Dysgodd Philippa Gibson Gymraeg fel oedolyn a dros y 30 mlynedddiwethaf mae wedi datblygu ei sgiliau i ddod yn diwtor Cymraeg dalentog, gan ddatblygu’r rhaglen ddysgu yn lleol a’i hyrwyddo o fewn y gymuned o amgylch Aberteifi a De Ceredigion. Dywedodd,
Mae llawer o’i myfyrwyr wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i’w defnyddio yn eu bywyd bob dydd yn eu cymunedau ac mae rhai wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol: mae dau wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Dysgwr y Flwyddyn ac yn Eisteddfod 2019 enillodd dau o’i myfyrwyr y prif wobrau llenyddol ar gyfer dysgwyr – y Gadair am Farddoniaeth a’r Tlws Rhyddiaith.
Mae llwyddiant ei haddysgu’n deillio o’r cyfleoedd dysgu anffurfiol mae wedi’u llunio. Mae’n annog myfyrwyr i ysgrifennu ar gyfer y papur bro lleol ac mae Philippa yn cefnogi ei dysgwyr i fynychu llawer o weithgareddau gan gynnwys grŵp cerdded Cymraeg, dramâu a chyngherddau Cymraeg a chymdeithasau Cymraeg.
Mae arloesedd yn amlwg yn ei dulliau addysgu – mae cynllun.
Pontio yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gwrdd a sgwrsio’n anffurfiol gyda grwpiau bach o ddau neu dri o ddysgwyr fel rhan o’u sesiynau ffurfiol. Mae’n rhoi o’i hamser i ganfod, cydlynu a threfnu gwirfoddolwyr i gefnogi’r sesiynau hyn.
Dywedodd, “Mae tiwtora yn golygu gwneud cymaint ag y gallaf i helpu pob unigolyn i lwyddo trwy oresgyn unrhyw broblemau, boed yn wahanol broblemau dysgu neu ddiffyg hyder neu anwybodaeth am gyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg.”