Ymateb y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Gomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Ar gyfer y rhai ohonom sy’n ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, bu 17 Gorffennaf yn ddyddiad cau oedd ar yr amserlen am gyfnod hir. Dyma ddyddiad cau yr ymgynghoriad technegol ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru. Mae’n rhoi manylion efallai’r newid mwyaf mewn addysg ôl-16 a hyfforddiant ers datganoli ac yn cynnwys mwy na 150 tudalen a 100 cwestiwn.

Mae’n nodi’r manylion ar gyfer Comisiwn newydd hyd braich i gynllunio, rheoleiddio a chyllido’r sector. Yr uchelgais yw y bydd system gydlynol, o ddarpariaeth Chweched Dosbarth ysgolion i’r lefelau uchaf o ddysgu, yn cynnig dilyniant clir a chyfle cyfartal i ddysgwyr, ac y bydd gan gyflogwyr fynediad i’r ymchwil a’r hyfforddiant maent ei angen.

Er ein bod wedi cynnal ein cefnogaeth i’r Comisiwn (gyda rhai amodau), mae gwendidau yn y dull gweithredu a amlinellir. Mae ein hymateb yn rhoi sylw i ffyrdd i gryfhau’r Comisiwn, yn cynnwys:

  • Rhoi dysgu gydol oes yn y blaen a’r canol: mae ffocws annigonol ar bwysigrwydd dysgu gydol oes ac ar anghenion dysgwyr ail gyfle. Gyda gweithlu’n heneiddio a her awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial, mae’r achos dros ddysgu gydol oes yn gryfach nag erioed. Dylai’r Comisiwn roi dysgu gydol oes wrth galon ei genhadaeth, yn cynnwys drwy bwyllgor statudol Dysgu Gydol Oes;
  • Gwrando ar lais y gweithlu addysg: dylid gwarantu seddi ar fwrdd uchaf y Comisiwn i’r gweithlu, drwy’r undebau llafur perthnasol. Roeddent yn amlwg drwy eu habsenoldeb yn yr ymgynghoriad. Byddant yn rhoi hygrededd i’r Comisiwn drwy gydbwyso’r ‘mawrion a’r doethion’ gyda chyfeillion beirniadol o’r mudiad undebau llafur;
  • Sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle am gynnydd: mae’r ymgynghoriad yn cynnig Cynlluniau Diogelu a Chynnydd Dysgwyr. Rydym yn cefnogi hyn yn llawn ond credwn fod gormod o bwyslais ar yr hyn sy’n digwydd pe byddai cwrs yn cau neu sefydliad yn methu a dim digon ar sut y gellir cefnogi dysgwyr drwy eu dysgu. Mae angen i’r cynlluniau wneud y ddau beth ac mae angen mwy o bwyslais ar yr ochr cynnydd;
  • Peidio anghofio’r lleol: Mae’n hanfodol y bydd y Cytundebau Rheoleiddio a Deilliannau arfaethedig, y sylfaen i’r berthynas gyda darparwyr, yn adlewyrchu blaenoriaethau polisi cenedlaethol a hefyd anghenion neilltuol cymunedau lleol. Ni ddylid caniatáu i’r Comisiwn na darparwyr unigol, beth bynnag yw maint rhyngwladol eu huchelgais, gael anghofio’r ddyletswydd i wasanaethu eu bro;
  • Ailgydbwyso gwariant ar draws bywyd cyfan: mae’r flaenoriaeth bresennol a roddir mewn deddfwriaeth i ddysgwyr 16-19 oed wedi cyfrannu at gwymp enfawr mewn cyllid ar gyfer addysg rhan-amser i oedolion ac mae angen ei adolygu. Mae’n anghydnaws gyda chreu system gydlynol ar gyfer pob dysgwr ac ateb heriau economaidd a demograffig ein cyfnod. Dylid edrych arno eto fel y gall y Comisiwn ailgydbwyso buddsoddiad yn fwy addas.
  • Cryfhau Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol: Mae gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol rôl hanfodol drwy roi’r cyswllt rhwng y Comisiwn ac anghenion cyflogwyr. Mae barn gyffredinol nad ydynt yn cael digon o adnoddau ar gyfer y rôl a geisiwn ganddynt ac y dylent gael eu cryfhau ar gyfer y dyfodol.
    Hyd yn oed yn gosod y Comisiwn newydd arfaethedig o’r neilltu, prin fod maes polisi ar draws y sector addysg ôl-orfodol a sgiliau nad yw’r diwygiadau a gynigir yn effeithio arnynt. Mae’n iawn i ni ofyn os y gall peirianwaith llywodraeth ymdopi â’r cyfan a ofynnir ganddo ond cyhyd â bod Llywodraeth Cymru yn dal i ymroi i’r Comisiwn newydd, y gwasanaeth gorau y gallwn ei wneud yw camu lan i’r craffu a herio’r llywodraeth a chael pethau’n iawn.
id before:6225
id after:6225