Cymru yn wynebu argyfwng diweithdra gyda un ym mhob pump o swyddi mewn ‘sectorau cau i lawr

gan David Hagendyk, Cyfarwyddwr Gymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Wrth i ni symud tuag at gam nesaf yr argyfwng, dylai’r llywodraeth ganolbwyntio ar fynd i’r afael â diweithdra. Fodd bynnag, rhaid i fater gwaith da – nad oedd cyhyd â hynny yn ôl ar frig agenda gwneuthurwyr polisi – golli amlygrwydd.

Mae dadansoddiad newydd yn dangos fod Cymru yn wynebu argyfwng swyddi yn dilyn y pandemig gyda rhagolygon y bydd diweithdra yn fwy na’r lefel a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf, gydag effaith neilltuol o ddifrifol ar bobl ifanc.

Canfu’r dadansoddiad, a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, fod 250,000 o swyddi yng Nghymru mewn ‘sectorau cau i lawr’. Dyma’r diwydiannau y mae’r mesurau i arafu lledaeniad y feirws wedi effeithio waethaf arnynt, a lle cafodd y rhan fwyaf o fusnesau eu gorfodi i ostwng masnachu neu gau yn gyfangwbl. Mae bron un ym mhob pump o swyddi (18%) yng Nghymru mewn sectorau sydd wedi cau i lawr.

Gallai diweithdra fod yn fwy na’r lefel a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf pe byddai dim ond un mewn pedwar o’r gweithwyr hyn yn colli eu swyddi.

Dengys y dadansoddiad hefyd fod pobl ifanc, menywod a’r rhai gyda’r lefelau isaf o gymwysterau yn fwy tebygol o wynebu colli eu swyddi fel canlyniad i’r argyfwng. Mae’n dangos:

  • Mae dau ym mhob tri o’r rhai rhwng 16 a 19 oed (61%) ac un mewn tri (33%) o’r rhai rhwng 20 a 24 oed mewn risg, uwch na grwpiau oedran eraill;
  • Mae 22% o fenywod yn gweithio mewn sectorau sydd wedi cau i lawr, o gymharu â dim ond 15% o ddynion;
  • Mae un ym mhob pedwar o’r rhai gyda chymwysterau dan lefel 3 yn gweithio mewn sectorau o’r economi sydd wedi cau i lawr, o gymharu gydag un ym mhob deg o’r rhai gyda chymwysterau lefel 4.
David Hagendyk, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru
“Mae’r argyfwng coronafeirws yn bennaf oll yn argyfwng iechyd cyhoeddus, ond bydd hefyd yn cael effaith economaidd ddifrifol. “Bydd Cymru yn fwy agored na llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig i effaith economaidd yr argyfwng hwn a heb weithredu cadarn, gallai anghydraddoldeb presennol ehangu ymhellach. “Bydd y gweithredu gan lywodraethau ac awdurdodau lleol i gefnogi busnesau ac unigolion yn golygu y bydd yr effaith uniongyrchol yn llai nag y gallai fod wedi bod ond mae risg go iawn y bydd baich yr argyfwng yn disgyn ar grwpiau penodol o bobl, yn arbennig bobl ifanc, menywod a’r rhai gyda lleiaf o gymwysterau. “Mae’n hanfodol fod llywodraethau ar bob lefel yn cydweithio i sicrhau newid sylweddol mewn buddsoddiad mewn cymorth cyflogaeth a sicrhau fod grwpiau penodol, yn neilltuol y rhai sydd eisoes dan anfantais yn y farchnad lafur, yn cael yr help maent ei angen.”

Darllen yr adroddiad llawn

Deall effaith bosibl y coronafeirws yng Nghymru
Lawrlwytho

Canfyddwch sut y cynlluniwn helpu Prydain yn ôl i waith.

id before:6229
id after:6229