Mae’n amser i bawb ohonom gymryd rhan mewn VET

gan Mark Ravenhall, Cydymaith y Sefydliad Dysgu a Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Am lawer o hanes fodern cafodd addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) eu hystyried yn llwyr yn gyfrifoldeb cyflogwyr. Mewn gwirionedd, mae’n ffenomen eithaf diweddar i lywodraethau ymwneud â VET o gwbl. Dadleuodd rhai mai’r rheswm pam fod angen i wneuthurwyr polisi gymryd rhan (a defnyddio ein trethi) yw oherwydd fod VET yn helpu i lunio’r math o economi rydym ei heisiau. Bu Llywodraeth Cymru yn glir iawn am hynny: mae angen i Gymru fod yn wyrddach, yn fwy craff am dechnoleg ac yn gyffredinol fwy ystwyth mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae gan VET hefyd fuddion cymdeithasol ehangach: gan effeithio’n gadarnhaol ar ein hiechyd a llesiant, lefelau ymddiriedaeth mewn cymdeithas, yn ogystal â’r punnoedd yn ein pocedi.

A siarad yn syml, fel rhannau eraill o ddysgu gydol oes, mae VET yn trawsnewid bywydau.

Dyna pam ein bod wrth ein bodd i arwain adolygiad o un agwedd o VET yn ystod yr haf. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni edrych ar y dystiolaeth ar gyfer sefydlu system yn seiliedig ar wahaniaethu addysg a hyfforddiant galwedigaethol ‘cychwynnol’ a ‘pharhaus’. Af i ddim i’r diffiniadau yma – mae’r adroddiad cryno yn eu hesbonio’n dda iawn – ond yn fyr, mae’n ymwneud ag os yw Cymru angen dulliau gweithredu gwahanol ar gyfer oedolion iau ac oedolion hŷn.

Dengys ein hadolygiad o 8 ffynhonnell tystiolaeth fod y rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn diffinio Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Cychwynnol fel bod ar gyfer y grŵp oedran 16-24. A siarad yn gyffredinol, mae hyn yn debygol o fod yn paratoi am fywyd gwaith a chaiff yn bennaf ei gyflwyno i ffordd o’r swydd. Ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Parhaus (CVET), mae’r ffocws yn bendant iawn ar ei gynnal mewn swydd ac mae’n ymwneud ag uwchsgilio, ailhyfforddi a datblygiad proffesiynol. Anelwyd CVET yn bennaf at rai 25 oed a throsodd. Yn hanfodol, gellir hefyd anelu CVET at y rhai sy’n dymuno ail-ymuno â’r farchnad lafur yn dilyn seibiant gyrfa (oherwydd afiechyd, cyfrifoldebau gofalu neu ddileu swydd).

Anfonwyd crynodeb o’n hadolygiad tystiolaeth at ystod o randdeiliaid, arbenigwyr rhyngwladol a chynrychiolwyr y sector i gael eu barn. Fe wnaethant ddweud wrthym, mewn dros ugain awr o gyfweliadau, am yr enghreifftiau niferus o arfer gwych ar draws Cymru a thu hwnt. Fodd bynnag, y consensws oedd fod system VET Cymru yn brin o gydlyniaeth. Cydnabuwyd fod gan oedolion wahanol anghenion ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau.

Fodd bynnag, gellid hefyd ddadlau fod hyn angen dull gweithredu ‘cyfnod-nid-oedran’. Er enghraifft, gallai rhywun yn gwneud prentisiaeth gradd fod dros 25 oed ond yn dal heb ymuno â’r farchnad lafur. Ni fyddai dylunio system yn llwyr ar sail oedran yn rhoi’r hyblygrwydd mae’r system ei angen. I aralleirio un arbenigwr rhyngwladol: efallai na fyddai’r hyn sy’n gweithio heddiw yn ddigon ystwyth ar gyfer economïau sy’n newid yn gyflym ar draws Ewrop.

Fodd bynnag, gellid hefyd ddadlau fod hyn angen dull gweithredu ‘cyfnod-nid-oedran’. Er enghraifft, gallai rhywun yn gwneud prentisiaeth gradd fod dros 25 oed ond yn dal heb ymuno â’r farchnad lafur. Ni fyddai dylunio system yn llwyr ar sail oedran yn rhoi’r hyblygrwydd mae’r system ei angen. I aralleirio un arbenigwr rhyngwladol: efallai na fyddai’r hyn sy’n gweithio heddiw yn ddigon ystwyth ar gyfer economïau sy’n newid yn gyflym ar draws Ewrop

Canmolodd llawer o randdeiliaid (yn cynnwys dysgwyr) effaith drawsnewidiol VET ar fywydau pobl. Roedd cynrychiolwyr cyflogwyr yn awyddus i danlinellu’r angen am sgiliau meddalach wrth ochr cymwysterau galwedigaethol a wnaed ‘ar gyfer Cymru’; neu ‘yng Nghymru’.   Soniodd darparwyr VET (colegau, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant) am yr angen i fuddsoddi mewn perthynas fwy deinamig gyda diwydiant a’u staff eu hunain. Roeddent i gyd yn awyddus i danlinellu pwysigrwydd dulliau is-genedlaethol sy’n dod â chyflogwyr a darparwyr ynghyd.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i’r heriau wrth sicrhau mynediad i VET drwy gyfrwng y Gymraeg a chreu maes chwarae gwastad ar gyfer oedolion ifanc sy’n edrych am gyfleoedd cyfoethogi. Er fod llawer o enghreifftiau o arfer da, ystyriwyd bod system gyfredol VET yn brin o’r holl elfennau hyn mewn un darlun crwn. Felly teimlwyd fod Cymru angen strategaeth VET gynhwysfawr y mae hyn i gyd yn eistedd o’i mewn. Roedd rhanddeiliaid yn rhoi croeso arbennig i rôl y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil wrth symud i’r dyfodol. Ond cydnabuwyd hefyd y bydd y Comisiwn yn wynebu heriau heb gael digon o adnoddau a chyfeiriad gan Lywodraeth Cymru.

Sy’n dod â fi yn ôl at ddysgu gydol oes.

Bu Gweinidogion yng Nghymru yn flaenllaw yn y drafodaeth am ddysgu gydol oes yn y Deyrnas Unedig. Galwyd hefyd ar y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i ddatblygu ymagwedd dysgu gydol oes fel sylfaen ar gyfer ei weithgaredd. Efallai mai dyma’r amser i symud ymlaen â hyn yng nghyd-destun addysg alwedigaethol yn ei hystyr ehangaf. Un sy’n diwallu anghenion diwydiannau newydd, cyflogwyr a dinasyddion ar bob cam o’u bywydau yn y dyfodol.

Darllenwch yr adroddiad a dweud eich barn wrthym os gwelwch yn dda.


Mae Mark Ravenhall a Colin Forest yn Gymdeithion y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac yn rhan o’r tîm a weithiodd ar y prosiect hwn gydag aelodau eraill, yn cynnwys Jackie Woodhouse, Nicola Aylward a Joshua Miles.

Adolygiad o’r System Sgiliau yng Nghymru

Ymchwilio’r canfyddiadau yn ein hadroddiad
RSSW image header for website

Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

id before:13265
id after:13265