John Gates: O’r talcen glo i frodwaith

Gan: Mike Church, Awdur a Pherfformiwr

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Maent yn dweud fod glowyr bellach yn frîd o ddynion sy’n prysur ddiflannu wrth i atgofion am fywyd y pwll bylu gyda phob blwyddyn a aiff heibio. Y flwyddyn nesaf bydd yn ddeugain mlynedd ers diwedd y Streic Glowyr fawr ddiwethaf (1984-85) oedd yn adeg hollbwysig yn hanes Prydain ac a roddodd y farwol i gynifer o gymunedau gwledig yn Ne Cymru.

Mae John Gates yn frîd gwirioneddol brin o löwr. Gall siarad ym faith gyda chi am sut y defnyddiai yr Almaenwyr bropiau ffrithiant yn eu pyllau yn hytrach na’r propiau hydrolig a ddefnyddid ym Mhrydain. Gall siarad gyda chi am yr offerynnau gwyddonol  ar wedd lampau glowyr, gall siarad am lif aer, drysau trap a diogelwch. Mae’n wyddoniadur byw o’r sgiliau technegol a pheryglon gwirioneddol gweithio dan ddaear.

Bu’r diwydiant glo yn amlwg iawn ym mywyd John ond pan ddiflannodd y cyfan, fe wnaeth ailddyfeisio ei hun mewn nifer o ffyrdd newydd. Roedd yn hysbyseb anhygoel i addysg oedolion wrth iddo ail-greu ei holl fywyd ar ôl blynyddoedd dan ddaear. Bellach yn ei wyth degau, mae’n parhau i fod yn athro ac yn ddysgwr. Mae stori John mor unigryw fel yr ysgrifennwyd cân werin amdano, bu’n destun llyfr ac ysgrifennodd myfyriwr ffasiwn yn Llundain ei draethawd hir amdano. Mae hyd yn oed wedi ymddangos ar Woman’s Hour ar Radio Four!

Mae stori bywyd John yn wers i bawb ohonom am wytnwch, dysgu a newid.

Pan gollodd ei swydd fe wnaeth ganfod cysur a bywyd newydd drwy addysg oedolion. Ffeiriodd y talcen glo am nodwyddau a dod yn wniadwr a brodiwr. Gwnaeth wisgoedd priodas ei ferched a dechreuodd addysgu ei sgiliau i grŵp newydd cyfan o ddysgwyr â diddordeb.

Gadawodd yr ysgol yn 1956 heb ddim cymwysterau o gwbl ond wedyn yn araf yn y 1990au dechreuodd eu casglu fel conffeti. Enillodd radd yn ei bedwar degau ac yna Dystysgrif Addysg i Raddedigion fel y gallai ddechrau ar yrfa newydd fel addysgwr.

Enillodd Wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 1998. Siaradodd yn y Millenium Dome yn 2000 a chafodd wedyn ei wahodd i Awstralia yn 2002 fel eu gwestai rhyngwladol ar gyfer eu Hwythnos Addysg Oedolion. Gofynnwyd iddo siarad am ddefnyddio addysg i oresgyn colli swydd.

Mae’n awr wedi teithio’r byd yn cynnig gobaith ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni mewn cyfnod anodd, os caniatewch i’ch hunan ymchwilio llwybrau newydd o dwf a herio’r ystrydebau sydd mor gyffredin ar gyfer dynion a menywod

Roedd yn fraint o’r mwyaf i mi ddod i adnabod John a chofnodi stori ei fywyd ar ffurf llyfr. Lansiwyd y llyfr hwnnw, ‘From coal seams to French seams’ mewn digwyddiad arbennig i lowyr yn Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl ym mis Ebrill 2023 a chafodd pob copi ei brynu.

Mae John Gates yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac nid wyf hyd yn oed wedi s֧ôn am ei waith gyda mudiad Men’s Shed a’i ymgyfraniad gyda Charchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Drwy ddim ond darllen hyn, gadewch i ni obeithio y caiff ychydig bach o’i awch am fywyd ei drosglwyddo i bawb ohonom!

  • OU_Master_Wales_LOGO_BLUE_125mm - NEW logo 2023
  • Welsh Government logo - black
id before:12347
id after:12347