Gan adeiladu ar bapurau gwyrdd a gwyn, VocTech Challenge, mae Ufi VocTech Trust (Ufi) a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi datblygu rhaglen o bartneriaethau seiliedig ar le.
Mae’r partneriaethau hyn wedi cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid mewn dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig o’r sectorau addysg, cyflogaeth a sgiliau er mwyn adnabod rhwystrau lleol i gymryd rhan mewn addysg oedolion a datblygu dulliau gweithredu i fynd i’r afael â nhw.
Mae’r blog yma’n cyflwyno rhai o’r themâu a ddaeth I’r amlwg o drafodaethau cynnar gyda rhanddeiliaid o Gasnewydd, ein pedwaredd partneriaeth – a’r olaf – seiliedig ar le. Hyd yma mae Dysgu a Gwaith ac Ufi wedi cynnal dau weithdy ar-lein gyda rhanddeiliaid allweddol o’r awdurdod lleol, y sector addysg oedolion a chyrff elusennol a gwirfoddol yng Nghasnewydd ac yn ehangach yn Ne Cymru.
Mae ein sgyrsiau hyd yma’n awgrymu fod preswylwyr Casnewydd yn wynebu nifer o rwystrau i ymgysylltu mewn dysgu yn cynnwys lefelau isel o sgiliau hanfodol, diffyg cymwysterau ffurfiol a heriau lluosog yn ymwneud â hygyrchedd. Yn ychwanegol, mae preswylwyr yn tueddu i fod â diffyg ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd presennol a allai eu galluogi i oresgyn y rhwystrau hyn. Awgrymodd rhanddeiliaid hefyd y gallai agosatrwydd Casnewydd at Gaerdydd olygu fod Casnewydd yn colli cyfleoedd i’r brifddinas.
Y ddarpariaeth bresennol
Er yr heriau hyn, soniodd rhanddeiliaid am nifer o gyfleoedd a allai alluogi preswylwyr i adeiladu sgiliau a phrofiad ar gyfer dysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol:
- Cyfleoedd yn y sector addysg oedolion a sgiliau. Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod fod amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer dysgwyr ar wahanol lefelau sgiliau, yn cynnwys prentisiaethau, rhaglen rhifedd Lluosi, darpariaeth a gyllidir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a champws prifysgol yn y ddinas. Nodwyd fod codi ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth hon a chwalu rhwystrau agweddau a allai fod yn atal ymgysylltu, er enghraifft diffyg hyder a chanfyddiadau ymysg dysgwyr fod y cyfleoedd hyn allan o’u cyrraedd.
- Arfer da yn y sector gwirfoddol. Dywedwyd fod gan Gasnewydd sector gwirfoddol ffyniannus, a gwelodd rhanddeiliaid y gallai hynny fod yn garreg gamu bosibl i gyflogaeth. Er enghraifft, nododd rhanddeiliaid fod Prifysgol De Cymru yn cydweithio gyda’r sector gwirfoddol i roi cyfleoedd i fyfyrwyr adeiladu sgiliau a phrofiad.
- Buddsoddiad yn y sector technoleg. Mae sector technoleg twf yng Nghasnewydd a rhanbarth De Cymru yn ehangach, gyda buddsoddiadau diweddar gan gyflogwyr mawr yn cynnwys Airbus a Microsoft. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynllunio rhaglen ddysgu gyda ffocws ar seibr-ddiogelwch, technoleg feddygol, sero net a thechnoleg cyllid, ac mae academi seibr-ddiogelwch yng nghampws Casnewydd Prifysgol De Cymru. Her a nodwyd gan randdeiliaid yw sut i ddatblygu sgiliau digidol preswylwyr Casnewydd i sicrhau eu bod yn manteisio o’r cyfleoedd hyn.
Cyfleoedd i gydweithio
Yn seiliedig ar y trafodaethau hyn, her glir i Gasnewydd yw helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau i gael mynediad i ddysgu a chyfleoedd datblygu. I fynd i’r afael â’r her hon, awgrymodd rhanddeiliaid y gallai cydweithredu seiliedig ar Gasnewydd ganolbwyntio ar:
- Defnyddio dulliau cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth i gysylltu dysgwyr gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac ennill profiad gwaith.
- Llunio cysylltiadau rhwng y sector technoleg a mudiadau gwirfoddol, y sector addysg oedolion a’r awdurdod lleol i ddatblygu’r sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer swyddi technoleg.
- Cwmpasu gwaith i egluro ystod cyfleoedd presennol yn y ddinas a’r gefnogaeth y mae gan breswylwyr hawl iddo a fyddai’n eu galluogi i gymryd rhan.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Ufi a Dysgu a Gwaith yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yng Nghasnewydd. Croesawn ymgyfraniad sefydliadau lleol sy’n gweithio mewn addysg, cyflogaeth a sgiliau ac unrhyw adborth yn ein trafodaethau hyd yma.