Ar ein diwrnod cyntaf yn Slofenia cawsom ein croesawu yn Sefydliad Addysg Oedolion Slofenia (SIAE) gan Darijan Novak, a roddodd groeso mawr i bawb ohonom.
Esboniodd Dararijan rôl SIAE ac roedd yn rhwydd gweld y tebygrwydd gyda’n Sefydliad Dysgu a Gwaith ni. Mae’r SIAE yn sefydliad ymbarél yn cynrychioli 40 canolfan ar draws Slofenia. Mae eu rôl yn cynnwys ymchwil, strategaethau, cynllunio a gweithredu a monitro Addysg Oedolion ar draws Slofenia.
Caiff y SIAE ei ariannu gan y Llywodraeth (63%), ESF (27%) a ffynonellau eraill (10%). Roedd yn ddiddorol dysgu bod gan Strategaeth Dysgu Gydol Oes sy’n sicrhau’r hawl i ddysgu gydol oes drwy pob cyfnod o fywyd dinesydd a chaiff y cyfrifoldeb hwn ei rannu ar draws gweinyddiaethau’r llywodraeth.
Fy ffefrynnau personol o ddiwrnod 1:
Un o’r prosiectau a wnaeth wirioneddol fy ysbrydoli i SIAE oedd y cysyniad o ‘Gylchoedd Astudio’ a bu’n rhedeg yn Slofenia ers 1993.
Y syniad yw fod grŵp o bobl yn cwrdd ac yn dysgu sgil newydd mewn ffordd anffurfiol a difyr. Nid oes ‘athro’ fel y cyfryw ond caiff ei drefnu a’i gyflwyno gan mentor wedi ei hyfforddi. Y syniad yw y caiff pwnc newydd ei drafod neu y caiff sgiliau eu hymarfer bob tro mae’r grŵp yn cwrdd. Prif nod y grwpiau hyn oedd ennyn diddordeb yr aelodau lleiaf egnïol mewn cymdeithas ac ymgysylltu gyda’r rhai o’r grwpiau pobl mwyaf datgysylltiedig. Yng Nghymru, mae fy nghwmni hyfforddi, 4:28 Training, yn cyflwyno prosiect gyda’r enw Sit and Stew a rydym wedi dechrau sefydlu math Cylchoedd Astudiaeth o ddysgu drwy’r caffe cymunedol hwn sy’n naturiol yn rhoi’r cyfle perffaith i wneud hynny.
“Mae dosbarthu cyfrifoldebau ar gyfer dysgu gydol oes ar lefel y llywodraeth ganolog, y Weinyddiaeth Addysg, Gwyddoniaeth a’r Chwaraeon a’r Weinyddiaeth Llafur, Teulu, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal sy’n bennaf gyfrifol am bolisïau a rhaglenni dysgu gydol oes.”
Syniadau eraill i fynd â nhw gartref o Ddiwrnod 1:
• Gwahoddwch wleidyddion i ddigwyddiadau BOB AMSER!
• Datblygu rhwydwaith o gydlynwyr ar dâl yn y cyfnod cyn yr Wythnos Addysg Oedolion
Ymgyrch aml-gyfryngau modelau rôl.
Roedd Darijan yn falch iawn i ddweud wrthym am ei ymgyrch cyfryngau modelau rôl, porth amlgyfryngau sy’n annog darparwyr addysg oedolion i greu eu portreadau fideo eu hunain yn defnyddio pobl a grwpiau llwyddiannus i dargedu pobl debyg a grwpiau a all fod yn wynebu rhwystrau tebyg i ddysgu.
Ar yr ail ddiwrnod aethom i dref hyfryd Kranj gyda’n harweinydd am y diwrnod yn cwrdd â ni. Aethom am dro fer drwy sgwâr y dref at gastell lle cynhaliwyd y seremoni agoriadol.
Mae’r seremoni yn nodi dechrau’r Wythnos Dysgu Gydol Oes – arddull Slofenia – lle cynhelir gorymdeithiau dysgu ar draws Slofenia gyda 1,800 o drefnwyr yn trefnu 7,000 o ddigwyddiadau!
Roedd y seremoni agoriadol yn anhygoel! Roedd yn rhyfeddol sut oedd yr holl ddigwyddiad yn dathlu Addysg Oedolion ond hefyd wedi’i blethu gyda hanes a diwylliant Slofenia. Roedd arddangosiadau trin cleddyf, bwyd lleol, drama ar y llwyfan, gweithdai, a hyd yn oed ddigrifwr Slofenaidd. Dywedwyd wrthyf ei fod yn dda iawn!
Roedd yr agoriad yn bendant yn ddigwyddiad dathlu, roedd awyrgylch parti go iawn, gyda chydlynwyr wedi’i gydlynu ac yn cymryd rhan. Yn ystod agoriad mwy ffurfiol y seremoni ar y llwyfan, roedd gweinidogion a swyddogion y Llywodraeth yn cymryd rhan yn y seremonïau gwobrwyo i ddathlu llwyddiant dysgwyr gydol oes.
Syniadau i ddod â nhw adref:
Cynhadledd “Hen Ddynion yn Dweud Ie i Gymuned” ar Ddynion Hŷn mewn Addysg Oedolion dydd Sadwrn 11 Mai 2019
Mae “Hen Ddynion yn Dweud Ie i Gymuned” yn brosiect Erasmus+ sydd â’r nod i feithrin cynnwys dynion hŷn 60 oed neu hŷn (yn arbennig gydag addysg isel) mewn gweithgareddau dysgu ac addysg i gael effaith gadarnhaol ar eu llesiant, iechyd, bywyd cymdeithasol ac i gyfrannu at ail-sgilio/cynyddu sgiliau.”
Ar ddiwrnod olaf y trip gwych hwn aethom i ymweld â’r gynhadledd yn yr Hen Orsaf Bŵer yn ninas Ljubjana. Roedd y gynhadledd yn cynnwys pedwar cyflwyniad yn rhannu canfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd yn Estonia, Portiwgal a Gwlad Pwyl:
1) Strategaethau o’r gwaelod i fyny ar gyfer ymgysylltu gyda’r gymuned a dysgu anffurfiol – targedu dynion 60 oed neu hŷn
2) Ynysigrwydd cymdeithasol pobl hŷn a ffyrdd o’i oresgyn drwy ymgyfraniad mewn cymuned
3) Beth mae hen ddynion yn ddweud wrth gymuned? Rhai syniadau o safbwynt Gwlad Pŵyl
4) Manteision ac anfanteision cronnus dynion hŷn o Bortiwgal.
Diwrnod arall ardderchog – mae’n sicr i’r cyflwyniadau roedd digon i feddwl amdano ar y ffyrdd gartref. Fe wnaethant gryfhau fy nghred fod yn rhaid ymgysylltu â dynion yn y gymuned sy’n bwysig iawn ar gyfer iechyd a llesiant, a hefyd ofyn os ydym yn gwneud digon i gysylltu â ‘dynion hŷn’ ein cymuned.
Syniadau am Argymhellion:
• Mapio dynion hŷn: faint sy’n byw ar ben eu hunain, beth yw eu sgiliau a’u diddordebau.
• Penderfynu ar y sianeli cyfathrebu addas ar gyfer y grŵp targed,
Fel rhan o’r astudiaeth roedd ein SIAE wedi trefnu ymweliad i hen dwnneli cyrchoedd awyr dan hen dref Kranj. Roedd yn wych clywed a dysgu am hanes y twnneli a phrofi sut beth fyddai hi wedi bod i fyw yn yno yn ystod cyrch bomio Mae’r twnneli yn defnyddio seirenau ac efelychu symud i greu cyrch bomio go iawn.
Yn gryno – trip dysgu gwych arall! Gwnaethom ffrindiau newydd a phrofi diwylliant newydd. Fe ddeuais adref gyda gwell dealltwriaeth o sut mae ein ffrindiau yn Slofenia yn cyflwyno ac yn dathlu addysg oedolion. Fe wnes hefyd ddod gartref gyda rhai syniadau newydd i’w gweithredu, Cylchoedd Astudio a ffyrdd i ymgysylltu dynion hŷn yn bod y prif ddwy thema i fi.
Ysgrifennwyd yr astudiaeth agos gan: Scott Jenkinson, sefydlydd 4:28 Training a chyn enillydd gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid.