Thomas Ferriday – sut beth yw ennill Gwobr Ysbrydoli!

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Yn 2019 enillais Wobr Ysbrydoli! am fy llwyddiant yn dysgu a fy nghamau i gyrraedd lle’r wyf heddiw. Roedd gennyf orffennol anodd ac wedi gadael yr ysgol heb unrhyw TGAU yn ogystal â bywyd cartref anodd. Dywedais wrthyf fy hun o pan oeddwn yn ifanc y byddwn yn gweithio’n caled ac yn cymryd pob cyfle cyfle i gadw mas o drafferth a dod o hyd i rywbeth roeddwn yn ei garu. Roeddwn yn teimlo’n cael fy ngyrru i wella a llwyddo hyd yn oed mewn cyfnodau anodd.

Dechreuodd fe rhagolygon newid er gwell pan gofrestrais yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar Ddiploma Bricwaith lefel 2 a mynychu dosbarthiadau ychwanegol mewn mathemateg a Saesneg i symud ymlaen i gwrs lefel 3.

Fyddwn ni byth wedi’i gwneud hi mor bell â hyn onibai am fy nghydweithwyr. Roeddent yn credu ynddo i yn arbennig fy athro Paul a roddodd arweiniad ac anogaeth barhaus i mi gyflawni fy uchelgais.

Rwy’n dal i weithio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro fel Technegydd Bricwaith ac yn awr yn mentora dysgwyr newydd ar ddechrau eu taith. Rwy’n ei fwynhau yn fawr iawn! Fe wnes hefyd basio fy mhrawf gyrru a phrynu car fel y gallaf fynd i wahanol leoedd a dwi ddim eisiau stopio yno. Rwyf eisiau gwneud cynlluniau a dal ati i wella, oherwydd mod i bob amser yn canfod ffordd ac yn gwneud fy ngorau.

Wrth edrych yn ôl ar noswaith Gwobrau Ysbrydoli!, rwy’n cofio mai dyma un o’r profiadau gorau erioed! Roedd yn teimlo’n arbennig cael gwahoddiad i’r seremoni a cael gwobr am bopeth rwyf wedi’i gyflawni. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu’n dda hefyd. Roeddwn yn nerfus iawn pan ofynnwyd i mi fynd ar y llwyfan o flaen tyrfa fawr, ond mae’n gyffrous iawn ac yn rhoi hyder i chi.

Diolch i chi am ddarllen fy stori a gobeithio y gall dysgu wneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi fel y gwnaeth i fi.

Thomas-Ferriday-768x512
id before:6232
id after:6232