Rose Probert: Fy mhrofiad dysgu oedolion

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

rose probert

Pan oeddwn yn iau, roeddwn bob amser yn mwynhau’r ysgol, ond pan wnes i adael gyda graddau isel, roeddwn yn gweithio mewn swyddi oedd yn talu’n wael.

Yn 24 oed, dechreuodd fy mywyd newid. Cefais gyfle i weithio fel ‘Cymorth Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr’ yn yr ysgol Uwchradd a fynychais. Roeddwn eisiau’r swydd, er bod angen i mi ddatblygu sgiliau penodol – cefais gymorth gan yr ysgol a dechreuais ar gymhwyster Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 3.

Pan oeddwn yn 32 oed, achubais ar y cyfle i ailsefyll TGAU Saesneg, Gwyddoniaeth a Mathemateg mewn dosbarth addysg oedolion gyda fy ysgol gynradd leol. Wrth gwblhau’r cymwysterau hyn, sylweddolais fod yr ysgol gynradd yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Cymru i gyflwyno gradd mewn Astudiaethau Cynhwysol mewn Addysg, oedd o ddiddordeb mawr i mi, felly meddyliais y byddwn yn rhoi cynnig arni. Rwyf mor falch i mi wneud hynny, am fy mod yn ymdrechu gydag academia ar fwy nag un lefel.

Rwyf bellach yn Bennaeth dosbarth anghenion arbennig yn yr ysgol yr ymunais â hi pan oeddwn yn 24 oed. Yn ogystal â hyn, rwyf newydd gwblhau gradd Meistr mewn Llesiant a Datblygiad Proffesiynol.

Mae dysgu wedi cael effaith mor ddwfn ar fy mywyd. Mae nid yn unig wedi fy helpu i ffurfio fy ngyrfa a datblygu fy hyder, ond mae hefyd wedi helpu i wella fy lles ac wedi ehangu fy niddordebau ac nid wyf byth eisiau iddo ddod i ben. Ers fy ngradd meistr, rwyf wedi ymuno â chwrs tylino Chwaraeon Lefel 3 yn fy ngholeg lleol.

Rwy’n credu bod fy rôl fel llysgennad wedi cael effaith gadarnhaol ar fy nghymuned a’r gweithle. Ers gwneud fy ngradd gyntaf, mae llawer o fy ffrindiau a’m cydweithwyr wedi dechrau’r un radd.

Fy nghyngor i unrhyw un fyddai, os cewch y cyfle i gael profiad, sgiliau a hyder, ewch amdani! Gallech gael eich synnu gyda’r hyn y gallwch ei gyflawni. Canfyddwch amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael, nid oes rhaid iddo fod yn radd ffurfiol, gallwch fynychu dosbarth dechreuwyr, sesiwn flasu, neu gwrs byr ac fe gewch eich cefnogi gan diwtoriaid anhygoel. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu, ac rwyf i yn brawf o hyn.


Rose Probert, Ysbrydoli! Enillydd Gwobr Dysgu Oedolion 2016 a llysgennad dysgu oedolion

id before:10213
id after:10213