Dengys ymchwil newydd ar y bron filiwn o bobl ifanc 16-24 yn y Deyrnas Unedig nad ydynt naill ai mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) fod bron saith mewn deg (69%) yng Nghymru yn economaidd anweithgar – gan olygu nad ydynt yn edrych am waith nac ar gael ar gyfer gwaith ar hyn o bryd.
Ymhellach, mae’r gyfran o bobl ifanc NEET 15% yn uwch yng Nghymru na holl wledydd eraill y DU. Mae hyn yn awgrymu y dylai anweithgaredd economaidd fod yn ffocws hyd yn oed yn fwy ar gyfer gostwng cyfraddau NEET yng Nghymru nag yn rhannau eraill y DU.
Rhybuddiodd ymchwilwyr o’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, y sefydliad tu ôl i’r adroddiad, y gallai hyn niweidio rhagolygon bywyd y bobl ifanc hyn a gwneud drwg ychwanegol i dwf economaidd a chymdeithas.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Warant i Bobl Ifanc ar gyfer rhai 16-24 oed yn 2021, gan roi cefnogaeth i sicrhau lle mewn addysg neu hyfforddiant, help i fynd i waith neu hunan-gyflogaeth. Ers ei lansio, cafodd dros 48,500 o bobl ifanc eu cefnogi i gael mynediad i raglenni cyflogadwyedd a sgiliau. Symudodd mwy na 6,000 o’r bobl ifanc hyn i gyflogaeth ac mae mwy na 724 wedi sefydlu eu busnes eu hunain.
Er y bu hyn yn gam cadarnhaol, mae ymchwil Dysgu a Gwaith yn awgrymu fod angen mwy o weithredu i dargedu anweithgaredd economaidd, yn arbennig o amgylch cyflyrau iechyd ymysg pobl ifanc. Mae’n debyg y bydd hyn angen mwy o fuddsoddiad yn y maes hwn a chydgysylltu cryfach rhwng cefnogaeth ar gyfer iechyd, sgiliau a chyflogadwyedd.
Ymhellach, mae cyfraddau NEET yng Nghymru yn cyrraedd eu brig ar 23 oed (24%), sy’n uwch ac yn ddiweddarach na’r brig yn Lloegr (22% yn 22 oed) a Lloegr (15% yn 22 oed). Gyda un o bob pedwar o bobl 23 oed yn NEET yng Nghymru, mae Dysgu a Gwaith yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio cymhwyster ar gyfer ei gynlluniau allweddol o fewn y Warant i Bobl Ifanc, tebyg i raglen flaenllaw Twf Swyddi Cymru+ sydd ond ar gael ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed ar hyn o bryd.
Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:
“Mae llawer gormod o bobl ifanc sydd heb fod naill ai’n ennill cyflog na’n dysgu ac mae’r broblem hon yn arbennig o ddwys yng Nghymru, gan beryglu niwed hirdymor i ragolygon gyrfa pobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sawl mesur yn eu lle fel rhan o’i Gwarant i Bobl Ifanc a bu hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, dylid ystyried mwy o fuddsoddiad fel bod elfennau allweddol o’r warant, tebyg i Twf Swyddi Cymru+, ar gael i’r rhai tu hwnt i 19 oed ynghyd â ffocws llawer cryfach ar fynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd a achosir gan afiechyd.”