safbwyntiau a phrofiadau, a data ar, bobl â phrofiad bywyd o gyflyrau iechyd neu anableddau.
Mae L&W yn dîm cyfeillgar a chefnogol, sydd yn angerddol ac yn frwdfrydig am ein gwaith. Rydym yn cefnogi ein gilydd i ddatblygu a ffynnu.
Mae L&W yn ddeiliad gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl (arian), sydd yn awyddus i ddysgu o brofiadau ein staff ac sydd wedi ymrwymo i ddatblygu staff yn cynnwys hyfforddiant a chymorth mewnol ac allanol. Mae gennym strategaeth iechyd a lles staff a gweithgor staff sydd yn awyddus i ddwyn mentrau iechyd a lles yn y gwaith ymlaen.
Mae L&W yn ymfalchïo yn y faith ei fod yn gyflogwr cefnogol a hyblyg. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i’n staff a byddwn yn ystyried trefniadau gweithio rhan-amser a hyblyg, yn cynnwys gweithio gartref. Rydym yn rhoi ein gwerthoedd ar waith gyda pholisïau cyfeillgar i deuluoedd amrywiol, sydd yn mynd y tu hwnt i’r isafswm statudol yn cynnwys absenoldeb gofalwr am hyd at 5 diwrnod â thâl y flwyddyn.
Mae L&W yn angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth, mae’n sbarduno ein gwerthoedd sefydliadol a’n cenhadaeth, ac rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bob grŵp a dangynrychiolir mewn cymdeithas.
Bydd yn rhaid i ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS uwch.
I wneud cais llenwch ffurflen gais ac anfonwch hon ynghyd â’ch CV i jobs@learningandwork.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am ar ddydd Mawrth 21 Mawrth 2023.
Os bydd angen unrhyw addasiadau arnoch i gymryd rhan yn y broses recriwtio hon, cofiwch egluro hyn pan fyddwch yn gwneud cais.