Ymlaen, nid yn ôl

gan David Hagendyk, Cyfarwyddwr Gymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Daeth mwy na 120 o ymarferwyr, dysgwyr, rheolwyr a gwneuthurwyr polisi ynghyd yng nghynhadledd addysg oedolion flynyddol Dysgu a Gwaith Cymru eleni i helpu rhoi ychydig o gig ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu hawl i ddysgu gydol oes.

Cafodd cynrychiolwyr eu herio i ‘newid y lens’ i edrych ar ddiben addysg oedolion a hyrwyddo manteision ehangach dysgu gydol oes. Gan fod polisi wedi crebachu i ffocws culach ar gaffael sgiliau ar gyfer gwaith a mesur drwy gymhwyster, tynnodd cyfranwyr sylw at werth dysgu gydol oes i iechyd a llesiant, bywyd teuluol ac ymgysylltu cymdeithasol a dinesig.

Mae’n iawn fod peth optimistiaeth y gallai’r ymwymiad i hawl newydd i ddysgu gydol oes hybu cyfleoedd yn sylweddol i oedolion ddysgu. Serch hynny, gwnaethpwyd yr ymrwymiad mewn sefyllfa pan fuu gostyngiad mewn cyfranogiad yn ystod y cyfnod o lymder economaidd.

Dengys ein gwybodaeth ddiweddaraf bod nifer yr oedolion (dros 25 oed) sy’n ddysgwyr mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu yn y gymuned wedi gostwng o 129,805 i 86,155 rhwng 2011/12 a 2017/18. Mae hynny’n 43,650 yn llai o ddysgwyr, cwymp syfrdanol o 34%.

Forward-not-back-blog-chart-1-welsh

*Daw’r ffigurau hyn o ystadegau Llywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys darpariaeth mewn addysg bellach, dysgu yn y gymuned a dysgu seiliedig ar waith. Mae’r set data llawn ar gael yma.

Yn gymesurol bu mwy o ostyngiad yn nifer y dynion (37.25%) o gymharu â menywod (31.42%) sy’n cymryd rhan mewn dysgu. Fodd bynnag, gyda menywod yn fwy na 60 y cant o’r holl ddysgwyr, mae menywod yn 58% o’r cyfanswm gostyngiad (25,315 o fenywod o gymharu gyda 18,335 o ddynion). Serch hynny effaith net y newidiadau fu gostyngiad yn y gyfran o ddynion sy’n astudio’n rhan-amser ar draws y sector.

Forward-not-back-blog-chart-2-welsh

Mewn tegwch, mae’r sector a hefyd Lywodraeth Cymru wedi dechrau ymateb. Bu buddsoddiad newydd i gefnogi dysgu rhan-amser mewn addysg bellach. Fel y clywsom gan Goleg Caerdydd a’r Fro yn y gynhadledd, mae sefydliadau addysg bellach yn ymateb drwy greu llwybrau newydd ar gyfer dysgwyr rhan-amser. Mae’r darlun yn edrych yn fwy gobeithiol mewn addysg uwch gyda diwygiadau newydd Diamond yn gweld cynnydd mewn nifer dysgwyr rhan-amser ac ôl-radd.

Mae’r her fwyaf yn ddi-os ar ddysgu oedolion yn y gymuned seiliedig ar le. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi eisoes bod newidiadau strwythurol mawr i’r sector ar y ffordd ac y bydd newidiadau ynghynt i sicrhau dosbarthiad tecach o gyllid ar draws darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned. Yr her yw’r man cychwyn. Gyda chyllideb flynyddol o tua £4.5m, mae darpariaeth awdurdodau lleol ar ddysgu oedolion yn y gymuned eisoes yn cael ei dan-ariannu ac ni fydd ailddosbarthu lefelau presennol o gyllid yn decach yn mynd i’r afael â’r diffyg cydraddoldeb cyffredinol mewn mynediad na’n creu’r llwybrau i ddysgu gydol oes. Nid oes neb yn dadlau nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru dan bwysau ond o gofio am faint y dirywiad dan lymder ariannol a’r dystiolaeth gadarn o fanteision addysg oedolion, mae achos clir a llethol i gynyddu cyllid yn sylweddol i’r sector dysgu oedolion yn y gymuned yn y cylch cyllideb nesaf.

‘Ymlaen, nid yn ôl’ oedd slogan hawedd ei anghofio Llafur yn etholiad 2005. Bron bymtheg mlynedd wedyn mae’n dangos yr her yn awr i addysg oedolion a dysgu gydol oes yng Nghymru, Yn ddi-os, bu cyfranogiad mewn addysg oedolion yn un o brif ddioddefwyr llymder yng Nghymru ac mae’r niferoedd yn dangos y gostyngiad mawr mewn cyfranogiad dros y cyfnod hwnnw. I fynd ymlaen a darparu hawl i gydol oes sy’n hygyrch mewn cymunedau ledled Cymru, mae angen i’r sector fagu pen-elin cryf a chyflwyno’r achos dros fwy o adnoddau. Nes y gwnaiff hynny, bydd y mynediad hollbwysig hwn i ddysgu ar goll mewn gormod o gymunedau a bydd miloedd o ddysgwyr posibl yn colli manteision newid-bywyd dysgu.

id before:6296
id after:6296