Phyllis Gregory

Enillydd Gwobr Heneiddio’n Dda
Enwebwyd gan:  Coleg Gwyr Abertawe

Mae Phyllis Gregory bob amser wedi bod yn hoff iawn o ysgrifennu a barddoni. Mae wedi ennill nifer fawr o gystadlaethau yn ystod ei hoes. Pan ddechreuodd brofi syndrom llaw yn ysgwyd, canfu Phyllis na fedrai ysgrifennu barddoniaeth gystal gyda’i dwylo. Yn benderfynol o ddal ati i wneud y peth a garai, gwelodd Phyllis hyn fel cyfle i ddysgu defnyddio cyfrifiadur a chofrestrodd ar gwrs Llythrennedd Digidol yn ei llyfrgell leol.

I Phyllis, roedd gwella ei llythrennedd digidol yn fwy na dim ond dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur. A hithau’n 92 oed, fe’i helpodd i gael ei geiriau yn ôl.

Dywedodd Phyllis: “Rwyf wedi bod wrth fy modd yn ysgrifennu ar hyd fy oes. Roedd cynnig am gystadlaethau yn hobi ac roedd yn hwyl ennill gwobrau dros y blynyddoedd, ond rwy’n ysgrifennu oherwydd mai dyma fy niddordeb pennaf. Mae rhai o fy ngherddi a lluniau yn ddoniol, mae rhai am bethau a welais neu ddarllen amdanynt a wnaeth effeithio arnaf.

“Ond wrth i mi fynd yn hŷn dechreuodd fy nwylo ysgwyd cymaint fel na fedrwn ddarllen fy llawysgrifen fy hun. Roedd yn rhaid i mi roi’r gorau i ysgrifennu, rwy’n dal i weld ei golli o ddifri. Gallwn ddefnyddio teipiadur, ond doedd e ddim yn effeithiol iawn. Roeddwn yn teimlo mod i wedi colli fy ngeiriau.

“Mae’r byd yn newid. Mae siopau yn cau a mwy o bethau yn symud ar-lein. Gall godi ofn ar rywun fy oedran i. Roeddwn yn poeni am geisio defnyddio cyfrifiadur a gwneud y pethau anghywir. Felly fe benderfynais mai’r peth gorau i mi wneud oedd dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur yn iawn.”

Cofrestrodd Phyllis ar gwrs yn ei llyfrgell leol, lle cafodd gefnogaeth i gwblhau ei Lefel Mynediad 1 a Lefel Mynediad 2. Erbyn 2019, roedd Phyllis yn fwy cartrefol yn defnyddio cyfrifiadur. Ond doedd hi ddim yn barod i roi’r gorau i ddysgu pan orfodwyd llyfrgelloedd i gau oherwydd y pandemig.

Meddai: “Mae pobl yn credu unwaith y cewch eich pas bws am ddim, mai dyna hi. Ond rydw i y math o berson sy’n methu eistedd yn llonydd, rydw i’n hoffi bod yn gwneud pethau. Roedd yn codi ofn arnaf i ymuno â’r cwrs, ond roedd y tiwtoriaid yn wych a gwnaethant roi croeso mawr i mi. Cefais bob cefnogaeth bosibl ganddynt. Roedd yn brofiad difyr iawn.

“Rydw i wedi cael fy ngeiriau yn ôl, sy’n wych, ond rydw i hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae fy nghlyw wedi gwaethygu’n ddiweddar ond mae’r coleg a fy ffrindiau newydd wedi gwneud yn siŵr y gallaf ddal ati i ddysgu,. Mae fy nhiwtor Ruth Benson yn llawn amynedd a chydymdeimlad. Mae wedi ei gwneud yn bosibl i mi ddal ati – fedra’i ddim diolch digon iddi.

Mae pobl yn credu unwaith y cewch eich pas bws am ddim, mai dyna hi. Ond rydw i y math o berson sy’n methu eistedd yn llonydd, rydw i’n hoffi bod yn gwneud pethau

Gyda chefnogaeth

  • Welsh Government small
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue
id before:8681
id after:8681