Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Cadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Cymru

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Richard Spear fel Cadeirydd ei Grŵp Strategaeth Cymru ac Ymddiriedolydd Dysgu a Gwaith. Bydd Richard yn helpu I roi arweinyddiaeth strategol a gwybodaeth ar gyfer gwaith Dysgu a Gwaith yng Nghymru ac ychwanegu llais o Gymru at waith Dysgu a Gwaith ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd yn olynu Jeff Greenidge a arweiniodd y grŵp am dros ddegawd, gan helpu i sicrhau bod dysgu gydol oes a gwaith gwell yn ganolog i bolisi yng Nghymru.

Daw Richard â chyfoeth o brofiad i’r swydd gyda 25 mlynedd o brofiad mewn addysg a hyfforddiant a bu ganddo swyddi uwch o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cynnwys Pennaeth Cyllid Rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddwr Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Rheolwr Cyfarwyddwr ACT Training a Chadeirydd ALS Training.

Bu Richard yn aelod o nifer o bwyllgorau addysg a hyfforddiant allweddol a bu’n gadeirydd Panel Cymru y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau a’r Cytgord Cyffredin Credyd ar gyfer Cymru. Bu’n aelod o fwrdd Agored Cymru, YMCA Community College Cyf, Careers Choice Dewis Gyrfa Cyf ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd ACT Cyf, ALS Cyf a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Wrth siarad ar ei benodiad, dywedodd Richard:

Rwyf wrth fy modd i ymuno â bwrdd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac i gadeirio Grŵp Strategaeth Cymru. Fel eiriolwr angerddol dros gydol gyfoes oes, rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at weledigaeth y Sefydliad ar gyfer cymdeithas lewyrchus a theg lle mae dysgu a gwaith yn rhoi cyfleoedd i bawb i wireddu eu potensial.”

Ychwanegodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Richard wrth lunio ein gweithgaredd yng Nghymru, gyda golwg at gyflawni ein nodau uchelgeisiol fel sefydliad gyda ffocws ar ddysgu gydol oes a gwaith gwell. Gydag etholiad 2026 i Senedd Cymru yn agosáu’n gyflym, mae gennym gyfle enfawr fel sefydliad i lunio’r agenda polisi a gwella bywydau pobl Cymru.”

Dywedodd Jeremy Moore, Cadeirydd a Llywydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

Rwy’n falch iawn i groesawu Richard i fwrdd Dysgu a Gwaith. Mae ganddo lawer iawn o brofiad a gwybodaeth am addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac ymroddiad dwfn i ddarparu cyfleoedd i bawb yn ein cymdeithas i weithio a dysgu drwy gydol oes a gwireddu eu huchelgais. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.
  • Richard Spear

    Richard Spear

    Cadeirydd, Grŵp Strategaeth Cymru

    Richard Spear

    Cadeirydd, Grŵp Strategaeth Cymru

    Richard yw Rheolwr Gyfarwyddwr ACT Training, Cadeirydd ALS Training ac Uwch Ddeiliad Swydd y rhiant gorff Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC). Mae ganddo 27 mlynedd o brofiad mewn addysg a hyfforddiant a bu ganddo swyddi uwch yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cynnwys Pennaeth Cyllid Rhaglen ar gyfer Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddwr Cymru a Chynllunio Strategol yn y Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE) a Phrif Weithredwr Gyrfa Cymru. Mae Richard yn aelod o fwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ac elusen atal ysmygu ASH Cymru. Bu’n aelod nifer o bwyllgorau addysg a hyfforddiant allweddol ac yn gadeirydd Panel Cymru y Gwasanaeth Gwella Sgiliau (LSIS) a Chytundeb Cyffredin Credyd Cymru, By hefyd yn aelod o fwrdd Agored Cymru, Coleg Cymunedol YMCA Cyf a Careers Choices Dewis Gyrfa Cyf. Yn ACT, ac o fewn cyd-destun blaenoriaethau strategol Grŵp CAVC, mae Richard yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol a pherfformiad cyffredinol y sefydliad.
id before:16111
id after:16111