Cyfranogiad mewn dysgu yng Nghymru

gan Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru, Y Sefydliad Dysgu a Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyhead i’w groesawu i wneud Cymru’n genedl o ail gyfleoedd; gyda thirwedd polisi sy’n cefnogi dysgu gydol oes ac yn arbennig oedolion sy’n dychwelyd i addysg. Fodd bynnag, mae trosi uchelgais mor ganmoladwy i weithredu ymarferol yn gamp. Rydyn ni i gyd wedi arfer â hawl i addysg i’n hoedolaeth gynnar, ond mae’r un hawl yn llai amlwg wrth i ni heneiddio.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi lansio ei Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu blynyddol i gyd-daro gyda Wythnos Addysg Oedolion 2024 yng Nghymru yr wythnos hon – 9-15 Medi.

Canfu arolwg 2023 fod bron i hanner oedolion y DU wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o ddysgu (49 y cant), er bod hyn yn sylweddol is yng Nghymru ar 41 y cant. Yn ddiddorol, ymddengys bod cyfranogiad wedi cynyddu’n sylweddol yn Lloegr, tra’n aros yn gymharol sefydlog yn y gwledydd eraill. Yn unol ag arolygon blaenorol mae oedran, gradd gymdeithasol, statws y farchnad lafur,  ac oedran cwblhau addysg llawn amser yr ymatebwyr i gyd yn rhagfynegwyr sylweddol o gymryd rhan mewn dysgu.

O ran oedran, roedd cyfranogiad yng Nghymru yn is ym mhob carfan oedran na’r DU ar y cyfan, er i’r bwlch leihau wrth i’r carfannau heneiddio, gyda’r bylchau mwy mewn carfannau oedran iau (17-19 lle roedd y bwlch rhwng Cymru a’r DU yn 15%).

Mae’r gyfradd cymryd rhan ledled y DU yn amrywio yn ôl gradd gymdeithasol gyda’r graddau AB a C2 gyda’r gyfradd cymryd rhan uchaf yn 60 y cant a 55 y cant ledled y DU. Ar y llaw arall, mae gan raddau C1 ac DE lefelau is o gyfranogiad (46 a 39 y cant yn ôl eu trefn). Roedd y dosbarthiad yng Nghymru yn is ar gyfer pob gradd gymdeithasol, ond yn benodol roedd bwlch mwy yn y radd C2 (21 y cant yn is na’r DU) a chyfradd isel i’r rhai yn y radd DE (ar gyfradd cyfranogiad o 32%). Felly, mae dirywiad llawer cliriach o ran cymryd rhan yn ôl gradd gymdeithasol yng Nghymru o’i gymharu â’r DU gyfan (gweler ffigur 1).

Yn y bôn, rydych chi’n lleiaf tebygol o fod yn cymryd rhan mewn dysgu os wnaethoch chi adael yr ysgol heb lawer o gymwysterau, os ydych chi ar ymylon y farchnad lafur neu mewn gwaith â sgiliau isel.

Ffigur 1 – cymryd rhan mewn addysg yn ôl gradd gymdeithasol:

Mae’r arolwg yn mesur sawl nodwedd ddemograffig arall, gyda llawer o nodweddion tebyg ledled y DU (er enghraifft math o gyflogaeth). Fodd bynnag, i ddilyn yr edefyn o anfantais economaidd-gymdeithasol; mae mynd i’r afael â chyfraddau cymryd rhan is mewn dysgu, yn enwedig ar raddau cymdeithasol is yn her sylweddol.

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael eu cymell i ddysgu am resymau gwaith neu yrfa neu allan o ddiddordeb hamdden neu bersonol ac yn gweld dysgu fel budd ynddo’i hun. Mae hefyd yn bwysig am y gwerth mae’n ei ychwanegu at eu set sgiliau yn y gwaith ac ar gyfer hunanhyder.

Gan droi at rwystrau i ddysgu, ar draws y DU mae dysgwyr yn fwyaf tebygol o nodi pwysau gwaith ac amser (24 y cant), cost dysgu (16 y cant), diffyg hyder i ddysgu (13 y cant), ddim yn hoff o brofion ac arholiadau (12 y cant) neu deimlo’n rhy hen (12 y cant). Mae patrwm yr heriau a gofnodwyd wedi gweld amrywiad prin o gymharu ag arolygon ar draws ei hanes 27-mlynedd. Yn ddiddorol, nododd cyfran uwch yng Nghymru anabledd neu afiechyd fel rhwystr rhag dysgu sy’n tynnu sylw at y gorgyffwrdd â pholisi iechyd ar ganlyniadau dysgu (a chyflogaeth).

Mae troi hyn yn gamau polisi ymarferol y gall Llywodraeth Cymru a Medr eu dilyn yn her ond gallai gynnwys sicrhau bod y ddarpariaeth yng Nghymru yn hyblyg i ddiwallu pwysau gwaith ac amser, lleihau costau dysgu’n arbennig i’r rhai mewn graddau cymdeithasol is a sicrhau bod y dulliau dysgu yn hygyrch, yn enwedig ar lefelau is lle mae hunanhyder mewn dysgu yn is.

Mae potensial hefyd am aliniad gwell rhwng dysgu ac iechyd, rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu ym maniffesto diweddar Llafur y DU oedd yn cynnig cynlluniau Iechyd, Gwaith a Sgiliau. Gallai polisïau fel rhagnodi cymdeithasol chwarae rhan bwysig yma.

Yn hanfodol, mae angen ymdrech ystyriol i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo ymhlith grwpiau y canfyddir eu bod yn anodd eu cyrraedd gyda negeseuon cadarnhaol yn mynd i’r afael â phryderon ynghylch ymgysylltu â dysgu ac atgyfnerthu ei fanteision.

Mae’r data yn ein hadroddiad yn dangos y bylchau mewn cyfranogiad fydd angen eu trin i wireddu ymroddiad polisi cryf Llywodraeth Cymru i ddysgu gydol oes.

Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu 2023: Cymru

Lawrlwythwch
id before:15603
id after:15603