Dathlu prosiectau sy’n helpu ffoaduriaid i ddod o hyd i waith

Dathlu prosiectau sy’n helpu ffoaduriaid i ddod o hyd i waith

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Rhwng 2001 a 2022 cyrhaeddodd mwy na miliwn o bobl yn Deyrnas Gyfunol fel ceiswyr lloches neu trwy raglenni adsefydlu ffoaduriaid. Mae gwaith yn allweddol o ran integreiddio cymdeithasol ac economaidd. Er mwyn nodi Wythnos Ffoaduriaid, rydym yn tynnu sylw at rai o’r prosiectau sy’n helpu ffoaduriaid i ddod o hyd i waith a datblygu ynddo.

Daw ffoaduriaid o lawer o wledydd gwahanol ac o amrywiaeth eang o gefndiroedd addysgol a gwaith. Rydym wedi croesawu 177,000 o Wcrainiaid trwy’r Cynllun Cartrefi i Wcráin a’r Cynllun Teulu ers Mawrth 2022. Yn 2022, y grŵp cenedlaethol mwyaf a dderbyniodd statws ffoaduriaid ar ôl cais am loches oedd o Afghanistan, gyda 6,863 o bobl yn cael eu diogelu yn 2022. Roedd rhai o’r ffoaduriaid o Afghanistan wedi bod mewn swyddi uchel yn y llywodraeth, neu wedi gweithio fel cyfieithwyr i’r fyddin neu sefydliadau cymorth a datblygu. Yn eu plith hefyd roedd pobl nad oeddent yn siarad fawr o Saesneg, os o gwbl, neu’r rhai yr oedd gwrthdaro a theithiau maith i’r Deyrnas Gyfunol wedi amharu ar eu haddysg. Mae’r grwpiau sylweddol eraill a ddiogelwyd yn y Deyrnas Gyfunol yn 2022 yn cynnwys pobl o Iran, Iraq, Swdan, Syria ac Yemen.

Mae ffoaduriaid yn wynebu nifer o rwystrau o ran dod o hyd i waith neu ddatblygu yn eu gyrfa. Yn wir, awgrymodd yr Arolwg Gweithlu, yn 2022, mai dim ond 61% o’r bobl oedd wedi dod i’r Deyrnas Unedig i chwilio am loches oedd wedi eu cyflogi, mewn cymhariaeth â 76% o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol. Roedd y gyfradd ddiweithdra i ffoaduriaid yn 14% yn 2022, llawer uwch na’r 3.7% ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol. Mae ffoaduriaid hefyd yn fwy tebygol o -gael eu dal mewn gwaith cyflog isel neu ansicr fel gweithwyr asiantaeth, gweithwyr achlysurol neu dymhorol, yn yr economi anffurfiol neu mewn hunangyflogaeth lle mae’r tâl yn isel.

Dangoswyd bod rhwystrau iaith a diffyg profiad gwaith yn y Deyrnas Gyfunol, cymwysterau neu dystlythyrau yn anfantais i ffoaduriaid sy’n chwilio am waith. Gall ffoaduriaid heb Saesneg rhugl gofrestru ar gyrsiau ESOL, sy’n cael eu rhedeg fel arfer gan golegau addysg bellach, gwasanaethau addysg oedolion neu sefydliadau cymunedol. Cynhyrchodd Dysgu a Gwaith rai adnoddau i athrawon Saesneg mewn colegau i’w helpu i ymdrin ag anghenion integreiddio’r rhai sydd newydd gyrraedd. Gall cymdeithas sifil neu sefydliadau ffydd hefyd redeg ‘clybiau sgwrsio’ – darpariaeth anffurfiol sy’n galluogi ffoaduriaid i ymarfer eu Saesneg sydd yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr fel arfer. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnoddau i helpu gwirfoddolwyr i redeg y sesiynau hyn.

Gall ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd y Deyrnas Gyfunol hefyd fod yn anghyfarwydd â’r dulliau chwilio am swyddi fel ysgrifennu CV a chyfweliadau swyddi neu efallai nad oes ganddynt fawr o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael yn y Deyrnas Gyfunol. Bydd anogwyr gwaith Canolfannau Byd Gwaith yn eu helpu ond efallai na fyddant yn gallu rhoi’r dwyster o gefnogaeth y mae arnynt ei angen.

Yn y gorffennol, defnyddiwyd arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop i redeg rhaglenni cefnogi cyflogaeth i ffoaduriaid, gan gynnwys trwy’r rhaglen Building Better Opportunities oedd yn cael ei chyd-ariannu gan Gronfa Cymunedau’r Loteri Genedlaethol. Roedd Working West London yn un prosiect cefnogi cyflogaeth a ariannwyd gan Building Better Opportunities. Roedd hon yn bartneriaeth rhwng pedwar darparwr hyfforddiant a helpodd 600 o ffoaduriaid ar draws pedwar o awdurdodau lleol Llundain. Roedd y ffoaduriaid yn derbyn anogaeth unigol a chefnogaeth ESOL gan staff wedi eu hyfforddi. Erbyn Medi 2021, roedd 42% o’r ffoaduriaid a gymerodd ran yn gweithio, symudodd 13% o fod yn anweithredol yn economaidd i chwilio am waith, ac roedd 59% yn mynychu addysg neu gyrsiau hyfforddi.

Mae rhai sefydliadau cymdeithas sifil a chymdeithasau tai yn cynnig cefnogaeth cyflogaeth i ffoaduriaid. Mae Cyngor y Ffoaduriaid wedi llunio partneriaeth gyda Starbucks i gynnig anogaeth a rhaglen ddwys am bedwar diwrnod yn trafod ymarfer mewn cyfweliad a hyfforddiant ar swyddi gwasanaeth cwsmeriaid. Mae Ashley Community Housing yn gymdeithas dai sy’n rhoi llety a chefnogaeth integreiddio a chyflogaeth wedi ei deilwrio i fudwyr bregus a ffoaduriaid.

Mae gan rai ffoaduriaid gymwysterau proffesiynol o’u gwledydd gwreiddiol, ond mae arnynt angen i’w profiad blaenorol a chymwysterau gael eu cydnabod os ydynt am weithio mewn swyddi tebyg yn y Deyrnas Gyfunol. Mae nyrsys, meddygon, gweithwyr meddygol proffesiynol eraill, milfeddygon a chyfrifyddion ymhlith y swyddi proffesiynol a reoleiddir sy’n gofyn i bobl sydd wedi cymhwyso dramor i gymryd profion medrusrwydd o ran iaith a gwaith proffesiynol er mwyn gallu ymarfer yn y Deyrnas Gyfunol. Mae rhai prosiectau cefnogi cyflogaeth arbenigol sy’n gweithio gyda ffoaduriaid yn eu cefnogi trwy’r prosesau hyn –  mae The Building Bridges Programme for Refugee Health Professionals yn un cynllun o’r fath yn Llundain.

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Swyddfa Gartref gyllid ar gyfer Rhaglen Cyflogadwyedd Ffoaduriaid dwy flynedd yn Lloegr. Bydd y rhaglen wirfoddol hon yn lansio yn haf 2023 a bydd yn cynnig anogaeth gwaith a chyngor a chyfarwyddyd integreiddio. Er bod croeso i’r cynllun hwn, mae mwy y gallai’r llywodraeth ganolog ei wneud i roi hwb i’r gyfradd gyflogaeth ymhlith ffoaduriaid.

Fel arfer mae ceiswyr lloches yn cael eu gwahardd rhag gweithio yn y Deyrnas Gyfunol, oni bai eu bod wedi aros am fwy na 12 mis am benderfyniad a bod eu swydd wedi ei rhestru ar restr Galwedigaethau Prinder gan y Pwyllgor Cynghori Mudo. Mae sefydliadau ffoaduriaid wedi ymgyrchu dros adael i geiswyr lloches sydd wedi aros mwy na 6 mis am benderfyniad gael gweithio. Os na fydd y Llywodraeth yn codi’r gwaharddiad ar weithio, dylai gymryd camau i leihau’r amser y mae ceiswyr lloches yn aros am benderfyniad. Dengys ffigyrau’r Swyddfa Gartref a ryddhawyd ym Mai 2023 bod 172,758 o geiswyr lloches yn aros am benderfyniad, ac o’r rheini roedd 66.009 wedi aros mwy na 12 mis.

Yn yr 1990au roedd anogwyr gwaith mewn canolfannau gwaith yn cael hyfforddiant am anghenion ffoaduriaid, gydag anogwyr gwaith arbenigol i ffoaduriaid mewn rhai canolfannau gwaith. Gall yr arfer hwn gael ei ail gyflwyno.

Mae’r rhan fwyaf o ffoaduriaid yn ysu am gael gweithio – mae’n eu helpu i ailadeiladu eu bywydau a chreu cysylltiadau newydd. Gall ffoaduriaid gyfrannu’n economaidd at y cymdeithasau sy’n eu croesawu mewn nifer o ffyrdd: fel gweithwyr, arloeswyr, entrepreneuriaid, trethdalwyr, defnyddwyr a buddsoddwyr. Dengys ein profiadau yn y gorffennol, er mwyn i’r nod hwn gael ei wireddu, y dylai darpariaeth Saesneg a chefnogaeth cyflogaeth fod yn flaenoriaeth polisi.

id before:11693
id after:11693