Ailwampio Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yng Nghymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Hyd yn oed cyn y pandemig roedd degau o filoedd o bobl ifanc ar draws Cymru yn wynebu anawsterau yn y farchnad lafur ac wrth gael mynediad i addysg a hyfforddiant.  Mae Covid wedi dwysau yr anghydraddoldeb yma ac wedi gwneud gweithredu newydd gan y llywodraeth yn fater o fwy o brys byth.

Caiff cefnogaeth ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd fwyaf mewn risg o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ei gydlynu drwy’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (YEPF) sy’n helpu i gydlynu cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc 11-24 oed.

Cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Choleg Gŵyr Abertawe eu comisiynu i ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a phobl ifanc i ddysgu mwy am sut mae’r fframwaith yn gweithio. Cafodd canfyddiadau’r gwaith hwn eu cyhoeddi a byddant yn cyfrannu at ddatblygu fframwaith diwygiedig i roi gwell cefnogaeth i bobl ifanc.

Cynhaliwyd y gwaith drwy’r digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (dau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac wyth gyda rhanddeiliaid yn gweithio ar y fframwaith) yn ogystal ag ymgysylltu gyda phobl ifanc drwy arolwg ar-lein a grwpiau ffocws mwy manwl.

Adborth gan bobl ifanc

Dywedodd pobl ifanc wrthym pa mor anodd y mae llawer ohonynt yn canfod yr amgylchedd ysgol. Fe wnaethant ddweud na theimlent bod pob dysgwr yn cael eu hystyried yn bwysig a’i bod yn  ymddangos y rhoddid blaenoriaeth i’r disgyblion hynny y credid oedd fwyaf tebygol o lwyddo’n academaidd. Fe wnaethant danlinellu pwysigrwydd cefnogaeth ar bwyntiau pontio allweddol a’r angen am ystod ehangach o opsiynau a chyngor ac arweiniad clir wrth ddewis eu TGAU. Fe wnaethant siarad yn angerddol am bwysigrwydd perthynas gadarnhaol gydag athrawon unigol a staff cymorth a bod y gefnogaeth hon yn hanfodol wrth gyfrannu at eu llwyddiant a’u datblygiad yn y tymor hirach.

Wrth edrych ar ddyfodol polisi’r llywodraeth, fe wnaethant hefyd siarad yn gadarnhaol am y syniad o Warant Person Ifanc. I rai, byddai gwybod fod cyfle iddynt gael mynediad i addysg, hyfforddiant, gwaith neu help i sefydlu eu busnes eu hunain wedi rhoi gobaith iddynt ar gyfer y dyfodol. Dangosodd nad yw pobl ifanc yn dioddef o ddiffyg uchelgais. Maent eisiau yr un pethau â’u cyfoedion: swydd dda, cartref gweddus a dechrau da mewn bywyd. Fodd bynnag, mae gormod o bobl ifanc yn credu nad yw’r pethau hyn ar gael iddyn nhw. Mae diffyg disgwyliad ac nid uchelgais. Mae’n rhaid i dorri’r cylch hwnnw a sicrhau cyfle i bawb fod yn ganolog i YEPF diwygiedig.

Barn rhanddeiliaid

Roedd rhanddeiliaid yn iawn i ganolbwyntio ar sut oedd y fframwaith yn gweithio a lle y medrid ei gwella. Er i ni ganfod bod heriau go iawn yn wynebu’r system, fe welsom hefyd lefel anhygoel o ymrwymiad gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau i gydweithio i gefnogi pobl ifanc. Fodd bynnag, fe wnaethant hefyd sôn fod diffyg capasiti a rhwystrau ymarferol i rannu data wedi ei gwneud yn anodd sicrhau cydweithio effeithlon ar adegau. Yn neilltuol, gwelsom sut mae’r rhwystrau hyn i rannu data yn gwneud pontio gymaint â hynny yn anos i’r bobl ifanc hynny ac y gall natur gystadleuol y system ôl-16 weithiau fod yn rhwystr i gydweithio.

Roedd tystiolaeth fod systemau effeithlon wedi sefydlu ar gyfer dynodi’r bobl ifanc oedd fwyaf mewn risg o ddod yn NEET ac enghreifftiau da o lle mae ymyriad cynharach yn gweithio’n dda (er enghraifft, gefnogaeth yn gynharach i helpu gyda phontio i ysgol uwchradd). Soniodd  rhanddeiliaid ei bod yn anos cydlynu cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc ac yn gyffredinol fod YEPF wedi datblygu’n well ar gyfer y garfan 11-18 oed.

Fe wnaethant ddynodi heriau penodol gyda chynnydd yn nifer o bobl ifanc a ddosberthir fel bod yn rhai sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref ac yn nifer y bobl ifanc sy’n wynebu problemau iechyd meddw.

Mae colli rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop, ac fel canlyniad i hynny drefniadau cyllid newydd yn dilyn Brexit, yn gonsyrn mawr i randdeiliaid. Er fod y trefniadau presennol ymhell o fod yn berffaith, mae’n achos pryder ei bod yn debygol y bydd diffyg sylweddol mewn cyllid yn y dyfodol fydd yn arwain at golli cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Edrych i’r dyfodol

Os yw’r pandemig wedi dangos yr heriau sy’n wynebu ein pobl ifanc, mae hefyd wedi dangos lefel eithriadol yr ymrwymiad gan ddarparwyr proffesiynol a gwasanaeth sy’n gweithio bob dydd i’w helpu. Bydd YEPF diwygiedig fwy o angen yr ymrwymiad hwn nag erioed o’r blaen os ydym i sicrhau ein bod yn dangos ein bod yn ystyried fod pob person ifanc yn bwysig a rhoi cyfle iddynt gyflawni eu potensial. Efallai yn bwysicaf oll, mae angen rhoi barn a phrofiadau bywyd pobl ifanc sy’n wynebu anfantais wrth galon unrhyw fframwaith newydd. Bydd gwrando ar ac ymgysylltu’n uniongyrchol gyda’r rhai y mae’r fframwaith yn effeithio mwyaf arnynt, yn golygu y gall dulliau gweithredu’r dyfodol sicrhau’r canlyniadau mae ein pobl ifanc eu hangen.

 


David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru

chart - welsh

Diwygio'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Rhanddeiliaid
Dadlwythwch yr adroddiad
id before:8898
id after:8898