Diwrnod 1 Awyrennau, Trenau a Moduron

Aeth y rhan fwyaf o’n diwrnod cyntaf yn yr Iseldiroedd yn teithio a setlo yn ein gwesty  – ac wrth gwrs brofi rai o ddiwylliant gwych y wlad. Cyffroi o weld trenau tri llawr a rhyfeddu sut mae system drafnidiaeth gyhoeddus y wlad yn rhedeg fel cloc!

trains - netherlands

Roedd ymweliad cyntaf ein hymweliad astudio wedi ei gynllunio ar gyfer yr ail ddiwrnod pan fyddem yn mynd ar fysus a threnau eto i ymweld â dinas Utrecht i gwrdd â’n cydweithwyr ar gyfer yr ymweliad i Learn for Life.

Mae Learn for Life yn sefydliad rhwydwaith ar gyfer cyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n weithredol ym maes addysg heb fod yn ffurfiol. Mae hefyd yn llwyfan ar gyfer cyfnewid a dyfnhau profiadau ym maes addysg oedolion o safbwynt polisi dysgu gydol oes Ewropeaidd.

Yn Learn for Life cawsom y pleser o gwrdd a chlywed gan staff y sefydliad ond hefyd i gwrdd â dysgwyr y cafodd eu bywydau eu trawsnewid oherwydd iddynt fynd nôl i addysg. Roeddent yn fwy na hapus i rannu eu straeon ysbrydoledig o sut y mae addysg wedi newid eu bywydau a hefyd i rannu peth o’u gwaith i hyrwyddo Dysgu Gydol Oes yn yr Iseldiroedd.

Syniadau gwych gan Foundation ABC:

Mae Foundation ABC yn sefydliad a gaiff ei arwain gan gymheiriaid gyda’r nod o annog oedolion i ddechrau dysgu eto.

Mae Paneli Prawf yn cynnwys dysgwyr gyda sgiliau darllen lefel isel sy’n darllen dogfennau gan sefydliadau tebyg i awdurdodau lleol, ysbytai, meddygfeydd i wirio eu bod yn ddarllenadwy ac yn helpu trosi os nad ydynt. Mae’r syniad gwych hwn yn wasanaeth gwych y derbynnir tâl amcano ac mae felly’n creu incwm i’r grŵp.

Mae Paneli Prawf hefyd yn helpu sefydliadau i ‘ganfod’ eu gweithwyr anllythrennog a all fod yn fedrus iawn yn cuddio eu sgiliau isel ac felly’n medru cynnig cefnogaeth a hyfforddiant iddynt.

abc foundation

Rhaglen Hyfforddiant Llysgenhadon:
Mae pob Llysgennad Dysgu yn cael cynnig rhaglen hyfforddiant 7 diwrnod i’w paratoi ar gyfer y swydd. Mae’r pynciau yn cynnwys sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus – cyflwynir y rhaglen gan Ambassadors to Ambassadors. Cynhelir hyn ddwywaith y flwyddyn fel rhan o’u datblygiad personol parhaus.

Yn bersonol, cefais fy ysbrydoli wrth dreulio amser gyda’r bobl yn Learn for Life – yn arbennig pan aethom am bryd o fwyd pan wnaeth un o’r carfan, Mark, wirioneddol gysylltu gyda un o ddysgwyr yr Iseldiroedd oherwydd eu bod wedi rhannu taith debyg ac yn cydymdeimlo gyda brwydrau ei gilydd – roedd grym Addysg Oedolion a hefyd y grym posibl ar gael drwy’r rhaglen Llysgennad yn amlwg yn y ddau berson yma. Roedd yn hyfryd edrych arnynt yn cyfathrebu yn defnyddio eu ffonau symudol yn defnyddio ap cyfieithu. Roedd yn heintus – gan fod pawb ohonom mewn dim o dro yn lawrlwytho’r ap ac yn rhoi cynnig arno ein hunain wrth y bwrdd cinio – anffurfiol – hwyl – dysgu o brofiad – llythrennedd digidol – sgiliau cyfathrebu – perffaith.

Maent hefyd yn gwneud matiau bwrdd ar gyfer bwytai gyda straeon dysgwyr a manylion cyswllt arnynt i bobl gysylltu â nhw os cânt eu hysbrydoli i wneud hynny – mae hyn yn syniad gwych!

group pic - foundation abc

Lelystad – Tŷ Iaith

Mae’r Tŷ Iaith yn y llyfrgell cyhoeddus yn Lelystad.

Caiff yr Iseldireg ei dysgu mewn ffordd anffurfiol iawn gan dîm o diwtoriaid gwirfoddol yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau rhwydd ac yn seiliedig ar y berthynas rhwng y tiwtor a’r dysgwr – mae defnyddio ystod eang o gymhorthion dysgu tebyg i gardiau llun a chiwbiau llythrennau yn golygu y gall dysgwyr ddysgu rhai geiriau syml bob dydd ac adeiladu arnynt yn eu hamser eu hunain gyda help gan y tiwtor – roedd yn edrych yn effeithiol a difyr iawn.

Roedd yn wych edrych ar y dull yma a roeddem hefyd yn ddigon ffodus i gael gwers fer a chyfnewid ymadroddion Cymraeg – Iseldireg!

teaching dutch and welsh phrases

Dod ag ef adre!

Rydym yn rhedeg caffe cymunedol yn y Gogledd dan yr enw “Sit and Stew” ac wedi penderfynu rhoi cynnig ar ddull tebyg i’r Tŷ Iaith. Rydym wrthi’n ceisio recriwtio gwirfoddolwyr fydd yn gosod bwrdd gydag amrywiaeth o adnoddau a cheisio a chael rhai o’r cyfranogwyr i gymryd rhan wrth ddysgu Cymraeg a Sgiliau Hanfodol.

group pic - lelystad

Gŵyl Ranbarthol

Ein cam nesaf oedd digwyddiad a gynhaliwyd i ddathlu a gwobrwyo gwirfoddolwyr. Roedd siaradwyr allweddol yn y digwyddiad gyda cherddoriaeth fyw wedyn lle roedd cerddorion o ganolfan leol ar gyfer ffoaduriaid yn perfformio.

festival event - drumming

Prosiect ‘Digi-Ouders’

Nod y prosiect hwn yw gwella cyfathrebu rhwng ysgolion, athrawon, rhieni a phlant a chafodd ei anelu’n benodol at rieni gyda sgiliau llythrennedd isel. Gallai’r rhieni hyn gael trafferthion yn darllen llythyrau gan yr ysgol – gallent fod yn dibynnu ar eu plant i gyfathrebu gwybodaeth (yn onest). Mae’r prosiect felly yn pontio’r bwlch hwnnw.

Yn y digwyddiad siaradais gyda dynes o sefydliad sydd wedi sefydlu prosiect gwych i helpu rhieni sydd â lefelau llythrennedd isel yn defnyddio dulliau a thechnoleg digidol.

regional festival event - performer

Cadw’r gorau tan yr olaf!

Ar ddiwrnod olaf ein hymweliad roedd ein trefnydd o’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi trefnu i ni ymweld ag Urbn Village, prosiect ar gyfer pobl ifanc, ac sy’n un tebyg iawn i’r un y mae fy mudiad i yn ei redeg yn y Gogledd, Youth Shedz Cymru. Mae model ac ethos Urbn Village yn debyg iawn i’n un ni – dan arweiniad pobl ifanc ac wedi tyfu’n organig i ddiwallu anghenion y bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Bu modd i ni edrych o amgylch eu prosiect wrth iddynt baratoi ar gyfer eu lansiad.

Urbn Village

Fel canlyniad i’r ymweliad bu modd i ni wneud cysylltiadau gwych a rydym yn dal i ddatblygu ein perthynas ac yn edrych ar y posibilrwydd o ymweliad Erasmus rhwng ein dau sefydliad yn y dyfodol agos.

Mae nifer o aelodau ifanc Youth Shedz Cymru mewn cysylltiad â nhw drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac yn cynllunio cydweithio yn y dyfodol.

Diwedd gwych i ymweliad gwych lle gwnaethom unwaith eto brofi diwylliant newydd, datblygu cysylltiadau newydd a dysgu ychydig bach mwy am sut y caiff pethau eu gwneud yn Ewrop.

Fel canlyniad i’r ymweliad, mae gennym fwy o syniadau eto i roi cynnig arnynt adref i wella profiad dysgu ein dysgwyr a gobeithio yr awn ymlaen i ddatblygu’r cysylltiadau a wnaed rhwng sefydliadau.

group pic - last day

 



Ysgrifennwyd yr astudiaeth achos yma gan: Scott Jenkinson, sefydlydd 4:28 Training a chyn enillydd Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Gwyliwch stori Scott

id before:6897
id after:6897