Y dadansoddiad diweddaraf ar Fenywod mewn Prentisiaethau: Cefnogi menywod i waith a sicrhau amrywiaeth yn y gweithle

gan David Hagendyk, Cyfarwyddwr Gymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Eisoes yn 2019 fe welwyd cyhoeddi dau adroddiad pwysig: yr adroddiad rhagorol Cyflwr y Genedl gan Chwarae Teg ac adroddiad ar gyfeiriad polisi prentisiaeth yn y dyfodol gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Er mwyn dod â’r ddwy thema hon at ei gilydd rydym wedi edrych ar y data pennawd diweddaraf i weld sut mae prentisiaethau yn helpu menywod i ddod i mewn i waith a helpu i sicrhau amrywiaeth yn ein gweithleoedd.

Y newyddion da, o ran niferoedd crai, yw bod menywod yn elwa’n anghymesur o raglen prentisiaethau Llywodraeth Cymru.Yn 2017/18 (y flwyddyn lawn olaf y mae data ar gael ar ei chyfer) menywod yw 61% o rai’n dechrau ar brentisiaethau, yn fras debyg i flynyddoedd blaenorol.

CaptureGraph-1-Apprenticeships-Cym

Mae prentisiaid benywaidd hefyd yn fwy tebygol na’u cymheiriaid gwrywaidd o fod yn dilyn prentisiaeth ar Lefel 3 neu uwch. Yn 2016/17 menywod oedd 63% o brentisiaid ar y lefelau hyn, tra mai ychydig dros hanner, sef 52%, oedd y lefel ar gyfer dynion.

CaptureGraph-2-apprenticeships-Cym

 

Gwahanu rhwng y rhywiau

Er eu bod yn cyfrif am chwech allan o 10 dechreuwr prentisiaeth, y newyddion heb fod cystal yw bod cynnydd at amrywio’r sectorau y mae menywod yn mynd iddynt yn boenus o araf. Mae dosbarthiad prentisiaethau benywaidd ar draws y sectorau gwahanol yn adlewyrchu’r sefyllfa fel y mae yn hytrach na’i herio.

Dengys ein dadansoddiad nad yw’r cyfeiriad cyffredinol wedi newid dros y chwe mlynedd diwethaf. Mae prentisiaid benywaidd yn dal wedi eu crynhoi mewn ‘sectorau traddodiadol’ sydd hefyd yn aml yn rhai ble mae’r tâl yn isel. Dros y cyfnod hwnnw, gellir mesur cynnydd mewn camau bach yn hytrach na neidiau bras.

Ystyriwch y gyfran o fenywod yn yr hyn y gellid eu disgrifio fel sectorau ‘anrhaddodiadol’ adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu. Dengys data Llywodraeth Cymru, fel cyfran o’r holl brentisiaethau i fenywod yn 2012/13 mai dim ond 1.6% oedd yn y sectorau hyn ac mai dim ond i 2.4% yr oedd wedi cynyddu yn 2017/17. Mewn rhifau crai, roedd hyn yn gynnydd o ddim ond 175 (o 275 i 450 cyfanswm dechreuad).

Cymharwch hyn gyda’r hyn a ystyrir fel sectorau ‘traddodiadol’ Gweinyddu Busnes, Iechyd a Harddwch, a Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn 2017/18 roeddent yn cyfrif am 69% o bob dechreuad prentisiaeth benywaidd. Mewn gwirionedd, roedd hanner yr holl brentisiaethau benywaidd yn y grŵp Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Nid yw’r cynnydd unrhyw le tebyg i fod yn ddigon cyflym ac fel gwlad dylem fod yn mynnu mwy.

Nid problem gyda phrentisiaethau yn unig yw hon. Mae’n adlewyrchu patrwm dosbarthiad y rhywiau ar draws y farchnad lafur ehangach. Yn yr ystyr hynny, mae prentisiaethau’n adlewyrchu’r patrwm dosbarthiad hwnnw ac yn atgynhyrchu gwahaniaethau seiliedig ar ryw sy’n bodoli eisoes.

Mae hyn, wrth gwrs, yn ymwneud â heriau ehangach ym marchnad lafur Cymru ac yn cwestiynu’r ffordd yr ydym yn rhedeg ein heconomi. Mae rhan o’r ateb mewn rhoi modelau rôl ar gyfer menywod ifanc a darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i annog a chefnogi menywod i wneud cais (ac, fel y dengys ein hymchwil, i ddyfalbarhau) gyda cheisiadau mewn gwahanol sectorau. Yn ymarferol mae mwy y gallwn ei wneud i gefnogi menywod, fel yr awgrymir yma gan yr Young Women’s Trust.

Fodd bynnag, a ddylem hefyd fod yn disgwyl llawer mwy gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant sydd, wedi’r cyfan, yn derbyn cymorth cyhoeddus sylweddol drwy’r rhaglen prentisiaeth. Gall targedau fod yn offeryn amrwd ond pan gânt eu cysylltu gyda chyllid byddant yn gyrru ymddygiad a, phan gânt eu cysylltu gydag ymyriadau a chynlluniau eraill, efallai mai nhw yw’r unig ffordd o orfodi’r math o newid y dymunwn ei weld.

Yn yr etholiad nesaf yn 2021 mae’n debyg y bydd mwy o ymrwymiadau ar brentisiaethau. Yn ogystal â’r prif ymrwymiad i adeiladu ar y llwyddiant tebygol o gyflwyno’r ymrwymiad 100,000 pob oedran a wnaed yn 2016, dylid disgwyl i bleidiau gyhoeddi eu targedau ar gyfer cynhwysiant a mynediad mewn amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys rhywedd. Bydd yn brawf y gallwn i gyd ei ddefnyddio i fesur yr ymrwymiad i sicrhau llywodraeth ffeminyddol.

id before:6295
id after:6295