Cyn gynted ag yr oeddem wedi glanio yn Nulyn cawsom ein rhuthro ffwrdd mewn tacsi i wobrau Aontas Star yn Ysbyty Rotunda yn y ddinas. Mae’r gwobrau yn cyfateb i wobrau Ysbrydoli! Dysgu a Gwaith Cymru. Mae’n amlwg fod llawer o bethau’n debyg ond hefyd wahaniaethau. Roedd Gwobrau Star yn rhannu emosiynau ac angerdd y gwobrau yng Nghymru. Dechreuodd y gwobrau am 10am gydag amser i rwydweithio, yfed coffi a mwynhau rhai o’r croissants a theisennau hyfryd. Roedd hefyd gyfle i weld rhai o’r arddangosiadau o waith enillwyr gwobrau ac enwebiadau – roedd hefyd gyhoeddiadau ar gael i fynd â nhw ymaith yn rhoi sylw i’r sefydliadau, polisïau a strategaethau ar gyfer addysg oedolion yn Iwerddon.
Mae’r holl gategorïau gwobrau ar gyfer prosiectau ac nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno gwobrau unigol, ond os yw dysgwyr eisiau hynny yna mae Aontas wedi dweud y byddant wrth gwrs yn ystyried categori newydd.
Roedd prif siaradwr ar gyfer cyflwyno’r gwobrau wedyn bryd 3 cwrs gwych.
Roedd categorïau’r gwobrau yn cynnwys:
Iechyd a Llesiant
Mynediad ac Ymgysylltu Trydydd Lefel
Cynhwysiant Cymdeithasol
Cyflogaeth Cynaliadwy
DALC yn rhoi cyfle i ni gwrdd gyda’n cydweithwyr o’r Iseldiroedd
Yn dilyn y gwobrau ysbrydoledig, ein cam nesaf oedd ymweld â Chanolfan Addysg Oedolion Dulyn (DALC) lle cawsom ein tywys o amgylch yr hyb cymunedol yng nghanol y ddinas – a’r gair yma yw yn bendant ‘cymuned’. Mae’r ganolfan wych yn gweithio gydag oedolion dros 30 o wledydd ac yn em go iawn yn nhirlun Addysg Oedolion Iwerddon. Maent yn awyddus i weld oedolion unigol yn dysgu ond yr un mor awyddus i weld grym trawsnewidiol addysg oedolion yn trawsnewid eu holl gymuned – maent yn hyrwyddo dod â phobl o wahanol genhedloedd at ei gilydd i rannu diwylliant a dysgu sut i gydfyw.
Fe wnaethom dreulio amser yn y ganolfan yn clywed ac yn cydymdeimlo gyda rhai o’u heriau (nid rhy wahanol i’r rhai sy’n ein hwynebu yng Nghymru) a chlywed am y ffyrdd creadigol y maent yn goresgyn rhwystrau. Er enghraifft, mae cael creche ar y safle yn werthfawr tu hwnt i helpu rhai gyda phroblemau gyda gofal plant.
Cawsom groeso i NALA (Asiantaeth Genedlaethol Llythrennedd Oedolion) lle siaradodd staff am eu gwasanaeth i gynyddu lefelau Llythrennedd yn Iwerddon. Un o feysydd dylanwad allweddol NALA yw gwneud gwasanaethau’n hygyrch i bob dysgwr. Mae gan NALA syniadau gwych am glywed llais dysgwyr a rhoi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr yn cynnwys:
Y gyrchfan olaf i ddod â’n hymweliad Erasmus i ben oedd i swyddfeydd Aontas, trefnwyr Gwobrau Seren.
Mae Aontas yn rhwydwaith addysg gymunedol sy’n gweithio i gysylltu a gwrando ar ddarparwyr, darparu eiriolaeth a chyfleoedd cyllid. Maent yn hyrwyddo ‘Addysg gyda Chyfeiriad Newid’ – addysgu pobl i nid yn unig newid eu bywydau eu hunain ond wedyn fynd ymlaen i newid y gymuned y daethant ohoni.
Rhannodd Aontas yr uchafbwyntiau a heriau cyflwyno Gwobrau Seren – roedd rhai o’r pwyntiau allweddol i gofio amdanynt yn cynnwys:
Secret Street Tours
Yr uchafbwynt i fi oedd cyfle i gymryd rhan yn un o’r prosiectau a enwebwyd am wobr Aontas – taith strydoedd dirgel gan ddyn a arferai fod yn ddigartref. Mae Secret Street Tourns yn Gwmni Budd Cymunedol a sefydlwyd i ddarparu addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl ddigartref. Mae’r prosiect yn cyflogi pobl a fu’n ddigartref ac yn eu hyfforddi i fod yn dywyswyr. Gall y tywysydd wedyn fynd â grŵp bach o ymwelwyr ar daith o strydoedd Dulyn – gan siarad gyda nhw wrth fynd am gyfuniad o brofiadau personol a ffeithiau hanesyddol yn ymwneud â thai cymdeithasol yn Iwerddon. Mae’r prosiect hwn wirioneddol yn dangos i mi yr hyn y gall addysg a chyfle ei wneud i fywyd person – roedd yn ysbrydoli ac yn gwneud i chi feddwl – a oes yna Deithiau Strydoedd Dirgel yng Nghaerdydd? Os nag os – bydd ganddynt cyn hir!
Ysgrifennwyd yr astudiaeth achos hwn gan : Scott Jenkinson, sefydlydd 4:28 Training a chyn-enillydd Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid