Cwricwlwm Dinasyddion y Brifysgol Agored yng Nghymru: Peilot dysgu tenantiaid

Darren Jones, Uwch-reolwr, Brifysgol Agored yng Nghymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Fel darparwr dysgu hyblyg o bell mwyaf blaenllaw Cymru, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru (OU yng Nghymru) yn ceisio galluogi pobl a chymunedau i gyflawni eu potensial, waeth beth fo’u cefndir.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chartrefi Cymoedd Merthyr (MVH) a TPAS Cymru i gyflwyno prosiect peilot newydd sy’n cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o ddatblygu cenedl ail gyfle.

Mae’r prosiect yn gofyn i denantiaid ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymuned, a’u cefnogi i ddefnyddio’r asedau a’r sgiliau niferus sydd ganddynt eisoes. Mae profiadau dysgu, diddordebau ac anghenion tenantiaid yn llunio rhaglen o weithdai pwrpasol a fydd yn dechrau mewn lleoliadau cymunedol lleol yn yr hydref. Bydd gweithdai yn cefnogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd dysgu ffurfiol neu anffurfiol ar lefel sy’n addas iddyn nhw.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn falch o fod yn gweithio gyda L&W ac ystod eang o bartneriaid, i brofi a datblygu Cwricwlwm Dinasyddion ar gyfer pobl Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y pedwar cynllun peilot arall ar gael ar wefan L&W, sy’n cydlynu’r rhaglen gyffredinol ar ran Llywodraeth Cymru.

Adeiladu ymddiriedaeth

Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr (cymdeithas dai gydfuddiannol) a TPAS Cymru (sefydliad aelodaeth cenedlaethol) yn rhannu eu harbenigedd mewn ymgysylltu ystyrlon â thenantiaid yn ystod cam cydgynllunio parhaus y peilot. Ardaloedd Treharris, Bedlinog a Threlewis yw ffocws y gweithgareddau, ond mae lle i denantiaid o bob rhan o Ferthyr gymryd rhan yng nghamau dilynol y peilot. Amcanion y cam cyntaf hwn yw:

  • Datblygu ymddiriedaeth gyda thenantiaid a lleddfu pryderon trwy ffurfio cysylltiadau a pherthnasoedd.
  • Nodi profiad dysgu, diddordebau ac anghenion unigolion i’w paru â chyfleoedd dysgu perthnasol.
  • Creu rhaglen o weithdai pwrpasol wedi’i siapio gan aelodau’r gymuned.

“Fy mywyd a’r gymuned”

Mae ffordd o weithio y cwricwlwm dinasyddion yn ceisio sicrhau bod pobl yn dysgu sgiliau sy’n berthnasol i’w bywydau a’u gwaith. Mae’r Brifysgol Agored hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod pobl yn dychwelyd i ddysgu ar lefel sy’n addas iddyn nhw. Mae sgyrsiau gyda phreswylwyr yn y cynllun peilot hwn felly yn canolbwyntio ar eu:

  • hobïau a diddordebau
  • cyflogadwyedd a sgiliau
  • cartref a chymuned.

Gweithdai pwrpasol

Yn ail gam y peilot, bydd tenantiaid yn cael cymorth i gael mynediad at lwybrau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y Brifysgol Agored mewn cyfres o weithdai. Gan weithio gyda phartneriaid, byddwn yn defnyddio rhaglen eiriolaeth Hyrwyddwyr OpenLearn y Brifysgol Agored i helpu i chwalu’r rhwystrau i ddysgu ymhlith preswylwyr. Bydd y gweithdai mewn lleoliadau cymunedol yn cyflwyno deunyddiau dysgu’r Brifysgol Agored sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau a nodwyd gan drigolion yn y cyfnod cyd-gynllunio. Erbyn diwedd yr ail gam hwn, ein nod yw:

  • Helpu i godi hyder cyfranogwyr y gweithdai.
  • Cynyddu nifer y bobl sy’n mynychu cyrsiau anffurfiol yn rheolaidd.
  • Cefnogi pobl i nodi a dilyn unrhyw gyfleoedd dysgu neu astudio pellach priodol gyda’r Brifysgol Agored, neu ddarparwr addysg arall.

Y camau nesaf

Drwy gydol y cynllun peilot, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach i archwilio cyfleoedd ar gyfer cymorth ar y cyd i denantiaid yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd canlyniadau’r peilot ym Merthyr yn llywio datblygiad llwybr dysgu ar gyfer tenantiaid mewn tai cymdeithasol ledled Cymru.

 

id before:12324
id after:12324