Mae Serco yn arwain cynllun ymchwil hollbwysig gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n anelu i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru.
Wrth i Bapur Gwyn ‘Get Britain Working’ Llywodraeth y DU symud tuag at roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru, bydd yr ymchwil yn cynnig syniadau newydd ar beth fedrid ei wneud i gefnogi pobl i gyflogaeth yng Nghymru.
Disgwylir canlyniadau’r ymchwil erbyn diwedd eleni a bydd yn rhoi sylw i safbwyntiau’r rhai sydd bellaf o’r farchnad swyddi yng Nghymru drwy grwpiau ffocws, gweithdai a dadansoddi data. Bydd y cynllun yn ehangu ar y ddealltwriaeth a sicrhawyd o adroddiad ‘Pa ffordd nawr ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru?’ gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Dengys yr adroddiad hwnnw fod gan Gymru gyfradd uwch o anweithgaredd economaidd ymysg unigolion o oedran gwaith o gymharu â Lloegr a’r Alban.
Bu Serco yn fusnes allweddol wrth gefnogi’r farchnad swyddi yn y wlad, ar ôl cyflwyno contract Cynllun Restart yr Adran Gwaith a Phensiynau ledled Cymru ers 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd 34,900 unigolion eu hatgyfeirio at y Cynllun Restart yng Nghymru, gyda 6,900 bellach mewn cyflogaeth gynaliadwy hirdymor. Yn 2024, unodd adran Gwasanaethau Cyflogadwyedd Serco gyda Gwasanaethau Sgiliau a Hyfforddiant Serco gan ddod yn ‘Cyflogaeth, Sgiliau a Hyfforddiant’ gan olygu y gall Serco gefnogi’r rhai sy’n edrych am waith yn ogystal ag uwchsgilio ar gyfer prinder sgiliau neu anghenion busnes.
Dywedodd Andy Bowie, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd Serco: “Rydym yn hynod falch i gydweithio gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i fynd i’r afael â’r prif heriau o fewn marchnad lafur Cymru. Mae’r ymchwil hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu strategaethau gwybodus, effeithlon sy’n mynd i’r afael â’r anghyfartaledd presennol a hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol economaidd llewyrchus a chynhwysol i Gymru.”
Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Mae polisi da yn dechrau gyda dealltwriaeth gref o brofiadau bywyd pobl. Dyna pam y bydd yr ymchwil hwn yn hollbwysig ac yn rhoi golwg uniongyrchol i ni gan y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur.
“Drwy’r cynllun hwn gobeithiwn ddefnyddio dealltwriaeth leol a hefyd ryngwladol, gan arwain at adroddiad cynhwysfawr gydag argymhellion polisi y gellir eu rhoi ar waith, gan anelu i drawsnewid cymorth cyflogaeth yn sylfaenol a mynd i’r afael â’r heriau unigryw sy’n wynebu’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur yng Nghymru.”