Mae gan dreftadaeth ddiwydiannol Cymru hanes hir o ragoriaeth mewn diwydiannau peirianneg a gweithgynhyrchu megis ynni, gweithgynhyrchu gwerth uchel a ffermio sy’n parhau yn hanfodol i’n heconomi cenedlaethol. Mae gweithgynhyrchu ei hun yn cyflogi dros 150,000 o bobl ac yn cyfrannu’n sylweddol at farchnadoedd domestig a hefyd ryngwladol. Gyda datblygiadau cyflym mewn technoleg a newid mewn gofynion byd-eang, mae’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiannau hyn yn esblygu. Mae’n hanfodol deall gofynion unigryw peirianneg a hefyd weithgynhyrchu yng Nghymru ar gyfer creu gweithlu parod i’r dyfodol.
Mae peirianneg ac arloesedd yn mynd law yn llaw ac mae datrys problemau mewn sectorau fel awyrofod, modurol ac ynni adnewyddol yn gyrru’r agenda arloesedd yng Nghymru. Gyda pheirianneg Cymru yn cynhyrchu dros £4 biliwn yn flynyddol (EngineeringUK), mae ganddo ran allweddol ym mherfformiad economaidd y genedl. Mae peirianwyr yng Nghymru yn ymwneud â dylunio technolegau uwch a chanfod datrysiadau creadigol i heriau anodd tebyg i newid hinsawdd a chynaliadwyedd.
Er mwyn sicrhau gweithlu parod i’r dyfodol ar gyfer arloesedd, peirianneg a gweithgynhyrchu mae angen i ni greu system o ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy’n galluogi unigolion i esblygu a newydd-ddyfodiaid i’r gweithlu i fod yn barod ar gyfer y newid yn yr amgylchedd yng Nghymru.
Mae peirianwyr angen sylfaen gref mewn sgiliau technegol, yn arbennig mewn defnyddio offer CAD Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur) a CAM (Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur). Mae’r arbenigedd yma yn hanfodol ar gyfer dylunio ac efelychu cynnyrch arloesol.
Dywedodd 74% sylweddol o gwmnïau peirianneg yng Nghymru eu bod yn cael anhawster mewn recriwtio unigolion gyda’r sgiliau technegol angenrheidiol, gan danlinellu’r angen am hyfforddiant ac addysg wedi’i dargedu (Siambrau Masnach Prydain).
Mae’n rhaid i beiriannwr fynd i’r afael â phroblemau cymhleth bob dydd, sydd angen cyfuniad o greadigrwydd a meddwl beirniadol. Mae’r sgiliau hyn yn gynhenid drwy gymwysterau wedi eu strwythuro, tebyg i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Ffarmweithiau Prentisiaethau Uwch.
Gyda ffocws cynyddol ar gynaliadwyedd, mae peirianwyr yn datrys problemau byd go iawn yn ymwneud ag effeithiolrwydd a thechnolegau ynni gwyrdd.
Wrth i brosiectau ddod yn fwy o ran maint a chymhlethdod, mae’r gallu i’w rheoli’n effeithlon yn dod yn gynyddol anodd. Mae cyflenwi prosiectau ar amser yn dibynnu ar arbenigedd rheolwyr prosiect. Mae’n rhaid i beirianwyr oruchwylio cynllunio prosiectau, dyrannu adnoddau a chydlynu tîm i sicrhau cwblhau ar amser ac ar gyllideb.
Mae ymchwil yn awgrymu fod 45% o gyflogwyr yn y sector peirianneg yn rhoi blaenoriaeth i reoli prosiectau fel sgil hollbwysig ar gyfer gweithwyr newydd, yn arbennig wrth i dimau amlddisgyblaeth ddod yn fwy cyffredin (Engineering UK).
Mae angen i beirianwyr gyfleu cysyniadau technegol yn glir, p’un ai wrth drafod gyda chydweithwyr, cleientiaid neu randdeiliaid. Mae hyn yn sicrhau fod prosiectau’n rhedeg yn llyfn a fod amcanion pawb yn gydnaws,
Mae cyflenwi syniadau arloesol a chreadigol yn dibynnu ar fwy na sgiliau mewn STEM yn unig. Mae sgiliau o’r dyniaethau a’r celfyddydau yn galluogi peirianwyr i fod yn fwy creadigol wrth ddatrys problemau, i ddweud straeon am arloesedd a dychmygu byd tu hwnt i’r un yr ydym yn ei adnabod heddiw. Bydd ehangu mynediad i’r dyniaethau o fewn cymwysterau peirianneg yn sicrhau gwell peirianwyr a chaniatáu llwybrau eraill o’r dyniaethau i beirianneg.
Mae gweithgynhyrchu yn parhau yn sector twf sylweddol i economi Cymru, gan gyfrif am 17% o GDP y genedl (Llywodraeth Cymru). Mae gweithgynhyrchwyr Cymru yn cynhyrchu nwyddau yn amrywio o electroneg technoleg uchel i gynnyrch bwyd ac maent yn gyfranwyr allweddol i allforion. Mae’r sector yn esblygu a gyda mwy o fabwysiadu ar awtomeiddio a thechnolegau digidol, yn ail-lunio’r sgiliau sydd eu hangen gan y gweithlu..
Mae gweithredu peiriannau uwch a rheoli prosesau cynhyrchu yn sgiliau craidd mewn gweithgynhyrchu. Mae’r symud tuag at ddigideiddio yn golygu fod erbyn hyn ddisgwyl i lawer o weithwyr fod yn hyddysg mewn awtomeiddio a gwneud penderfyniadau a alluogir gan ddata.
Canfu adroddiad diweddar fod 81% o weithgynhyrchwyr yng Nghymru yn rhoi blaenoriaeth i sgiliau digidol, yn arbennig wrth i weithgynhyrchu deallus barhau i dyfu (FSB Cymru).
Mae cynnal safonau ansawdd uchel yn hollbwysig, yn arbennig mewn sectorau fel awyrofod ac awtomeiddio lle mae manwl-gywirdeb yn hanfodol. Mae gweithwyr angen arbenigedd mewn systemau rheoli ansawdd tebyg i ISO 9001, sy’n sicrhau fod cynnyrch yn cyflawni rheoliadau llym y diwydiant.
Dywedodd dros 50% o weithgynhyrchwyr yng Nghymru fod sgiliau sicrwydd ansawdd yn hanfodol ar gyfer cynnal cystadleurwydd (Ystadegau Llywodraeth Cymru).
Nod egwyddorion darbodus yw gwella effeithiolrwydd drwy ddileu gwastraff a symleiddio prosesau. Caiff technegau fel Six Sigma eu defnyddio’n eang ar draws y sector i hybu cynhyrchiant a gostwng costau.
Mae 65% o weithgynhyrchwyr Cymru wedi gweithredu arferion gweithgynhyrchu darbodus, gan gydnabod y buddion ariannol a gweithredol (Canolfan Uwch Beirianneg a Gweithgynhyrchu Cymru).
Mae gweithgynhyrchu yn aml yn golygu gweithio mewn timau, ac mae hynny’n galw am sgiliau rhyngbersonol a chydweithio cryf i sicrhau gweithredu llyfn. Mae cyfathrebu effeithlon rhwng adrannau yn hanfodol i gynnal cynhyrchiant.
Er bod y ddau sector yn rhannu sgiliau fel hyfedredd technegol a gwaith tîm, mae eu ffocws yn wahanol:
Mae ffocws peirianneg ar ddylunio ac arloesedd, gyda phwyslais ar ddatrys problemau a chreu systemau neu gynnyrch newydd.
Mae gweithgynhyrchu yn rhoi blaenoriaeth i effeithiolrwydd cynhyrchu a rheoli ansawdd, gan sicrhau y caiff nwyddau eu cynhyrchu’n gyflym ac i safon uchel.
Mae’n rhaid i raglenni hyfforddi ystyried y gwahaniaethau hyn. Bydd cwmnïau angen cyfuniad o sgiliau eang, traws-ddisgyblaeth ynghyd â hyfforddiant arbenigol i ddiwallu anghenion penodol pob sector.
Mae’r ddau sector yn gweld trawsnewid a gaiff ei yrru gan ddatblygiadau technegol:
Mae angen cynyddol i beirianwyr gael sgiliau mewn dadansoddi data, dysgu peiriant a roboteg wrth i awtomeiddio fod â mwy o rôl mewn prosesau diwydiannol.
Mae angen i weithwyr proffesiynol gweithgynhyrchu weithredu systemau soffistigedig wedi eu awtimeiddio a defnyddio metrigau a yrrir gan ddata i optimeiddio cynhyrchu. Mae 69% o weithgynhyrchwyr yng Nghymru yn bwriadu cynyddu buddsoddiad mewn awtomeiddio o fewn y pum mlynedd nesaf (Medr).
Mae dyfodol peirianneg a gweithgynhyrchu yng Nghymru yn dibynnu ar y gallu i ddatblygu gweithlu gyda’r cyfuniad cywir o sgiliau. Mae cydweithio rhwng sefydliadau addysgol, arweinwyr diwydiant a chyrff llywodraeth yn hanfodol i sicrhau fod rhaglenni hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion y farchnad.
Dylai sefydliadau addysgol (Addysg Bellach ac Addysg Uwch) ddylunio cyrsiau sy’n gydnaws gydag anghenion y diwydiant, gan sicrhau fod gan fyfyrwyr sgiliau technegol a digidol cyfredol. Mae Canolfan Uwch Beirianneg a Gweithgynhyrchu Cymru yn rhagweld twf o 20% yn y galw am brentisiaethau peirianneg a gweithgynhyrchu dros y degawd nesaf.
Mae angen i gyrff llywodraeth tebyg i Medr asesu ac addasu a diweddaru fframweithiau prentisiaethau i sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol mewn marchnad sy’n newid yn gyflym.
Dylai cyflogwyr fod yn rhagweithiol wrth lunio cynnwys hyfforddiant, gan sicrhau fod y gweithlu wedi ei baratoi ar gyfer heriau heddiw yn ogystal â heriau’r dyfodol.
Mae busnesau bach a chanolig yn hanfodol wrth sicrhau gweithlu parod i’r dyfodol, mae’n rhaid eu cynnwys yn y sgwrs a’u cefnogi i sicrhau na chânt eu gadael ar ôl mewn meysydd tebyg i lythrennedd digidol, awtomeiddio ac arloesedd yn ogystal ag arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.