Cyhoeddwyd heddiw y penodwyd Josh Miles yn Gyfarwyddwr Cymru ar ran y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Bydd Josh yn arwain gwaith y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru a bydd ganddo rôl allweddol fel rhan o dîm arweinyddiaeth y Sefydliad. Mae’n ymuno o’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Cymru. Mae ei swyddi blaenorol wedi cynnwys gweithio yn Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu.
Dywedodd Stephen Evans, prif weithredwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith:
Rwy’n falch iawn i groesawu Josh i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith fel ein Cyfarwyddwr newydd yng Nghymru. Mae ganddo arbenigedd a dealltwriaeth wych o bolisi ac ymarfer mewn dysgu, sgiliau a chyflogaeth yng Nghymru yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd mawr sydd i ddod. Edrychaf ymlaen at y gwaith cyffrous gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws Cymru i sicrhau fod pawb yn cael cyfleoedd gwych, a agorir drwy fynediad i ddysgu a gwaith."
Meddai Josh Miles:
Rwy’n falch iawn i ddod yn Gyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Ar ôl gweithio’n agos gyda’r tîm Dysgu a Gwaith mewn swyddi blaenorol, gwn eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y tirlun polisi yng Nghymru, gan helpu dinasyddion Cymru i gyflawni eu potensial cyflogaeth a dysgu. Ar adeg mor gythryblus i’n heconomi a chymdeithas, edrychaf ymlaen at ychwanegu fy nghyfraniad fy hun at waith pwysig Dysgu a Gwaith mewn darparu sylfaen tystiolaeth cryf ar gyfer penderfyniadau polisi yng Nghymru.”