gan David Hagendyk, Cyfarwyddwr Gymru
Fel rhan o’n cyfres bwrdd grwn Uchelgeisiol a Dysgu i Bawb, cynhaliodd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru Fwrdd Crwn i Droseddwyr ar 31 Ionawr a gynhaliwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe. Yn y sesiwn, fe wnaethom edrych ar arloesi, ad-drefnu a chyfleoedd ar gyfer dysgu troseddwyr yng Nghymru a daeth ynghyd â gwneuthurwyr penderfyniadau ac ymarferwyr allweddol mewn dysgu troseddwyr.
Efallai nad yw’r ystadegau ar ddysgu troseddwyr yn syndod, ond maent yn dangos yn daclus faint yr her: nid oes gan 47% o’r boblogaeth carchardai unrhyw gymwysterau, dywedodd 42% iddynt gael eu gwahardd yn barhaol o’r ysgol, ac mae lefel gallu dau-draean y carcharorion mewn Saesneg a Mathemateg yn gyfartal neu’n is na’r plentyn 11 oed arferol.
Drwy ein trafodaethau, cafwyd darlun o system sydd angen buddsoddiad a chael ei diwygio, ond gyda chyfleoedd ar gyfer gwella ansawdd y ddarpariaeth ac yn y pontio o ddalfa i’r gymuned. Roedd tystiolaeth o arfer da o bob rhan o Gymru – ond dim digon o gyfleoedd i’r rhain gael eu rhannu mewn system sydd dan bwysau a heb adnoddau digonol.
Mae’n ddi-os mai cyfraniad mwyaf grymus y dydd oedd yr un gan Scott Jenkinson, Cyfarwyddwr 4:28 Training ac enillydd Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! 2015. Yn gyn-droseddwr ei hunan, mae Scott nawr yn ymgyrch un-dyn dros ddysgu gydol oes. Siaradodd gydag angerdd ac o brofiad personol am fywyd yn “nhir neb” lle mae unigolion yn daer nad ydynt eisiau dychwelyd i’r carchar ond nad oes ganddynt eto’r sgiliau a’r cyfalaf cymdeithasol ar gyfer bywyd yn y gymdeithas yn ehangach. Mae hyn yn amlwg yn faes lle mae cyfleoedd sylweddol yn bodoli i wella deilliannau ar gyfer unigolion. Dylai gwneuthurwyr polisi roi llawer mwy o ffocws i ddarparu gwell cefnogaeth cyn rhyddhau pobl o garchar a sefydlu cysylltiadau cryfach rhwng dysgu mewn dalfa ac yn y gymuned. Bydd Cymru’n Gweithio, ymagwedd newydd Llywodraeth Cymru at gyflogadwyedd, yn gyfle mawr i helpu unigolion allan o dir neb ond bydd hyn yn golygu cefnogi pobl gyda’u heriau lluosog a chymhleth a chydnabod mai dim ond cam ymlaen ac nid y diwedd ynddo’i hun yw cael swydd. Gall cyn-droseddwyr mewn gwaith ddal fod yn nhir neb a gallant ddal i fod angen cefnogaeth i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol digonol.
Mae hefyd yn wir fod cyfoeth o arfer da ar draws y sector yng Nghymru, nid yn lleiaf gan gyrff trydydd sector fel The Wallich a Llamau. Mae hefyd ymarfer gwych yn digwydd mewn gwahanol garchardai ledled Cymru a nifer ddirifedi o bobl wych sydd ag ymrwymiad i wneud i’r system weithio. Fodd bynnag, mae’r system dan bwysau a heb adnoddau digonol i’r unigolion hyn ddysgu gan ei gilydd a datblygu arfer da cyson. Ein cenhadaeth yn Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yw datblygu’r cyfleoedd hyn a sicrhau fod gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi yn deall eu rôl wrth ddatblygu system sy’n helpu pobl allan o dir neb ac i mewn i gymdeithas.