Scott Jenkinson: Fy mhrofiad dysgu oedolion

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Scott jenkins Youth Shedz - PR

“Celwyddgi, twyllwr a lleidr”

Dyna’r geiriau oedd yn canu yn fy nghlustiau y diwrnod y cerddais i mewn i ganolfan adsefydlu 15 mlynedd yn ôl. Y geiriau a ddywedwyd dros fy mhen yn blentyn – geiriau proffwydol ddaeth yn wir.

‘Gŵr’, ‘Tad’, ‘Mab’, ‘Athro’, yw’r unig eiriau yr wyf yn derbyn cael fy ngalw heddiw.

Bron 20 mlynedd yn ôl, yn gaeth i Heroin, yn alcoholic, yn ddigartref, cardotyn, troseddwr, yn dwyn o siopau, roedd hyn i gyd ar fin dod i ben pan gerddais trwy ddrysau canolfan adsefydlu. Ni wyddwn, na meiddio breuddwydio, sut byddai fy mywyd yn datblygu.

Roedd dechrau fy nhaith adsefydlu yn ddechrau ar daith yn ôl i fyd rhyfeddol addysg – ac rwy’n dweud ‘rhyfeddol’ nawr, ond roedd fy mhrofiad blaenorol o addysg yn yr ysgol yn wahanol iawn. Yn y system ysgol, canfyddais fwlio, nid oedd gennyf unrhyw deimlad o fi fy hun, roedd gennyf anawsterau gartref, nid oeddwn yn teimlo fy mod yn ffitio i fewn, nid oeddwn yn gallu canolbwyntio yn y dosbarth. Ni wnaeth yr ysgol weithio i fi ac felly ni wnes i weithio i’r ysgol. Gadewais heb un TGAU, problem gydag alcohol, a dymuniad dwfn i redeg i ffwrdd. Rhedais i ffwrdd, am bron 20 mlynedd.

Heddiw, mae fy mywyd wedi cael ei drawsnewid y tu hwnt i bob mesur, heddiw o bob diwrnod wrth i mi ysgrifennu hwn – mae fy ngwraig a minnau wedi cael ein derbyn i gael morgais i brynu ein tŷ ein hunain. Fi, yn prynu tŷ! Fi, oedd yn byw wrth ddrws siop 15 mlynedd yn ôl!

Roedd addysg oedolion mor bwerus a thrawsnewidiol i mi, ysgogodd fi i ddod yn athro. Yna es i ymlaen i ennill Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! yn 2015. Mae gennyf bellach y fraint anhygoel o fod yn llysgennad i ddysgu gydol oes a byddaf yn parhau i ddweud wrth bawb, unrhyw le, am rym trawsffurfiol addysg oedolion.

O adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau, yn gaeth mewn cylch o gaethiwed i gyffuriau ac yn garcharor – i fod yn hapus fy myd yn briod ac yn dad i ferch fach. Rwy’n ‘byw y freuddwyd’. I gyd gan i mi oresgyn fy ofn o’r ystafell ddosbarth a sylweddoli mai un profiad gwael flynyddoedd lawer yn ôl oedd yr ysgol.

Fy nghyngor i chi? Peidiwch â gadael i’r gorffennol ddiffinio eich dyfodol – perchnogwch ef, symudwch ymlaen oddi wrtho, ac ewch yn ôl i’r ystafell ddosbarth. Rwy’n addo i chi ei fod yn fyd cwbl wahanol. Dysgwch i garu dysgu unwaith eto, fel y gwnes i, a phwy â ŵyr? Efallai y byddwch chi’n byw eich breuddwyd mewn blynyddoedd i ddod.


Scott Jenkinson, Ysbrydoli! Enillydd Gwobr Tiwtor 2015, Sylfaenydd ‘Youth Shedz Cymru’ a llysgennad dysgu oedolion

id before:10212
id after:10212