Rameh O’Sullivan | ennill Gwobr Ysbrydoli! Tiwtor

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Inspire! Tutor Awards

 

Y tro cyntaf i mi ddechrau addysgu Dysgu Gydol Oes, gwnaeth poster ar wal yn dweud “Mae rhai pobl yn dysgu i fyw, rhai’n byw i ddysgu” argraff fawr arnaf. Rwy’n bendant iawn yn un o’r bobl hynny sydd bob amser yn mwynhau dysgu ond yn ymwybodol fod bywyd yn fyr a fod cymaint i’w ddysgu.

Rwyf bob amser wedi ceisio cyfleu’r neges syml ond ddofn hon i fy myfyrwyr, gan ddangos iddynt harddwch dysgu a’r mwynhad dilynol sy’n cyfoethogi bywyd, yn ogystal â’r buddion a’r cyfleoedd y gall eu hagor iddynt.

Roedd ennill Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn 2019 yn golygu cymaint i mi, gan awgrymu fy mod wedi cyflawni fy nod o annog fy nysgwyr i fedi manteision dysgu gydol oes. Cafodd pwysigrwydd coleddu sgiliau newydd ei amlygu’n fuan wedyn gan bandemig Coronafeirws 2020 – yr angen i ddefnyddio a chroesawu ffyrdd newydd o weithio, addysgu, a chymhwyso technoleg a sgiliau newydd yn gyflym, yn golygu fod angen i bawb ohonom newid."

Roedd dysgu ac addysgu ar-lein yn hytrach nag yn yr ystafell ddosbarth yn her enfawr gan fod rhai o fy nysgwyr yn anghyfarwydd gyda thechnoleg gwybodaeth ac yn ei chael yn anodd iawn defnyddio cyfrifiadur a rhaglenni fel Microsoft Teams. Ond drwy eu sicrhau ein bod i gyd ar daith, ar gromlin dysgu newydd lle mae gwneud camgymeriadau ac anghofio sut i wneud rhywbeth (e.e. troi botymau mud ymlaen ac i ffwrdd!) yn rhan o’r daith. Fe wnaethom gyfuno’n dda, cael hwyl a dysgu deall y feddalwedd gyda’n gilydd. Fel canlyniad, rydym i gyd yn awr yn mynd yn fwy hyderus ac mae’n teimlo fel ein bod yn medi manteision dysgu ar-lein, y ‘normal newydd’ ar gyfer addysgu?

Cafodd mynediad i ddysgu hefyd ei wneud yn haws, gall fy myfyrwyr yn awr fynd dros ac edrych eto ar bob sesiwn yn eu hamser ein hunain. Gallwn hefyd gysylltu’n rhwydd gyda’n gilydd dwy neges destun neu sgwrs. Rwyf hefyd wedi bod yn annog fy nysgwyr i gysylltu gyda’i gilydd ac ymarfer eu Saesneg ar-lein, rhywbeth sy’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n well ganddynt beidio teithio, er ein bod i gyd yn colli agweddau cymdeithasol ein sesiynau ac yn edrych ymlaen at gwrdd yn yr ystafell ddosbarth yn fuan.

Roedd ennill y wobr yn annisgwyl ac rwy’n ddiolchgar iawn am gael fy enwebu. Rwy’n credu ei bod mor bwysig i enwebu tiwtoriaid a chydnabod a mynegi gwerthfawrogiad o’u gwaith caled a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw.

Rwy’n gobeithio rhoi’r hyder i ddysgwyr beidio rhoi lan. Mewn byd ansicr yn llawn heriau, mae pawb eisiau gwella eu bywydau. Addysg yw’r ffordd fwyaf effeithlon i helpu cyflawni hyn a mwynhau bywyd gwerth chweil.

Fe wnaeth ennill gwobr Ysbrydoli! tiwtoriaid fy annog i feddwl yn unon faint rwy’n mwynhau helpu fy myfyrwyr i fwynhau dysgu a chyflawni eu ‘gradd ddelfrydol’ neu symud i addysg uwch. Mae eu hadborth a negeseuon e-bost yn mynegi pa mor ddiolchgar ydynt o’r cwrs a sut yr agorodd lawer o ddrysau iddynt bob amser yn dod â gwên i fy wyneb.

 


Blog gwadd gan enillodd Rameh O’Sullivan (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Ehangu Mynediad) Ysbrydoliaeth! Gwobr Tiwtor yn 2019 am ei chyflawniadau ysbrydoledig ym maes tiwtora.

Edrych ar stori Rameh.

id before:6322
id after:6322