A all Papur Gwyn Get Britain Working gael Cymru i weithio?

gan Joshua Miles, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn Get Britain Working y bu’n sôn amdano ers cryn amser. Mae’r Papur Gwyn yn cyflwyno diwygiadau sylweddol i’r ffordd y bydd cymorth cyflogaeth yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn neilltuol, gyda’r nod o ddod ag iechyd, gwaith a sgiliau ynghyd mewn model cyflenwi sy’n fwy ymatebol yn lleol.

Pam fod angen diwygio’r system?

Wel, yn syml, bu cynnydd sylweddol mewn anweithgarwch economaidd yn y Deyrnas Unedig yn bennaf oherwydd afiechyd. Mae’r broblem hon yn fwy amlwg yng Nghymru. Fel arfer mae ein cyfraddau anweithgarwch economaidd 4-5 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig beth bynnag, ac mewn misoedd diweddar gwelsom ffigurau anweithgarwch economaidd yr Arolwg Gweithlu (LFS) mor uchel â 28% ar gyfer Cymru, gan awgrymu twf mawr mewn unigolion nad ydynt yn gweithio a heb fod yn edrych am waith. Mae angen rhoi cafeat ar hyn wrth gwrs, mae’r LFS yn annibynadwy ar hyn o bryd oherwydd problemau samplo, felly nid ydym yn gwybod mor fanwl ag yr hoffem beth yw’r darlun go iawn.

Ar y llaw arall, mae diweithdra yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn agos at gyfradd naturiol. Wrth gwrs, nid oes neb eisiau gweld diweithdra yn cynyddu, ond mae’r system fel y mae ar hyn o bryd yn rhoi llawer o bwyslais ar gael pobl ddi-waith yn ôl i waith. Mae hyn yn golygu yn aml nad yw cymorth yn targedu’r bobl gywir. Gwyddom er enghraifft mai dim ond un mewn deg o weithwyr hŷn neu anabl sy’n cael cymorth i ganfod gwaith ac ar draws y Deyrnas Unedig dim ond 1% o bobl economaidd anweithgar sydd mewn gwaith 6 mis yn ddiweddarach.

Mae hyn yn neilltuol o bwysig o gofio am darged Llywodraeth y DU o gyfradd cyflogaeth 80%, a dim ond drwy fynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd y gellir cyflawni hyn. Er enghraifft, yng Nghymru byddem angen 43,000 ychwanegol o bobl mewn gwaith i gau’r bwlch cyflogaeth gyda’r Deyrnas Unedig a 131,000 i gyrraedd cyfradd 80%. Mae 72,000 o bobl ddi-waith, nad yw’n ddigon o bobl i gyrraedd y targed o 80%, ac maent eisoes yn derbyn cymorth sylweddol. Fodd bynnag, mae tua 500,000 o bobl economaidd anweithgar, gydag ychydig dros eu hanner gyda salwch hirdymor a 158,000 arall yn gofalu am eraill. Dywedodd lleiafrif sylweddol eu bod eisiau gweithio. Mae ymestyn cymorth i bobl economaidd anweithgar yn wirioneddol bwysig os ydym eisiau gwneud cynnydd ar gyflogaeth.

Perthyn i’r ddwy ochr

Felly faint mae’r diwygio yn effeithio ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru? Wel, fel y gwnaethom ei nodi yn ein adroddiad yn gynharach yn y flwyddyn, mae Cymru yn perthyn i’r ddwy ochr. Ar hyn o bryd Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am brif raglenni cyflogaeth, yn cynnwys contractau mawr fel Restart a rhwydwaith y Canolfannau Byd Gwaith. Ar y llaw arall, cafodd peth cymorth cyflogaeth, yn arbennig gyda ffocws ar bobl ifanc, ei ddatganoli (Twf Swyddi Cymru+ er enghraifft). Yn hanesyddol hefyd, bu gan gronfeydd strwythurol Ewrop rôl enfawr ym mholisi cyflogaeth Cymru, er fod natur y rôl honno wedi newid ar ôl Brexit gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Os ydym yn meddwl am iechyd, gwaith a sgiliau fel y prif fantra yna mae’n amlwg fod dwy o estyll sylweddol y polisi hwn – iechyd a sgiliau – wedi eu datganoli’n llwyr, gan olygu ei bod yn anochel y bydd pethau’n wahanol yng Nghymru.

Felly sut mae’r Papur Gwyn yn trin hyn? O’r hyn a ddeallaf i, mae’n gwneud pedwar peth mawr.

Yn gyntaf, mae’n ymrwymo eto i ddatganoli holl gyllid cymorth cyflogaeth heblaw Canolfan Byd Gwaith i Gymru. Roedd hyn ym maniffesto Llafur y Deyrnas Unedig a byddai’n symud astell mawr o bolisi allan o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac i Lywodraeth Cymru. Mae’n anochel y bydd hyn yn cymryd peth amser, felly y flwyddyn nesaf mae’r Papur Gwyn yn awgrymu y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ar gyfer profi ac arloesi gweithgaredd o amgylch iechyd, gwaith a sgiliau.

Ffocws canolbwynt diwygio yn Lloegr yw cyfuno Canolfan Byd Gwaith gyda’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol er mwyn symud y pwyslais ymaith o reoli llesiant tuag at gyngor ar yrfaoedd a chyflogaeth. Mae’r polisi hwnnw yn amhosibl yng Nghymru gan na fedrir uno  Gyrfa Cymru (wedi ei ddatganoli) a’r Ganolfan Byd Gwaith (wedi ei gadw) heb ddatganoli pellach neu ddileu datganoli presennol. Felly yn lle hynny, mae’r Papur Gwyn yn siarad am hyblygrwydd yn y model cyflenwi i sicrhau fod y model yn adlewyrchu gwasanaethau datganoledig yng Nghymru.

Yn olaf, mae’r Papur Gwyn yn addo sefydlu trefniadau llywodraethu newydd gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i helpu llunio trafodaethau am ddiwygio’r Ganolfan Byd Gwaith a chytuno ar y ffordd orau i weithio mewn partneriaeth ar faterion y mae gan y ddwy lywodraeth gyfrifoldeb amdanynt a buddiannau a gaiff eu rhannu. Mae hyn yn newid pwyslais sylweddol o Lywodraeth flaenorol y DU ac yn cyflawni un o’r argymhellion allweddol o’n archwiliad ein hunain o gymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae hwn yn ddatblygiad a groesewir yn fawr."

Felly beth fydd diwedd hyn i gyd?

Ymddengys fod hon yn ymgais wirioneddol i gysoni dull gweithredu mwy canoledig blaenorol yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda realaeth datganoli yng Nghymru. Mae’n amlwg mai’r manylion fydd yn bwysig (ac mae llawer mwy o fanylion i ddod), ond mae’r cywair yn galonogol, gan ddangos newid agwedd gan Lywodraeth y DU.

Pan gaiff cymorth cyflogaeth presennol sydd wedi ei ddatganoli (Cymru’n Gweithio, Twf Swyddi Cymru+ ac yn y blaen), rheolaeth bosibl Llywodraeth Cymru dros unrhyw olynydd i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, cyllid cymorth cyflogaeth sydd newydd ei ddatblygu a model Canolfan Gwaith sy’n adlewyrchu tirlun polisi Cymru, cewch fod Llywodraeth Cymru yn bendant iawn yn y sedd yrru wrth fynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd a chynyddu cyflogaeth.

Yr her nawr fydd cael cydlynu o fewn Cymru yn gywir a sicrhau fod ffocws darpariaeth ar y peth cywir. Y cyfle felly yw hybu aliniad llawer glannach rhwng polisïau i gadw pobl yn iach, polisïau i wella eu sgiliau a’u cefnogi i gael yn ôl i waith. Mae angen  i ni ddechrau meddwl am y GIG a rhestri aros fel bod yn bwysig i gyflogaeth yn ogystal ag i iechyd.

Dylai hyn fod yn rhan allweddol o’r drafodaeth ar gyfer etholiadau 2026 i Senedd Cymru lle caiff pob plaid gyfle i fanylu sut y gallai hyn weithio yng Nghymru.

id before:16093
id after:16093