Darlith Goffa Flynyddol Raymond Williams 2018

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Cyflwynwyd Darlith Goffa Flynyddol Raymond Williams y Sefydliad Dysgu a Gwaith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru ac fe’i cynhaliwyd ar 10 Hydref 2018 yn yr Eglwys Norwyeg yng Nghaerdydd.

Teitl y Ddarlith oedd: ‘Yr ysgogiad dyfnaf’: addysg, economi, democrataidd a chymdeithas ac mae’n ymchwilio materion megis gwleidyddiaeth hunaniaeth, symudedd cymdeithasol a hawliau dynol. Yn ogystal â dyfynnu Raymond Williams, soniodd Kirsty Williams am waith nifer o feddylwyr yn cynnwys Ted Kennedy, Mark Lilla ac Orson Welles.

Yn y ddarlith dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg fod ‘cenhadaeth genedlaethol diwygio addysg’ Llywodraeth Cymru yn ‘camu ymlaen yn ysbryd chwyldro hir Raymond Williams.”

Bydd ffilm o’r ddarlith ar gael i’w gweld yn fuan a chaiff ei lanlwytho ar ein sianel YouTube Channel

Os hoffech gopi o Ddarlith Raymond Williams a gafodd ei hysgrifennu a’i chyflwyno gan Kirsty Williams, cliciwch yma.

Copi o Ddarlith Raymond Williams a gafodd ei hysgrifennu a’i chyflwyno gan Kirsty Williams, AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg

Lawrlwytho
id before:6309
id after:6309