Mae Darlith Goffa Raymond Williams eleni yn nodi dau achlysur arbennig yng nghalendr 2021 – canrif yn hanes y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chreu Sefydliad Prydeinig Addysg Oedolion yn 1921, a chanmlwyddiant geni y nofelydd, beirniad diwylliannol a’r sosialydd blaenllaw Raymond Williams. Ar gyfer yr achlysur cyflwynodd yr Athro Tim Blackman, Is-ganghellor y Brifysgol Agored ddarlith goffa Raymond Williams ar-lein, yn cynnwys croeso arbennig gan Kirsty Williams AoS, Gweinidog Addysg.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Ymchwiliodd yr Athro Tim Blackman safbwyntiau Raymond Williams ar addysg, a ystyriai fel bod ynglŷn â llunio cymdeithas ddemocrataidd. Ar adeg pan mae gwahanol ymagweddau at addysg alwedigaethol ac academaidd yn dod i’r amlwg ar draws pedair cenedl y Deyrnas Unedig, defnyddiodd syniadau Raymond Williams ar gydfuddioldeb perthnasoedd dynol i ddadlau am addysg mewn colegau a phrifysgolion i gyfuno cyfleoedd dysgu dyneiddiol a thechnegol.
Yn dilyn y ddarlith ymunodd y panelwyr Maggie Galliers, Cadeirydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith; Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe; Emma Williams, enillydd prif wobr Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2020; Tim Blackman, Is-ganghellor y Brifysgol Agored a Kirsty Wiliams AoS, Gweinidog Addysg.
Mae’r ddarlith ar gael i’w gweld islaw:
Real privilege today to be introduced by reforming Welsh Education Minister Kirsty Williams @wgmin_education to give the 2021 @LearnWorkCymru Raymond Williams lecture. My themes - Anywheres & Somewheres, ladders & climbing frames, education for work & wellbeing, critical thinking
— Tim Blackman (@TimJBlackman) February 1, 2021