Roedd datblygu adnoddau dysgu digidol yn flaenoriaeth i’r Ganolfan ers ei sefydlu yn 2016. Roedd cyfres o gyrsiau blasu ar-lein a 1,500 o adnoddau fideo, sain a rhyngweithiol yn barod ar gael ar ein gwefan, dysgucymraeg.cymru.

Pan gafodd y dysgu wyneb-yn-wyneb ei oedi ym mis Mawrth, newidiodd ein cyrsiau cymunedol yn gyrsiau dosbarthiadau rhithiol, gan ddefnyddio llwyfannau fel Zoom, Teams a Skype. Mae ein tiwtoriaid wedi cofleidio’r dull yma o ddysgu a fe wnaethon ni gynnal sesiynau wythnosol i’w helpu i addasu.

Gwnaethon ni hefyd brysuro ein cyrsiau cyfunol newydd, oedd ar y gweill yn barod. Mae’r cyrsiau hyn yn cyfuno dysgu dan arweiniad tiwtor (mewn dosbarth rhithiol) gydag astudiaethau ar-lein annibynnol. ’Dyn ni wedi mabwysiadu’r dull ystafell ddosbarth ‘fflip’, gyda’r dysgwyr yn gwneud y gwaith ar-lein annibynnol cyn yr amser cyswllt gyda’r tiwtor a’r dysgwyr eraill.

Mae’r cyrsiau hyn wedi bod yn boblogaidd tu hwnt, gydag oddeutu 1,000 o oedolion yn ymuno ag 89 o ddosbarthiadau newydd a ddechreuodd ym mis Mai.

Defnyddion ni Facebook yn bennaf i recriwtio ar gyfer y cyrsiau hyn.

Ro’n ni’n barod yn weithgar ar y llwyfan ac ar 30 Mawrth, dechreuon ni gynnal gwersi dyddiol byw ar ein tudalen, dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Helen Prosser, ac aelod o’i thîm, Eirian Conlon. Y prif fwriad oedd ychwanegu at ein darpariaeth dysgu digidol, ond roedd y gwersi hyn yn arf farchnata effeithiol hefyd. Ymunodd miloedd â’r gwersi fideo, a chynyddodd niferoedd ein dilynwyr yn sylweddol.

Roedd yn bosib i ni dargedu’r bobl hynny oedd wedi troi at y gwersi fideo a hyrwyddo’r cyrsiau newydd yn fwy eang ar Facebook hefyd.

Gyda marchnata stryd a hysbysebu lleol yn anodd, ’dyn ni wedi troi eto at ddulliau digidol, gan gynnwys e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol, i hyrwyddo’r dosbarthiadau rhithiol Cymraeg newydd sy’n dechrau ym mis Medi. Mae gostyngiad 50% ar gael ar hyn o bryd i ddechreuwyr sy’n dechrau cyrsiau lefel Mynediad – beth am ein helpu ni i ledaenu’r gair?!

  • Logo_Porffor_RGB Centre for Learning Welsh
id before:6222
id after:6222