Tair gwers allweddol wrth ddarparu Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith i Gymru

gan Jess Elmore, Dirpwy Bennaeth Ymchwil yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Yn ddiweddar bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwerthuso Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith: Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru Bwriad y gwerthusiad oedd casglu’r gwersi allweddol o’r prosiect oedd yn canolbwyntio ar dde orllewin a gogledd ddwyrain Cymru cyn iddo gael ei gyflwyno trwy Gymru.

Roedd Cymorth yn y Gwaith yn rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Ei nod oedd helpu pobl i reoli eu hiechyd ac aros mewn gwaith. Roedd hyn trwy ymyrraeth gynnar, gan roi mynediad cyflym am ddim i weithwyr at amrywiaeth o gymorth a therapïau ymarferol, personol i ymdrin â rhwystrau gan gynnwys iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrol-ysgerbydol. Roedd hefyd yn darparu cyngor am ddim, cyfarwyddyd a hyfforddiant i gyflogwyr fel eu bod yn gallu rhoi cefnogaeth well i iechyd a lles eu gweithlu.

Cychwynnodd Cymorth yn y Gwaith ym Medi 2015 gyda’r nod o daclo tlodi ac allgauedd cymdeithasol. Yn ystod y blynyddoedd yn y cyfamser oedd yn cwmpasu’r pandemig, argyfwng costau byw a chynnydd mewn pobl nad ydynt yn weithredol yn y farchnad lafur fe wnaed yr angen am wasanaeth sy’n helpu pobl i aros yn y gwaith hyd yn oed yn fwy allweddol.

Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn gadael y gweithlu oherwydd salwch ac anabledd, a bod hyn yn fater o ddosbarth a rhyw gyda’r rhai sy’n gadael y farchnad lafur am resymau iechyd yn fwy tebygol o fod yn fenywod sy’n gweithio mewn sectorau â chyflogau isel. Mae gwasanaethau effeithiol yn y gwaith yn rhan allweddol o ymdrin â’r anghyfartaledd hwn."

Mae ein hadroddiad yn amlinellu’r ffyrdd yr oedd y cyfranogwyr a’r cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn, ac mae’n dynodi gwersi pwysig a ddysgwyd ar gyfer gwasanaethau tebyg. Tair gwers allweddol oedd:

Mae model cyflawni hyblyg yn ganolog i lwyddiant

Roedd y gwasanaeth yn cynnig cymorth wedi ei deilwrio, a hyblygrwydd yn cynnwys y nifer o sesiynau a’u hamlder, os oedd y cymorth ar-lein neu wyneb yn wyneb, dewis o therapyddion, a dewis iaith. Gallai’r model cyflawni gael ei ymestyn ymhellach trwy edrych ar anghenion ehangach y cyfranogwyr fel cam-drin domestig neu reoli dyled, a chynnwys gweithgareddau mwy ataliol fel gweithdai llesiant neu reoli straen.

Rhoi cymorth effeithiol i gyflogwyr bach

Mae mentrau bach a chanolig yn llai tebygol o gael adnoddau fel gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol neu Adnoddau Dynol i roi cymorth i iechyd a llesiant gweithwyr, ac maent yn neilltuol o debygol o gael budd o’r cymorth. Dylai hyn gynnwys:

  • Cymorth wrth ddatblygu a gweithredu strategaethau llesiant, cynlluniau gweithredu a pholisïau Adnoddau Dynol ehangach,
  • Cefnogaeth wrth ymwreiddio pwyslais ar lesiant wrth gynefino staff ac mewn prosesau adolygu perfformiad a datblygiad staff.
  • Hyrwyddo elfen cymorth unigol y gwasanaeth i weithwyr
  • Cymorth i ddatblygu hwyluswyr llesiant yn y gweithle

Sicrhau bod y bobl iawn yn clywed am y gwasanaeth

Roedd hyrwyddo’r gwasanaeth yn her a gallai’r strategaethau llwyddiannus i oresgyn hynny gynnwys:

  • Ymgysylltu’n gyson â rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid i gyrraedd unigolion a chyflogwyr, fel y Ffederasiwn Busnesau Bach, Busnes Cymru, Cymru’n Gweithio, Undebau Llafur, cyrff sy’n cynrychioli sectorau mewn diwydiant, a sefydliadau trydydd sector.
  • Integreiddio’r elfennau unigol a busnes o’r gwasanaeth, fel bod ymgysylltu â chyflogwyr yn gallu dod yn ddull o gyrraedd unigolion.
  • Darparu gwybodaeth wedi ei theilwrio, cymorth ac adnoddau i feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd eraill. Mae annog meddygon teulu i hyrwyddo hunangyfeirio yn debygol o fod yn fwy effeithiol na meddygon yn cyfeirio yn uniongyrchol.
  • Negeseuon clir i hyrwyddo gwasanaethau i unigolion gan gynnwys:
    – Y pwyslais unigryw ar roi cymorth i bobl sydd mewn gwaith
    – Y cyfle y mae’n ei gynnig i osgoi rhestrau aros y GIG a chael mynediad cyflym at therapïau.
    – Y ffaith ei fod am ddim i gysylltu ag o i’r rhai sy’n cymryd rhan.
IWS - key lessons poster - english and welsh

Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith Adroddiad terfynol

Lawrlwythwch yr adroddiad

Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith - Crynodeb Gweithredol

Darllenwch y crynodeb
id before:11240
id after:11240