Gan: Mark Ravenhall, Ymgynghorydd Sefydliad Dysgu a Gwaith
Un o agweddau gorau cynllun strategol Medr oedd ei ffocws ar ‘anghenion y dysgwr – eu profiad, llwyddiant a llesiant – gan sicrhau y cânt eu cynnwys mewn gwneud penderfyniadau ac annog cyfranogiad mewn dysgu ar bob cam o fywyd’.
Fel rhywun a fu’n ysgrifennu am wrando ar ddysgwyr am dros ugain mlynedd, roedd hwn yn newyddion a groesawyd. Y dyddiau hyn, yr agwedd allweddol i fi yw sut mae ‘gwrando’ yn troi yn ‘weithredu’ ac yn arbennig y cwricwlwm addysg oedolion. Caiff y term ‘cwricwlwm’ ei ddefnyddio ddwywaith yn nogfen Medr ac yn gysylltiedig gyda mater cymwysterau. Mae’r ddolen hon yn adlewyrchu’r farn gyffredin fod cwricwlwm yn rhywbeth a gynlluniwyd ar gyfer dysgwyr yn hytrach na gyda dysgwyr.
Nid yw hyn yn broblem ar gyfer llawer o’r system addysg a sgiliau. Os oes angen cwricwlwm i alluogi peirianwyr i roi gwasanaeth i gerbydau trydan neu ffermydd gwynt, mae’n debyg mai arbenigwyr fyddai orau i gynllunio hynny. (Mae sut mae cymwysterau yn cadw’n gyfwastad gyda thechnolegau sy’n newid yn gyflym yn fater arall). Ond ar gyfer yr oedolion sydd fwyaf dan anfantais, mae cyd-ddylunio y cwricwlwm yn hanfodol.
Rhwystrau i ddysgu
Mae’r rhwystrau i ddysgu sy’n tueddu i wynebu unigolion o’r fath yn lluosog a chymhleth. Yn union fel nad yw anweithgaredd economaidd yn llwyr yn achos o ddiffyg gofal plant, cludiant gwael, heriau iechyd meddwl neu brinder Gwaith Teg, mae diffyg cyfranogiad mewn dysgu yn dibynnu ar gyfuniad o ffactorau.
Mae’r grwpiau sydd dan fwyaf o anfantais yn wynebu heriau lluosog, bydded hynny yn fynediad, cludiant, gofal plant neu henoed, sgiliau iaith neu hyd yn oed effeithiau profiadau addysgol gwael yr ysgol tebyg i ddiffyg hyder. I lawer, cafodd y sefyllfa ei gwaethygu gan bandemig Covid a’r cyfnodau clo. Mae gan y materion wreiddiau dwfn a maent yn hirhoedlog.
Fodd bynnag, nid yw’r cyfan ar ben. Dangosodd gwaith diweddar Dysgu a Gwaith Cymru ar y Cwricwlwm Dinasyddion fod datrysiad. Y newyddion da yw fod gan bob oedolyn hefyd amrywiaeth o ‘alluoedd’ presennol y gellir adeiladu arnynt os caiff y cwricwlwm ei gynllunio ar y cyd gyda dysgwyr. Yn ystod 2023 a 2024 buom yn gweithio gyda phartneriaid mewn chwe ardal beilot gan weithio gydag awdurdodau lleol, darparwyr addysg oedolion, partneriaeth ysgol-coleg, mudiad iechyd meddwl, cymdeithas tai, lleoedd nodded, elusen amgylcheddol a dau sefydliad addysg uwch. Fe wnaeth yr amrywiaeth lleoliadau ac arbenigedd ein galluogi i brofi’r Cwricwlwm Dinasyddion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Dechrau o ble mae’r dysgwr
Lle mae’r dull yn gweithio orau yw pan fo darparwyr yn dechrau o lle mae’r dysgwyr – drwy wrando. Ar gyfer rhai darparwyr roedd hyn yn golygu peidio cynnig ystod o opsiynau – neu ‘gynnyrch marchnata’ fel y galwodd un ef – ond dechrau gyda dalen wag o bapur.
Beth ydych chi ei eisiau?
Ar gyfer rhai oedolion gall hyn olygu:
Teithiau dysgu
Roedd yn fraint i ni ddilyn teithiau dysgwyr o fannau dechrau o’r fath i ddarpariaeth arall – ‘roedd fy mab mor falch ohonof’, yn cael tystysgrif – tebyg i gyrsiau DIY. Y llinyn cyffredin oedd addysgwyr yn gwrando ar y sgiliau a’r galluoedd oedd gan ddysgwyr eisoes ac adeiladu arnynt.
A’i roi yn syml, ni allwch gynllunio rhaglen ddysgu ymlaen llaw ar gyfer dysgwyr sy’n cael problemau lluosog. Nid yw hyn yn golygu nad yw’n rhaid i addysgwyr oedolion fod wedi paratoi. Roedd ymagweddau at addysgeg gyfranogol yn elfen allweddol o hyfforddiant addysgu o fewn y cynlluniau peilot. Cafodd athrawon eu synnu faint mor effeithlon oedd eu gwaith yn defnyddio’r dulliau hyn.
Er enghraifft, os yw’r dysgwr angen cymorth am gydnerthedd, ai’r ffordd orau o wneud hyn yw cwrs a gynlluniwyd ymlaen llaw dan yr enw ‘Adeiladu Cydnerthedd’ neu weithgaredd tebyg ‘Adeiladu Gardd Gymunedol’? Gallai’r ddau arwain at fwy o gydnerthedd ond mae’r ail yn gymaint mwy. Y neges yw fod gan y dysgwr rywbeth i’w gyfrannu – nid model diffyg mohono – ac mae’r gymuned maes o law yn cael gofod gwyrdd newydd.
Mae adeiladu gardd yn cynnwys yr holl alluoedd yn y Cwricwlwm Dinasyddion neu Sgiliau Bywyd ar gyfer Ewrop: iaith, rhifedd, ariannol, iechyd, digidol, dinesig, rhyngbersonol ac amgylcheddol. Y mater hollbwysig yw fod dysgwyr yn derbyn cydnabyddiaeth am sgiliau a enillwyd neu gynnydd mewn galluoedd. Mae hyn yn eu galluogi i bwyso a mesur eu cynnydd a’u llwyddiant a siarad gydag addysgwyr am eu camau nesaf.
Asesu galluoedd
Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu Offeryn Asesu Galluedd i gefnogi’r broses hon. Byddwn yn treialu’r dull mewn dau leoliad: dysgu fel teulu a thai cymdeithasol. Wrth wneud hynny byddwn yn gweithio gyda Phartneriaethau Dysgu fel Oedolion yn y Gymuned gan fod cydweithio rhwng asiantaethau yn allweddol i lwyddiant y Cwricwlwm Dinasyddion. Mae angen dull aml-asiantaeth i fynd i’r afael ag amddifadedd lluosog. Dangosodd gwaith ar y Cwricwlwm Dinasyddion yn Rochdale fod gan addysg oedolion fuddion cyllidol ym meysydd iechyd, diogelwch y cyhoedd a chydlyniaeth gymdeithasol.
Sgiliau Bywyd i Gymru
Un maen tramgwydd ar gyfer dysgwyr, fodd bynnag, yw’r term Cwricwlwm Dinasyddion, sy’n awgrymu ei fod yn ymwneud yn bennaf ag addysg dinasyddiaeth. Rydym hefyd yn ymchwilio gyda phartneriaid ail-enwi’r ymagwedd yn ‘Sgiliau Bywyd i Gymru’ i adlewyrchu’r ymagwedd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Un o ganfyddiadau allweddol y cynlluniau peilot oedd yr aliniad agos rhwng y dull Cwricwlwm Dinasyddion â’r Cwricwlwm i Gymru cyn-16. Un agwedd ganolog oedd cysyniad ‘parodrwydd’. Sut ydyn ni’n galluogi oedolion sy’n ddysgwyr i fod yn ‘barod’ i chwarae eu rhan fel dinasyddion?
Beth bynnag y byddwn yn ei alw, efallai ei bod yn amser am gwricwlwm addysg i Gymru – ac un sy’n wirioneddol wrando ar ddysgwyr yn eu holl amrywiaeth. Wedi’r cyfan, mae’r cwricwlwm yn eiddo iddyn nhw!