Non Williams - Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe

“Mae tiwtora yn hynod werth chweil, a’r rhan fwyaf boddhaus yw gweithio gyda’r dysgwyr eu hunain. Er bod dysgu iaith yn gofyn am ymdrech unigol, mae hefyd yn daith gydweithredol. Trwy waith mewn parau, gweithgareddau grŵp, a thrafodaethau dosbarth, mae ymdeimlad cryf o gymuned yn datblygu, gan atgoffa myfyrwyr nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ar y llwybr hwn.”

Mae rhoi’r cyfle a’r hyder i ddysgwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith yn bwysig iawn, ac rwy’n eu hannog i wneud hynny ym mha bynnag ffordd maen nhw’n dymuno. Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch ac mae’n golygu cymaint i mi glywed am unrhyw gyflawniad personol gan ddysgwyr waeth pa mor fawr neu fach yw’r digwyddiad.”

Non Williams-1

Ers dros bum mlynedd, mae Non Williams wedi cyfoethogi Dysgu Cymraeg Bae Abertawe fel tiwtor Cymraeg. Mae’n tywys oedolion o ddechreuwyr i lefelau uwch, gan feithrin cariad at yr iaith ac adeiladu cysylltiadau parhaol gyda’i myfyrwyr.

Mae Non yn adeiladu amgylchedd dysgu cyfeillgar, cefnogol a phleserus i’w dysgwyr trwy ddefnyddio technoleg, yn ogystal ag addysgu wyneb yn wyneb. Mae’n annog ei myfyrwyr i groesawu camgymeriadau fel cyfleoedd dysgu ac i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’r dosbarth ac mae’n ymfalchïo yn eu cyflawniadau, mawr a bach.

I oedolion sy’n ystyried dysgu Cymraeg, mae Non yn pwysleisio’r potensial i ddatgloi cyfeillgarwch newydd, cyfleoedd gyrfa a datblygiad personol. Mae hi hefyd yn tynnu sylw at fanteision dysgu fel oedolyn, o’i gymharu â phrofiadau traddodiadol yn yr ysgol. Er bod dysgu iaith yn gofyn am ymdrech unigol, mae Non yn datblygu ymdeimlad o gymuned a gwaith tîm yn ei dosbarthiadau, lle mae ei myfyrwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi drwy gydol eu taith iaith.

Mae hi’n darparu cyfleoedd i bawb siarad â hi yn gyfrinachol, yn ystod y dosbarth, gan ddefnyddio cyfleoedd ystafell trafod a rhoi o’i hamser ei hun i estyn allan a darparu cefnogaeth, yn enwedig i fyfyrwyr sydd â phroblemau iechyd sylweddol ac sy’n profi amgylchiadau personol heriol.

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:14189
id after:14189