gan Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith
Yn ei araith i’r Gynhadledd Addysg Oedolion yn 2022 ymrwymodd Jeremy Miiles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i safleoli Cymru fel cenedl ail gyfle; lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.
Bydd angen llawer o heyrn yn y tân i wireddu’r uchelgais ganmoladwy hon, ac ers gwneud yr ymrwymiad mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal nifer o weithgareddau i’n cael yno yn cynnwys gwneud dysgu gydol oes yn swyddogaeth statudol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd a datblygu dangosyddion allweddol i gefnogi addysg oedolion o fewn y rhaglen lywodraethu.
Ond efallai mai un o’r cynigion mwyaf blaengar yw peilota Cwricwlwm Dinasyddion ar gyfer Cymru. Cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith y dasg gan y Gweinidog, gan weithio gydag ystod eang o bartneriaid, i brofi a datblygu Cwricwlwm Dinasyddion – gan ddysgu o’n gwaith ein hunain mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac ar y diwygiadau diweddar sydd yn y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion.
Mae’n swnio fel y dylai fod yn gyfrol swmpus, wedi’i hysgrifennu gyda chwilsen neu wedi ei hanelu at athrawon, ond mewn gwirionedd mae’n syml. Mae’r Cwricwlwm Dinasyddion ynglŷn â rhoi’r galluoedd neu’r dulliau i bobl i gyflawni eu potensial.
Gall dinasyddion swnio fel term sy’n codi braw, ond pan feddyliwch amdano rydym i gyd yn gweithredu fel dinasyddion bob dydd heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Mae’n cyffwrdd â phob maes o’n bywydau, bydded hynny eich man gwaith, gweithgareddau diwylliannol fel mynd i edrych ar rygbi ar y penwythnos, ymuno â dosbarth gwneud gemwaith neu gwyno wrth eich cynghorydd lleol am draffig ar eich stryd. Bob tro y byddwch yn rhyngweithio gyda phobl eraill, gwnewch hynny fel rhan o gyfan mwy – fel dinesydd.
Ond yn anffodus, nid oes gan bawb yr un galluedd pan ddaw i gyflawni eu potensial. Er enghraifft efallai na fyddai person nad yw’n gwybod sut i ddefnyddio Zoom yn medru gwneud apwyntiad i weld meddyg a gallai eu hiechyd ddioddef fel canlyniad. Neu efallai nad oes gan rywun sy’n colli ei swydd y ddirnadaeth ariannol i wybod beth i’w wneud gyda’u taliad dileu swydd i sicrhau eu dyfodol ariannol.
Mae’r Cwricwlwm Dinasyddion wedi dynodi pedwar galluedd: digidol, iechyd, ariannol a dinesig, ac rwy’n sicr fod gan bawb ohonom wendidau ar ryw lefel yn y meysydd hyn sy’n ein hatal rhag cyflawni ein potensial.
Felly sut mae’r Cwricwlwm Dinasyddion yn helpu i oresgyn yr heriau unigol yma? Wel, dyma lle daw dysgu gydol oes i mewn iddi – y saws hud yng nghawl y cwricwlwm dinasyddion. Mae Raymond Williams yn rhoi esboniad gwych o pam fod dysgu gydol oes yn gweithio wrth ein galluogi i ymdrin â newidiadau cyflym o’n cwmpas, drwy ddweud fod dysgu gydol oes yn:
Fel sefydliad mae’n fraint fawr i ni drefnu Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion sy’n cydnabod oedolion sydd wedi goresgyn gwir adfyd. Un stori o’r fath sy’n dangos yr effaith y gallai Cwricwlwm Dinasyddion ei gael ar genedl ail gyfle yw Natalie Lintern.
Enillodd ein Gwobr Dysgu fel Teulu yn 2019. Ar ôl nifer o berthnasoedd lle cafodd ei cham-drin a brwydro yn erbyn bod yn gaeth i gyffuriau, roedd yn magu ei thri phlentyn ifanc ar ben ei hun. Yn ei geiriau ei hun roedd “bywyd yn boen”. Roedd wedi dod yn ynysig gyda diffyg hyder, hunan-dyb isel a phryder yn gwneud iddi deimlo na fedrai adael y tŷ am chwe mis.
Wrth ddisgrifio’r cyfnod hwnnw, dywedodd: “Y chwe mis hynny o fy mywyd oedd pan oeddwn ar fy isaf. Roedd dau o’r plant yn yr ysgol ac yn y feithrinfa, felly dim ond fi a’r babi oedd adre. Rydw i bob amser wedi edrych ar ôl fy mhlant, roeddent bob amser yn cael digon o fwyd ac yn lân, ond bodoli oeddwn i, nid byw. Nid oedd unrhyw drefn, roedd dydd yn nos a nos yn ddydd.
Cafodd Natalie gefnogaeth Dechrau’n Deg a rhaglen dysgu fel teulu Sbardun yn ysgol ei phlant. Dysgu Sir Benfro oedd yng ngofal y rhaglen. Rhoddodd dysgu fel teulu yr hyder i Natalie gwblhau Pecyn Cymorth adferiad 12-wythnos ar gyfer goroeswyr trais domestig a gyflwynwyd gan Tîm o Amgylch y Teulu. Ers hynny mae wedi mynychu cyrsiau eraill gan Sbardun i deuluoedd a dau gwrs ychwanegol – rhaglen MPower ar gyfer menywod gyda diffyg hunanhyder a rhaglen Rhianta Blynyddoedd Cynnar.
Mae bywyd Natalie wedi newid yn sylweddol. Mae’n mynd â’i phlant i’r ysgol bob dydd – mae presenoldeb y ddau blentyn hynaf wedi cyrraedd 100%. “Mae wedi newid cymaint ar fy mywyd; doeddwn i ddim yn mynd allan o’r blaen. Nawr rydw i’n medru mynd â fy mhlant i’r ysgol bob dydd, rydw i’n medru gwneud gweithgareddau tu fas, mynd ar y bws i weld fy mam, gallaf fynd i siopa bob dydd, gallaf wneud beth bynnag rydw i moen, a rydyn ni yn gwneud y cyfan fel teulu.”
Mae wedi mynd ymlaen i ystyried gyrfa fel gweithiwr cymorth cyffuriau. Dywedodd: “Rydw i eisiau helpu pobl eraill a all weld eu hunain yn fy stori. Rydw i eisiau i bobl sy’n mynd drwy broblemau i weld sut y gallais droi pethau o gwmpas. Roedd gen i rwydwaith gwych yn fy nghefnogi a byddwn yn annog pobl i ofyn am help. Mae’r dyfodol yn gyffrous.”
Fe wnaeth dysgu helpu Natalie i droi ei bywyd o amgylch a chafodd effaith gadarnhaol ar ei phlant hefyd. Fe wnaeth ei galluogi i wneud y pethau bob dydd mewn bywyd sy’n ein gwneud yn ddinasyddion – gan ei helpu hi a’i theulu i gyflawni eu potensial.
Yr hyn sy’n gwneud y Cwricwlwm Dinasyddion yn wirioneddol wahanol yw’r ffordd y cafodd ei ddatblygu a’i addysgu. Nid yw am rywun clyfar yn ysgrifennu cwricwlwm ac yn cynnwys y pynciau y credant y dylai myfyrwyr eu dysgu. Yn hytrach, mae am weithio gyda dysgwyr ar yr hyn maent eisiau ddysgu a sut y dymunant wneud hynny.
Dyna beth sy’n ei gysylltu mor gryf gyda’r Cwricwlwm i Gymru sy’n cael ei ymestyn mewn ysgolion ar hyn o bryd gan nad yw’r pwyslais ar ddysgu caeth o’r brig i lawr ond ar rymuso unigolion i gyrraedd eu potensial drwy eu dysgu eu hunain.
Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid rhagorol i ddatblygu 6 cynllun peilot gyda ffocws ar ystod eang o faterion o iechyd i ddinasyddiaeth fyd-eang, i adolygiadau gyrfa canol bywyd, i ysgolion bro a llawer o bethau yn y canol. Byddwn yn rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud hynny gyda dysgwyr. Bydd yr hyn a gawn o’r arbrofion hyn yn rhoi rhywbeth i ni gnoi cil arno wrth ystyried sut y gellid ymestyn Cwricwlwm Dinasyddion Cymru a helpu i gyflawni uchelgais ddechreuol y Gweinidog o genedl ail gyfle, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.