OASIS Cwricwlwm Dinasyddion: Addysg Iaith a Chroeso Cynnes Cymreig

Laura Phelps, Pennaeth ESOL, Oasis

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Rhannu:

Pa un yw’r ffordd orau i addysgu iaith i newydd-ddyfodiaid yng Nghymru? A sut yw’r ffordd orau i gefnogi athrawon i weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a all fod yn dysgu iaith tra’u bod yn dioddef o drawma ac yn gorfod wynebu’r ‘amgylchedd gwrthwynebus’ a gafodd ei greu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Dyma’r cwestiynau yr oeddem eisiau eu hymchwilio gyda’n prosiect Cwricwlwm Dinasyddion, partneriaeth rhwng Oasis, Prifysgol De Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.

Oasis yw’r ganolfan fwyaf yng Nghymru sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’n nod yw cynnig ‘Croeso Cynnes Cymreig’ i bawb sy’n ceisio lloches. Un o’r ffyrdd y gwnawn hyn yw drwy gynnig dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) bum diwrnod yr wythnos. Caiff dosbarthiadau eu cyflwyno gan dîm o tua 50 o athrawon a chynorthwywyr addysgu gwirfoddol, rhai gyda chefndir proffesiynol mewn addysg ac eraill heb hynny. Mae hyd yn oed y rhai gyda chymwysterau addysgu iaith yn aml yn ei chael yn heriol gweithio gyda dysgwyr sy’n ceisio lloches, gan fod eu hanghenion yn rhai brys a chymhleth; yn ogystal â delio gyda straen ôl-drawmatig, gall dysgwyr ei chael yn anodd cyflawni hyd yn oed dasgau sylfaenol fel gweld meddyg oherwydd rhwystrau iaith ac mae gan gyfran sylweddol anghenion llythrennedd oherwydd y tarfwyd ar eu haddysg.  Felly buom yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i gynllunio cwrs hyfforddiant gyda ffocws ar ddulliau ystafell ddosbarth a all fod yn neilltuol o effeithiol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

I lawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, mae dosbarthiadau ESOL yn bennaf oll yn ofod cymdeithasol, yn rhoi ymdeimlad o strwythur yn eu bywydau ac yn cynnig cefnogaeth ieithyddol a seicolegol. Yn aml caiff athrawon eu gweld fel pont ddynol, hanfodol i’r gymdeithas newydd, ac maent mewn lle unigryw i gefnogi integreiddiad llwyddiannus. Oherwydd hyn, mae llawer o addysgwyr yn awr yn hybu dull cyfranogol mewn ystafelloedd dosbarth ESOL, un lle caiff gofod ei greu i’r dysgwyr drin a thrafod y materion sy’n fwyaf perthnasol iddynt tebyg i sioc ddiwylliannol, pryderon am arian neu ganfod llety addas. Nid dim ond pwnc academaidd arall yw ESOL, ac nid yw maes llafur a osodir yn allanol bob amser yn galluogi dysgwyr i ddysgu’r iaith maent eu hangen ar gyfer eu bywydau go iawn. Heb eu cyfyngu gan feysydd llafur neu system asesu, gall cyrff trydydd sector fel Oasis gynnig dosbarthiadau mwy cyfranogol – cyhyd ag y caiff athrawon eu cefnogi i’w cyflwyno.

Fe wnaethom gyflwyno ein cwrs hyfforddiant i athrawon, Dulliau Creadigol a Chyfranogol o Ddysgu Iaith, dros ddeg wythnos rhwng mis Chwefror a mis Mawrth. Fe wnaeth deg o gyfranogwyr – pump o athrawon gwirfoddol Oasis a phump o athrawon ar dâl o Addysg Oedolion Cymru – fynychu am dair awr yr wythnos, a chynnal ymchwil gweithredu yn eu hystafell ddosbarth rhwng sesiynau. Cafodd cyfranogwyr gyfle helaeth i drafod eu hymchwil unigol a dysgu gan eu cymheiriaid, yn ogystal â derbyn mewnbwn mwy traddodiadol gan ymarferwyr ESOL profiadol. Ymddangosai hyn yn ddull gweithredu effeithiol, fel y dengys eu hadborth:

“Roeddwn yn wirioneddol hoffi teimlo’n rhan o gymuned athrawon.”

“Roedd yn teimlo fel tro gwirioneddol sydyn, rydych yn gwneud pethau y gallaf integreiddio’n uniongyrchol â nhw a’u rhoi ar waith yn fy addysgu.”

“Mae fy ngwersi yn fwy difyr, hwyliog a defnyddiol. Rwy’n cysylltu’n go iawn gyda dysgwyr, gan ddefnyddio’r iaith sydd fwyaf gwerthfawr iddynt.”

“Mae’r cwrs yma wedi fy ngwneud yn ddewrach rywsut – mae’n rhoi caniatâd, mewn ffordd. Wn i ddim pam mod i’n meddwl bod angen caniatâd ond roeddwn yn teimlo’n ddihyder iawn pan ddechreuais.”

“Fe wnaeth i fi edrych ar ESOL mewn ffordd hollol wahanol”.

“Nid yw’r cwrs wedi bod yn ddim llai nag agoriad llygad”.

Er  mai dim ond unwaith y bwriedid cynnal y cwrs yn ystod prosiect y Cwricwlwm Dinasyddion, roedd yr adborth mor gadarnhaol fel y gwnaethom benderfynu ei gynnig i grŵp arall o wirfoddolwyr Oasis yn ddiweddarach eleni. Y nod yw cymharu profiadau’r garfan gyntaf, oedd â chymwysterau addysgu a/neu brofiad, gydag ail gohort a ddaeth i Oasis gyda chefndiroedd proffesiynol hollol wahanol. A’n gobaith yw, drwy helpu pob gwirfoddolwr i deimlo’n fwy cysurus mewn ystafell ddosbarth cyfranogol, gydag anghenion a buddiannau go iawn dysgwyr wrth galon pob gwers. y gall newydd-ddyfodiaid i Gymru deimlo’n rhan o’n cymuned yn fwy cyflym ac ailadeiladu eu bywydau.

https://www.jcwi.org.uk/the-hostile-environment-explained

  • OASIS Logo
id before:12329
id after:12329