Sut gall addysg oedolion sicrhau gwell deilliannau i fenywod yng Nghymru?

gan Catherine Marren, Ymchwilydd, Sefydliad Dysgu a Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Yn aml defnyddir arholiadau, cyfraddau llwyddo a chymwysterau i farnu ar effeithiolrwydd dysgu. Ond mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Chwarae Teg yn awgrymu bod canolbwyntio ar ddeilliannau yn unig yn dwyn perygl o danbrisio manteision eraill y mae menywod yn eu profi trwy addysg oedolion.

Trwy ddefnyddio cyfweliadau gyda darparwyr hyfforddiant a dysgwyr, mae’r adroddiad yn canfod bod cysylltiad rhwng cyfranogiad menywod mewn addysg a gwella hyder, llesiant a’u penderfyniad.

  • Disgrifiodd y menywod fu’n dysgu eu bod yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth gyfarfod pobl newydd, yn gallu mynegi eu hunain yn well a byw’n annibynnol, ac wedi cael yr hyder i ddychwelyd i’r gwaith.
  • Cysylltwyd ymwneud â dysgu at fwy o ymdeimlad o ddiben ac optimistiaeth a newidiadau cadarnhaol i hwyliau a golwg gyffredinol ar y byd.
  • Cofnododd menywod hefyd eu bod yn teimlo’n fwy penderfynol ac wedi eu cymell i ddilyn gyrfa neu ddyheadau o ran dysg.Gall y newidiadau hyn weithredu fel catalydd ar gyfer deilliannau ehangach hefyd. Disgrifiodd y menywod effeithiau cynyddol yn deillio o’r gwelliannau cychwynnol mewn hyder, llesiant a phenderfyniad. Roedd perthnasau cryfach gyda ffrindiau a theulu, cael gwybodaeth a sgiliau a dangos cynnydd yn y gwaith ymhlith y rhai a gofnodwyd.Mae’n amlwg bod gwerth addysg oedolion yn mynd ymhell tu hwnt i ddeilliannau caled fel cymwysterau, ond mae menywod yn wynebu amrywiaeth o rwystrau a all eu hatal rhag ymwneud ag addysg. Roedd problemau gofal plant, trafnidiaeth gyhoeddus annigonol, a diffyg hyder i ymwneud ag addysg yn rhai o’r heriau allweddol a nodwyd gan fenywod a darparwyr yn yr astudiaeth.Pam bod hyn yn bwysig?Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn addysg oedolion yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn peri pryder neilltuol o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau oherwydd mae proffil presennol y dysgwyr yn awgrymu bod menywod yn nodweddiadol yn defnyddio Addysg Bellach rhan-amser, cyrsiau dysgu cymunedol i oedolion a darpariaeth addysg i deuluoedd, y meysydd sydd wedi dioddef mwyaf oherwydd y toriadau ariannol dros y degawd diwethaf.
Mae deall y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu, a sut y gellir ymdrin â nhw, yn allweddol i sicrhau bod mwy o fenywod yn cael mynediad at gyfleoedd dysgu a all wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur yn ogystal â rhoi manteision ehangach ar gyfer datblygiad personol, rhwydweithiau cymdeithasol ac ymgysylltiad cymunedol.

Felly, sut allwn ni wneud addysg yn fwy hygyrch i fenywod?

Nid yw dull yr un peth i bawb yn gweithio. Er mwyn cael menywod i ymwneud ag addysg, rhaid i’r ddarpariaeth gael ei dylunio a’i chyflwyno gyda’u hanghenion hwy yn flaenllaw.

  • Mae ar lawer o fenywod angen mynediad at ofal plant o safon uchel, fforddiadwy. Bydd darpariaeth addysg i oedolion sy’n ystyried cyfrifoldebau gofalu dysgwyr ac yn cynnig amserlen hyblyg hefyd yn ei gwneud yn haws i fenywod â phlant gymryd rhan.
  • Mae lleoliad hefyd yn ystyriaeth bwysig. Mae dysgu ar-lein wedi gwneud addysg oedolion yn fwy hygyrch i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu a rhai anghenion iechyd, tra bod addysg teuluol mewn ysgolion yn helpu i oresgyn rhwystrau sy’n wynebu rhieni plant ifanc.
  • Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau am ddim neu gyda chymhorthdal yn helpu menywod i gael mynediad at addysg. Roedd darparwyr a gyfwelwyd fel rhan o’r astudiaeth yn cymryd camau i leihau eu baich ariannol ar ddysgwyr trwy gyllid wedi ei drefnu.

Beth nesaf?

Cynhyrchodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Chwarae Teg nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol. Mae’r argymhellion yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer ymchwil pellach, i sicrhau bod gwir werth dysgu gydol oes i fenywod yn cael ei ddeall a bod y ddarpariaeth wedi ei dylunio yn y ffordd sy’n gweddu orau i’w hanghenion.

Gallwch weld yr adroddiad llawn a’r argymhellion yma.

Mae recordiad o lansio’r adroddiad ar gael i’w wylio yma

id before:12547
id after:12547