Gwersi sy’n dod i’r amlwg o’r argyfwng ar gyfer y sector ôl-16

gan David Hagendyk, Cyfarwyddwr Gymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Fel pob rhan o’r system addysg, bu argyfwng Covid-19 yn her nas gwelwyd ei thebyg ar gyfer y sector addysg oedolion. Mae pob rhan o’r sector wedi wynebu heriau unigryw: p’un ai’r tebygrwydd o ostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr yn ein prifysgolion, y brys i gwblhau cymwysterau galwedigaethol mewn Addysg Uwch, newid model cyflenwi ar gyfer cyflogwyr gyda dysgwyr seiliedig yn y gwaith, neu newid model ar gyfer dysgu yn y gymuned i gefnogi ac ymgysylltu gyda dysgwyr.

Rydym wedi gweithio gyda’r sector i ddeall yr hyn y gallwn ei ddysgu o’r argyfwng a sut y gallwn ddefnyddio’r profiad i ailwampio cefnogaeth ar gyfer dysgwyr ac ehangu mynediad (adroddiad llawn).

Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd gan yr argyfwng hwn oblygiadau hirdymor ar gyfer y sector, ond mae hefyd gyfleoedd cadarnhaol i ddatblygu ffyrdd newydd i ehangu mynediad a dimensiwn newydd i’r her o gyflenwi’r hawl i ddysgu gydol oes. Bu cyflymu at fwy o ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol a bu gwneud penderfyniadau ar y cyd llawer dyfnach ar draws y sector. Fe wnaeth staff ymateb mewn modd arloesol i gamau cynnar yr argyfwng a chanfod ffyrdd i barhau i ddysgu ac ennyn diddordeb dysgwyr. Yn aml cafodd hyn ei wneud yn gyflym, drwy strwythurau ad hoc, a drwy i staff addasu a dysgu wrth iddynt symud ymlaen.

Mae tystiolaeth glir yn dod i’r amlwg fod yr argyfwng yn cael effaith anghyfartal ar wahanol grwpiau o ddysgwyr. Y dystiolaeth anecdotaidd yw mai’r grwpiau hynny sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf sylweddol sydd yn y risg fwyaf o gael eu gwthio hyd yn oed ymhellach i’r cyrion. Mae tlodi digidol ac amgylcheddau cartref nad ydynt yn ffafriol i ddysgu yn achosi risg o waethygu diffyg cydraddoldeb sy’n bod eisoes ymhellach. Mae darlun cliriach yn dechrau dod i’r amlwg, ond mae angen mwy o ymchwil i ddeall profiadau dysgwyr a byddant angen rôl strwythuredig wrth ailwampio’r sector ar gyfer y dyfodol.

Er bod staff wedi ymateb gyda ffyrdd blaengar i addysgu ac ennyn diddordeb dysgwyr, mae pryder na fydd darpariaeth a ddatblygwyd yn gyflym ar ddechrau’r argyfwng yn addas i’r diben ar gyfer yr hirdymor. Bydd ymestyn cyflym ar ddysgu proffesiynol – a gyfarwyddir gan angen ymarferwyr ac sy’n hygyrch i bob rhan o’r sector, yn cynnwys dysgu oedolion yn y gymuned – yn rhan hanfodol o sicrhau fod gan y sector y sgiliau mae ei angen i gyflenwi dysgu cyfunol a dysgu ar-lein ansawdd uchel. Ni fydd y math o newid sydd ei angen yn digwydd dros nos, ond ni fydd yn digwydd o gwbl heb fuddsoddiad mewn pobl.

Yn olaf, er bod yr argyfwng iechyd hwn wedi creu argyfwng ym mhob rhan o gymdeithas a’n heconomi, mae heriau hirdymor na allant fynd heb eu hateb. Mae ein sylfaen sgiliau isel, mynediad i ddysgu neu ddiffyg cydraddoldeb yn y farchnad lafur yn heriau strwythurol hirdymor yn heriau a gaiff eu gwneud yn rhai o fwy o frys oherwydd Covid-19.

Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio symud ymlaen â deddfwriaeth i greu corff strategol newydd ar gyfer y sector ôl-16 yn gadael argymhelliad allweddol o Adolygiad Hazlekorn heb ei gyflawni. Mae canlyniadau Covid-19 yn gwneud argymhelliad allweddol arall yr adroddiad hwnnw – ‘datblygu gweledigaeth drosfwaol ar gyfer y system addysg ôl-orfodol ar gyfer Cymru’ yn bwysicach ac yn fater o fwy o frys nag erioed. Bydd y pandemig yn newid llawer iawn o agweddau ein bywydau ac mae’n hanfodol ein bod yn dysgu’r gwersi i ddechrau ailwampio a gwella ein system sgiliau ac addysg oedolion.

Darllen yr adroddiad llawn

Gwersi sy’n dod i’r amlwg o’r argyfwng ar gyfer y sector ôl-16
Lawrlwytho

Mwy o wybodaeth ar Adolygiad Hazlekorn

id before:6226
id after:6226