Dyfodol Newydd Cymru: Cefnogi menywod i fyd technoleg

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Gan Bethan Baldwin, Rheolwr Prosiect Dyfodol Newydd yn Chwarae Teg

Mae cynllun peilot Dyfodol Newydd Chwarae Teg yn cynnig rhaglen bwrpasol o gyrsiau technoleg wedi’u hariannu’n llawn ochr yn ochr â chymorth datblygu gyrfa cofleidiol, i annog a galluogi menywod i newid gyrfa i Dechnoleg. Y nod yw ysbrydoli ac ysgogi menywod i weld heibio rhwystrau, cynyddu eu hyder a’u dyheadau a symud i mewn i ddiwydiant newydd. 

Mae menywod yn dominyddu mewn sectorau a galwedigaethau sydd mewn perygl mawr o gael eu digideiddio ac mae’r galw am arloesi digidol wedi cynyddu ers y pandemig. Yn fyd-eang, mae hanner gweithwyr benywaidd y sector digidol yn gadael y diwydiant erbyn canol eu gyrfa, ac mae menywod i gyfrif am lai na chwarter yr uwch rolau arwain mewn Technoleg. 

Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r bregusrwydd hwn, nid yn unig drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau ond hefyd drwy gynnig rhaglen hyfforddi a chymorth wedi’i dargedu a’i deilwra, i gael mynediad at lwybrau gyrfa yn y sector digidol. Bydd y cynllun peilot yn mynd i’r afael â rhwystrau unigol i hyfforddiant a chyflogaeth megis heriau gofal plant a phroblemau trafnidiaeth, gan wneud hyfforddiant a chymorth yn fwy hygyrch i fenywod. 

Mae ein cyfle, sydd wedi’i deilwra, yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid hyfforddi ac ar y cyd â Fintech Wales, sy’n darparu nifer gwarantedig o rolau technoleg yn gysylltiedig â chwrs gradd i 10 o fenywod.s Bydd 200 o fenywod eraill yn cwblhau cyrsiau byrrach gan gynnwys codio, dadansoddi data a datblygu’r we a fydd yn fan cychwyn ar gyfer eu taith i Dechnoleg. 

Bydd ein Partneriaid Datblygu Gyrfa yn cefnogi’r holl fenywod ar y cynllun peilot gyda sesiynau hyfforddi, yn ogystal â gweithdai ar-lein ar bynciau fel:

  1. Cymryd perchnogaeth o’ch gyrfa
  2. Adeiladu presenoldeb ar-lein
  3. Goresgyn syndrom ffugiwr
  4. Rhwydweithio a chynyddu gwelededd

Rydyn ni’n bwriadu cynnal tri digwyddiad i roi cyfleoedd i gyfranogwyr gwrdd â chyflogwyr posibl, amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant ac, yn bwysig, â’i gilydd – menywod o’r un anian sydd eisiau symud ymlaen. 

Rydyn ni wedi cael dros 100 o ymholiadau hyd yma a nifer o ymddangosiadau yn y cyfryngau mewn print a theledu! 

Dyma beth mae Dyfodol Newydd Cymru yn ei gynnig, gyda’n partneriaid: 

Y Brifysgol Agored – Dau gwrs yn darparu micro gymwysterau mewn Python a Rhwydweithiau. Ochr yn ochr â’r rhain mae gennyn ni 30 o gyrsiau rhagarweiniol cryno sy’n canolbwyntio ar bopeth sy’n ymwneud â Thechnoleg gan gynnwys codio, dylunio, data, dadansoddeg, rhwydweithiau a mwy! Mae’r holl ddysgu ar-lein ac yn hunangyfeiriedig, i’w gwblhau yn eich amser eich hun. 

Code First Girls – Hyfforddiant i 190 o fenywod, trwy ddau lwybr:

Mae 10 lle wedi’u rhoi i fenywod sydd am gwblhau cwrs gradd gyda noddwr rôl yn gysylltiedig, sy’n rhoi swydd newydd iddyn nhw ar ddiwedd y cwrs.

Bydd 180 yn cwblhau cwrs datblygu gwe wyth wythnos. Bydd y cyfranogwyr hyn yn gallu codio gwefan o’r newydd ar ôl cwblhau’r cwrs.

Fintech Wales – FinTech yw’r cydweithrediad rhwng dylunio a defnyddio technoleg o fewn gwasanaethau ariannol a FinTech Cymru yw’r gymdeithas aelodaeth annibynnol a hyrwyddwr y diwydiant FinTech a Gwasanaethau Ariannol yng Nghymru. Mae cymuned fawr o aelodau Fintech Wales sydd am adeiladu ar eu strategaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac eisiau annog a chefnogi mwy o fenywod i mewn i Dechnoleg. Gyda’i gilydd mae’r aelodau hyn wedi cynnig 10 o gyfleoedd swyddi i fenywod ar ein cynllun peilot ac mae’n bosibl iawn y bydd rolau eraill ar gael wrth i ni symud ymlaen drwy’r hyfforddiant technegol. 

Yma yn Chwarae Teg ein harbenigedd yw meithrin perthynas a theilwra ymyriadau datblygu i gefnogi menywod i gyflawni eu potensial a thu hwnt. Rydyn ni’n llawn cyffro am botensial ein cynllun peilot; rydyn ni’n agor drysau, yn cael sgyrsiau di-flewyn-ar-dafod am rwystrau a chanfyddiadau ac yn mynd i’r afael â’r materion craidd o ddiffyg menywod mewn Technoleg trwy ddarparu hyfforddiant hygyrch i roi menywod ar ben y ffordd.   

Dyfodol Newydd

Mae rhaglen flaenllaw L&W yn cefnogi gweithwyr i ailsgilio a newid gyrfa.
LW-New-Futures-Logo.png
id before:10603
id after:10603